John Herbert Roberts, Barwn 1af Clwyd
| John Herbert Roberts, Barwn 1af Clwyd | |
|---|---|
Syr J Herbert Roberts (1909) | |
| Ganwyd | 8 Awst 1863 |
| Bu farw | 19 Rhagfyr 1955 |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Arglwydd, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig |
| Plaid Wleidyddol | plaid Ryddfrydol |
| Tad | John Roberts (AS Fflint) |
| Mam | Catherine Tudor Hughes |
| Priod | Hannah Rushton Caine |
| Plant | Trevor Roberts, David Stowell Roberts, William Herbert Mervyn Roberts |
Roedd John Herbert Roberts, Barwn 1af Clwyd o Abergele (8 Awst 1863 – 19 Rhagfyr 1955) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Roberts yn 61 Hope Street, Lerpwl, ym 1863, yn fab i John Roberts o Lerpwl a Bryngwenallt, Abergele; Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint (etholaeth seneddol) a Catherine Tudor (née Hughes) ei wraig.
Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lle y graddiodd B.A. yn 1884 ac M.A. ym 1888.[1]
Ar ôl ymadael a'r brifysgol treuliodd y flwyddyn 1884-1885 yn teithio'r byd a chyhoeddodd dau lyfr yn disgrifio'i brofiadau: A World Tour ac Ymweliadau a Bryniau Kasia, a thraethawd Tro yn yr Aifft a ymddangosodd yn Y Traethodydd ym 1896.[2]
Bywyd gwleidyddol
[golygu | golygu cod]Cafodd Roberts ei ethol yn AS Rhyddfrydol dros Orllewin Sir Ddinbych ym 1892 gan ddal y sedd hyd 1918. Bu'n ysgrifennydd y Blaid Ryddfrydol Gymreig ac yn gadeirydd o 1912 i 1918. Ym 1922 bu'n aelod o Gomisiwn Ysbytai Gwirfoddol Cymru.
Fe'i crëwyd yn farwnig yn 1908 a dyrchafwyd ef i Dŷ'r Arglwyddi ym 1919 gan ddefnyddio’r teitl "Barwn Clwyd o Abergele".
Bywyd teuluol
[golygu | golygu cod]Ym 1893 priododd Roberts a Hannah Rushton Caine, merch yr Aelod Seneddol William Sproston Caine. Bu iddynt dri mab: John Trevor Roberts, (a olynodd ei dad fel 2il Farwn Clwyd) 1900-1987; Yr Anrhydeddus David Stowell Roberts (efaill) 1900-1956 a'r Anrh. William Herbert Mervyn Roberts 1906-1990.[3]
Bu farw'r Arglwydd Clwyd ar 19 Rhagfyr 1955 yn ei gartref yn Abergele.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.ukwhoswho.com/view/article/oupww/whowaswho/U235842, adalwyd 12 Rhag 2014
- ↑ ROBERTS , JOHN HERBERT , BARWN CLWYD o ABERGELE http://wbo.llgc.org.uk/cy/c4-ROBE-HER-1863.html adalwyd 13 Rhag 20014
- ↑ http://www.thepeerage.com/p24239.htm#i242383 adalwyd 13 Rhag 2014
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: William Cornwallis West |
Aelod Seneddol dros Orllewin Sir Ddinbych 1892 – 1918 |
Olynydd: Diddymu'r sedd |