John Bowen Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Bowen Jones
John Bowen Jones.jpg
Ganwyd 10 Chwefror 1829 Edit this on Wikidata
Llanwenog Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Rhagfyr 1905 Edit this on Wikidata (76 oed)
Aberhonddu Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth gweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Roedd Y Parchedig John Bowen Jones (10 Chwefror 182910 Rhagfyr 1905) yn weinidog Annibynnol Cymreig. [1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd John Jones yn Llanwenog, Sir Aberteifi yn blentyn i John Jones, Amaethwr, a Mary Griffith ei wraig. [2]

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei addysgu mewn ysgolion lleol yn ardal Capel Dewi. Yn 12 oed aeth i ysgol ramadeg Llandysul. O'r ysgol ramadeg aeth i ysgol baratoi yn Llanybydder o dan ofal John Jones, Llangollen. Ym 1845 bu'n llwyddiannus yn arholiad mynediad i Athrofa'r Presbyteriaid yng Nghaerfyrddin. Oherwydd ei oedran (dim ond 16 mlwydd oed) ni chafodd mynd i'r coleg ar unwaith ond rhoddwyd £5 o fwrsari iddo ddychwelyd i'r ysgol ramadeg am flwyddyn arall. Gwariodd blwyddyn yn Athrofa Caerfyrddin gan sefyll arholiad matriciwleiddio i Brifysgol Llundain, lle graddiodd BA ym 1850. [3] Ef a'r parch Henry Oliver oedd y gweinidogion Annibynnol cyntaf i dderbyn gradd o brifysgol wladol. [4]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymunodd Jones a'r Eglwys Annibynnol yng Nghapel Brynteg, Llanwenog ym 1841 a dechreuodd bregethu ym 1847.

Ar ôl graddio derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar gapeli Annibynnol Hermon, Llansadwrn a Thabor Llanwrda [5] gan gael ei ordeinio ym mis Awst 1851. Ym 1849 symudodd i ofalu am gapel yr annibynwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ym Mhen-y-bont penderfynodd ychwanegu Bowen at ei enw er mwyn ei wahaniaethu oddi wrth y John Jonsiaid di rifedi eraill. Mae Henry Oliver yn ei gofiant iddo yn y Geninen yn ddweud nad oedd unrhyw reswm arbennig am ddewis yr enw, [2] tra fo Daniel Rees ym Mhapur Pawb yn awgrymu mae Thomas Bowen oedd enw un o'i hen, hen deidiau. [3] Wedi 15 mlynedd ym Mhen-y-bont symudodd i Aberhonddu lle fu'n weinidog hyd ei ymddeoliad ym 1903.

Yn ogystal â bod yn weinidog bu'n cadw ysgolion paratoawl ym Mhen-y-Bont ac yn Aberhonddu a baratôdd dros 300 o ddynion ar gyfer addysg ddiwinyddol.

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Jones yn gyfrannydd cyson i'r cylchgronau Cymreig. Rhwng 1866 a 1903 bu'n olygydd y cylchgrawn Y Cennad Hedd a rhwng 1875 a 1879 bu'n olygydd Y Beirniad. [6] Cyhoeddodd dau lyfr Y Blodeuglwm ym 1876 a Casgliad o Hen Emynau mewn dwy gyfrol ym 1877 a 1883.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Jones ag Ann Owen, llysferch y Parch John Thomas, Lerpwl cawsant bump o blant. Eu mab hynaf oedd y Barnwr Ivor Bowen. [7]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl ei ymddeoliad dechreuodd dioddef o glefyd Alzheimer. Bu farw yn Aberhonddu yn 76 mlwydd oed [8] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent y dref. [9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "JONES, JOHN BOWEN (1829 - 1905), gweinidog Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-17.
  2. 2.0 2.1 Y Geninen Gŵyl Ddewi 1906 Y PARCH. J. BOWEN-JONES, B.A gan Henry Oliver adferwyd 16 Mawrth 2020
  3. 3.0 3.1 "Y PARCH J B JONES BA ABERHONDDU - Papur Pawb". Daniel Rees. 1894-08-18. Cyrchwyd 2020-03-16.
  4. "Y PARCH J B JONES BA LLD - Y Celt". H. Evans. 1901-08-30. Cyrchwyd 2020-03-16.
  5. "John Bowen Jones". The Surman Index. Cyrchwyd 2020-03-17.
  6. YR ADOLYGYDD a'r BEIRNIAD: Eu CYNNWYS A'U CYFRANWYR. Gan Huw Walters. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 1996. Cylchgrawn hanes Cymru; Cyfrol 19, 1998-99 adalwyd 16 Mawrth 2020
  7. "BOWEN, IVOR (1862 - 1934), K.C. ac ynad llys sirol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-17.
  8. "MARWOLAETH Y PARCH J B JONES BA LLD - Y Celt". H. Evans. 1905-12-15. Cyrchwyd 2020-03-16.
  9. "CYMRU YN Y WEINYDDIAETH - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1905-12-16. Cyrchwyd 2020-03-16.