Jo Cox

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Jo Cox
Aelod Seneddol
dros Batley and Spen
Yn ei swydd
8 Mai 2015 – 16 Mehefin 2016
Rhagflaenydd Mike Wood
Ar ei ôl Gwag
Mwyafrif 6,051 (12.00%)[1]
Manylion personol
Ganwyd Helen Joanne Leadbeater
(1974-06-22)22 Mehefin 1974
Batley, Gorllewin Swydd Efrog, Lloegr
Marw 16 Mehefin 2016(2016-06-16) (41 oed)
Leeds, Gorllewin Swydd Efrog, Lloegr
Cenedligrwydd Prydeiniwr
Plaid wleidyddol Llafur
Gŵr neu wraig Brendan Cox
Plant 2
Alma mater Coleg Penfro, Caergrawnt
Gwefan jocox.org.uk

Gwleidydd Seisnig y Blaid Lafur (DU) oedd Helen Joanne "Jo" Cox (22 Mehefin 197416 Mehefin 2016). Roedd yn Aelod Seneddol San Steffan dros Batley and Spen rhwng 8 Mai 2015 a 16 Mehefin 2016.[2]

Cafodd ei haddysg yng Ngholeg Penfro, Caergrawnt.

Bu farw Cox yn Ysbyty Cyffredinol Leeds, wedi ymosodiad gan dyn gyda gwn a chyllell. Dywedodd Peter Hain, cadeirydd ymgyrch Llafur yng Nghymru dros Aros yn Ewrop: "Yn wyneb digwyddiadau erchyll heddiw rydym wedi cymryd y penderfyniad i roi’r gorau i ymgyrchu am y tro."[3]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Cox ar 22 Mehefin 1974 yn Batley, Gorllewin Swydd Efrog, Lloegr, a'i magu yn Heckmondwike.

Ysgrifenyddes ysgol oedd ei mam, ac roedd ei thad yn gweithio mewn ffatri past dannedd a chwistrell wallt. Cafodd ei haddysg yn Heckmondwike Grammar School, ysgol ramadeg y wladwriaeth, lle roedd yn brif ferch. Yn ystod gwyliau ysgol, bu'n gweithio yn pacio past dannedd.

Astudiodd Cox Wyddorau Cymdeithasol a Gwleidyddol yng Ngholeg Penfro, Caergrawnt, a graddiodd o Brifysgol Caergrawnt gyda gradd Baglor yn y Celfyddydau (BA) ym 1995. Hi oedd y cyntaf o'i theulu i fynychu prifysgol. Astudiodd yn Ysgol Economeg Llundain yn ddiweddarach.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl graddio, gweithiodd Cox fel cynghorydd i Joan Walley, AS Llafur, cyn symud i Frwsel i dreulio dwy flynedd yn cynghori Glenys Kinnock, a oedd yn Aelod Senedd Ewrop ar y pryd. Gweithiodd Cox i'r elusennau Oxfam ac Oxfam International rhwng 2001 a 2009, gan wasanaethu'n gyntaf ym Mrwsel fel arweinydd ymgyrch y grŵp i ddiwygio masnach, cyn dod yn bennaeth polisi ac eiriolaeth Oxfam GB yn 2005, ac wedyn yn bennaeth ymgyrchoedd dyngarol Oxfam Rhyngwladol yn Efrog Newydd yn 2007. Dylanwadodd ei gwaith yn Oxfam, oedd yn cynnwys cyfarfod â grwpiau dan anfantais yn Darfur ac Affganistan, ar ei gyrfa wleidyddol.

Arweinodd gwaith elusennol Cox yn hwyrach i rôl yn cynghori Sarah Brown (gwraig cyn Brif Weinidog y DU, Gordon Brown), a oedd yn arwain ymgyrch i atal marwolaethau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth. Roedd Cox yn gadeirydd cenedlaethol Rhwydwaith Merched Llafur ac yn uwch ymgynghorydd i'r Gronfa Rhyddid, elusen gwrth-gaethwasiaeth.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwebwyd Cox gan y Blaid Lafur i ymladd sedd Batley and Spen a adawyd yn wag gan Mike Wood yn etholiad cyffredinol 2015. Dewiswyd fel ymgeisydd ar gyfer y sedd drwy restr fer o ferched yn unig. Sedd ddiogel i Lafur ydy etholaeth Batley and Spen fel arfer, ac enillodd Cox y sedd gyda 43.2% o'r bleidlais, gan gynyddu mwyafrif Llafur i 6,051.

Gwnaeth Cox ei haraith gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ar 3 Mehefin 2015, gan ei ddefnyddio i ddathlu amrywiaeth ethnig ei hetholaeth, tra'n tynnu sylw at yr heriau economaidd sy'n wynebu'r gymuned, ac yn annog y llywodraeth i ailfeddwl ei agwedd tuag at adfywio economaidd. Roedd yn un o 36 ASau Llafur i enwebu Jeremy Corbyn fel ymgeisydd yn etholiad arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn 2015, ond dywedodd ar y pryd ei bod wedi gwneud hynny er mwyn ei roi ar y rhestr ac annog trafodaeth eang. Yn yr etholiad cyntaf pleidleisiodd dros Liz Kendall, a cyhoeddodd ar 6 Mai 2016 ar ôl yr etholiadau lleol yr oedd hi a chyd-AS Neil Coyle yn difaru eu bod wedi enwebu Corbyn.

Roedd gwrthdaro Syria yn un o brif faterion ymgyrchu Cox. Ym mis Hydref 2015, cyd-ysgrifennodd, gyda'r AS Ceidwadol Andrew Mitchell, erthygl yn The Observer, oedd yn dadlau y gallai luoedd milwrol y DU helpu i gyflawni ddatrysiad teg i'r gwrthdaro, gan gynnwys creu hafanau diogel i sifiliaid y tu mewn i Syria. Yn ystod y mis hwnnw, lansiodd Cox y grŵp Seneddol Hollbleidiol "Cyfeillion Syria", a daeth yn gadeirydd y grŵp. Yn y bleidlais a ddilynodd i gymeradwyo ymyrraeth filwrol y DU yn erbyn ISIL yn Syria, ymatalodd Cox (un o bum AS Llafur i wneud hynny), gan nad oedd yn ystyried yr ymyrraeth i fod yn rhan o strategaeth gynhwysfawr effeithiol i fynd i'r afael â gwrthdaro Syria gan gynnwys ymdrin â Llywydd Bashar al-Assad. Ysgrifennodd Andrew Grice o The Independent y "dadleuodd hi yn gryf y dylai Llywodraeth y DU fod yn gwneud mwy i helpu'r dioddefwyr ac i ddefnyddio ei ddylanwad tramor er mwyn rhoi gorau ar wrthdaro Syria".

Roedd Cox yn gefnogwr seneddol i Gyfeillion Llafur Palesteina a'r Dwyrain Canol, a galwodd am ddileu gwarchae Llain Gaza. Gwrthwynebodd hi ymdrechion y llywodraeth i gwtogi'r symudiad dros boicot, sancsiynau a lleihai buddsodiadau. Meddai, "Rwy'n credu mai ymosodiad enbyd ar ryddid democrataidd ydy hyn. Nid yn unig y mae'n iawn i foicotio cwmnïau anfoesegol, ond mae ganddom hawl i wneud hynny."

Cefnogodd Cox yr ymgyrch "Aros" yn ystod refferendwm 2016 ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Yn dilyn ei marwolaeth, ymatalodd y ddwy ochr rhag ymgyrchu am y refferendwm am ddiwrnod fel arwydd o barch. Cyhoeddodd y BBC y byddai rhifau o Question Time a This Week, dwy raglen trafodaeth wleidyddol a drefnwyd i gael eu darlledu y noson honno ac i ganolbwyntio ar faterion yn ymwneud â'r refferendwm, yn cael eu canslo.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 16 Mehefin 2016, saethwyd a trywanwyd Cox y tu allan i lyfrgell yn Birstall, Gorllewin Swydd Efrog, ar ei ffordd i gynnal cymhorthfa etholaeth a drefnwyd ar gyfer 1pm.

Yn ôl llygad-dystion, fe'i saethwyd dair gwaith - unwaith ger y pen - a trywanwyd sawl gwaith. Trywanwyd hefyd dyn 77 mlwydd oed tra oedd yn ceisio atal ei marwolaeth. Honnodd adroddiadau cynnar y gwaeddodd yr ymosodwr "Britain first" yn ystod yr ymosodiad. Cyhoeddodd y blaid asgell-dde Britain First ddatganiad, yn gwadu unrhyw anogaeth am yr ymosodiad, ac awgrymodd "Gallai fod mai slogan yn hytrach na chyfeiriad at ein plaid yr oedd".

Pedair awr ar ôl y digwyddiad, cyhoeddodd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog fod Cox wedi marw yn Ysbyty Cyffredinol Leeds. Hi yr AS cyntaf i gael ei llofruddio yn ei swydd ers marwolaeth y Ceidwadwr Ian Gow ym 1990, pan laddwyd ef gan fom car a osodwyd gan yr IRA, a hwn oedd yr ymosodiad difrifol cyntaf ar AS ers i Stephen Timms gael ei drywanu gan Roshonara Choudhry mewn ymgais i'w lofruddio yn 2010. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn Eglwys Sant Pedr, Birstall, y diwrnod canlynol.

Cafodd Thomas Mair, 52 oed, oedd yn byw yn etholaeth Cox, ei arestio mewn cysylltiad â'i marwolaeth yn fuan ar ôl yr ymosodiad. Roedd gan Mair hanes o broblemau seiciatrig a chysylltiadau a'r National Alliance, grŵp neo-Natsïaidd yn UDA, yn ôl adroddiadau. Mewn datganiad a gyhoeddwyd y diwrnod wedi'r ymosodiad, dywedodd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yr oedd marwolaeth Cox yn "ymosodiad wedi'i dargedu" a bod cysylltiadau'r person dan amheuaeth ag eithafiaeth asgell dde yn "llinell blaenoriaeth o ymholi" wrth chwilio am gymhelliad. Ar 18 Mehefin cyhoeddodd yr heddlu fod Mair wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, niwed corfforol difrifol, meddiant ar ddryll gyda'r bwriad o gyflawni trosedd dditiadwy, a meddu ar arf bygythiol, ac yn mynd i ymddangos o flaen Llys Ynadon Westminster.

Cyhoeddodd gŵr Cox, Brendan, ddatganiad yn dilyn ei marwolaeth, yn annog pobl i "ymladd yn erbyn y casineb a laddodd hi". Ymhlith y rhai a dalodd teyrnged i Cox oedd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, a ddisgrifiodd hi fel rhywun "roddodd ei hun i'n annog ni i gwblhau ein haddewidion i gefnogi'r byd sy'n datblygu a chryfhau hawliau dynol", a dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, ei bod yn "seren ar gyfer ei hetholwyr, seren yn y senedd ac ar draws Tŷ'r Cyffredin cyfan" . Galwodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, ei gŵr i gynnig ei gydymdeimlad, gan nodi bod "y byd yn lle gwell oherwydd ei gwasanaeth anhunanol i eraill".

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Cox yn briod â Brendan Cox, a wasanaethodd fel ymgynghorydd am ddatblygu rhyngwladol i Gordon Brown yn ystod ei brifweinidogaeth. Roedd ganddynt ddau o blant, a oedd yn dair a phump oed, pan fu farw Jo Cox.

Rhannodd teulu Cox eu hamser rhwng ei chartref etholaethol a chwch preswyl (cwch camlas wedi'i addasu) ar afon Tafwys, wedi'i angori ger Tower Bridge, Llundain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]