Jessie Penn-Lewis

Oddi ar Wicipedia
Jessie Penn-Lewis
Ganwyd28 Chwefror 1861 Edit this on Wikidata
Castell-nedd Edit this on Wikidata
Bu farw15 Awst 1927 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, efengylwr, golygydd Edit this on Wikidata

Roedd Jessie Penn-Lewis (28 Chwefror 186115 Awst 1927) yn llefarydd efengylaidd Cymreig ac yn awdur nifer o weithiau Cristnogol efengylaidd. Er mwyn hybu ei gwaith crefyddol bu hi'n ymweld â Rwsia, Sgandinafia, Canada, yr Unol Daleithiau ac India. Roedd hi'n gyfaill agos i'r diwygiwr Evan Roberts.[1].

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jessie Elizabeth Jones yng Nghastell Nedd yn blentyn i Elias W Jones, tirfesurydd [2] a Hezeia (née Hopkins) ei wraig. Roedd y teulu yn un oedd yn driw i achos y Methodistiaid Calfinaidd. Roedd y fam yn weithgar yn yr achos dirwest, ac, yn ifanc iawn, roedd Jessie yn arwain cymdeithas dirwest i'r ifanc.[3]

Priododd William Penn Lewis, mab William Lewis, peintiwr, yn Eglwys St Thomas Castell Nedd ar 15 Medi 1880 [2] ni chawsant blant. Honnir bod William yn ddisgynnydd i William Penn, sylfaenydd Pensylfania. Oherwydd gwaith symudodd y cwpl i Richmond, Surrey.

Deffroad ysbrydol[golygu | golygu cod]

Yn Richmond daeth Penn-Lewis o dan ddylanwad y Parch Evan H. Hopkins, ficer Eglwys y Drindod. Dywedodd bod clywed Hopkins yn pregethu wedi arwain iddi agor ei henaid ac am y tro cyntaf i ystyried os oedd hi wedi cael buddugoliaeth dros bechod, gan ddod i'r casgliad bod hi wedi methu.[4].

Er gwaethaf teimlo nad oedd hi wedi derbyn deffroad ysbrydol digonol, dechreuodd arwain cangen Richmond o'r Young Women’s Christian Association (YWCA).

Wedi darllen llyfrau Andrew Murray Spirit of Christ a Madame Guyon Spiritual Torrents. Daeth i ddeall ei bod yn chwilio am ormod trwy ddisgwyl rhyw profiad mawr o lawnder ysbrydol. Ar 18 Mawrth 1892 mewn cerbyd rheilffordd ger Wimbledon, profodd ymdeimlad o gysegru cyflawn. Wedi hynny profodd rhyddid wrth lefaru a nerth o weddïo. Daeth y Beibl yn fyw a daeth Crist yn real.[5]

Gweinidogaeth[golygu | golygu cod]

Ychydig wedi ei thröedigaeth symudodd teulu i Gaerlŷr gan fod William wedi derbyn swydd trysorydd y ddinas. Yno datblygodd ei ddiwinyddiaeth bersonol a oedd yn pwysleisio byw bywyd o hunan wadiad fel efelychiad hunanaberth y Crist croeshoeliedig. Dechreuodd mynychu cymanfaoedd efengylaidd blynyddol Keswick gan ddyfnhau ei hargyhoeddiad mae'r unig fodd o gyflawni sancteiddrwydd personol oedd trwy broses barhaus o hunan wadiad. Mynegwyd ei chredoau'n glir yn ei thraethawd The Path to Life in God (1895), y cyntaf o dros hanner cant o bamffledi hunan cyhoeddedig a chyhoeddwyd o'i chartref yng Nghaerlŷr.

Ym 1896 aeth Penn-Lewis i Göteborg, Sweden, i fynychu'r gynhadledd Lychlynnaidd cyntaf o'r YWCA. Yn y gynhadledd cyfarfu a grŵp o bendefigion o'r Ffindir a Rwsia a chafodd gwahoddiad i efengylu ymysg bonheddwyr Rwsia. Ymwelodd â St Petersburg yn flynyddol i efengylu rhwng 1897 a 1903. Wedi ennill enw da fel cennad rhyngwladol cafodd gwahoddiad i deithio yn yr Unol Daleithiau, Canada ac India.[6]

Yn India ysgrifennodd Penn-Lewis ei llyfryn mwyaf poblogaidd The Word of the Cross (1903). Llyfryn a werthodd dros filiwn o gopïau ac a gyfieithwyd i dros 100 o wahanol ieithoedd.

Perthynas ag Evan Roberts[golygu | golygu cod]

Ym 1902 gofynnodd grŵp o weinidogion Cymreig i Penn-Lewis sefydlu confensiwn efengylaidd tebyg i un Keswik yng Nghymru.[7] Cynhaliwyd y Gymanfa Llandrindod cyntaf ym 1903. Un o'r rai a fu'n mynychu'r gymanfa oedd Evan Roberts.[8] Pan gychwynnodd Diwygiad 1904 - 1905 o dan arweiniad Roberts fu Penn-Lewis yn rhoi cefnogaeth frwd i'w weinidogaeth.[9][10]

Torrodd iechyd Roberts tua diwedd cyfnod y diwygiad ac aeth i fyw i gartref Penn-Lewis yng Nghaerlŷr i geisio adferiad. Bu'n byw yng nghartrefi Penn-Lewis yng Nghaerlŷr ac wedyn yn Llundain am 20 mlynedd hyd ei marwolaeth hi ym 1927.[11]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw o Niwmonia yn Llundain yn 66 mlwydd oed a chladdwyd ei gweddillion ym Mynwent y Crynwyr, Reigate, Surrey.

Llyfryddiaeth (rhannol)[golygu | golygu cod]

  • The Path to Life in God
  • War on The Saints
  • The Awakening in Wales & Some of the Hidden Springs
  • Dirgelwch Gogoneddus
  • Spiritual Warfare
  • The Centrality of the Cross
  • Thy Hidden Ones
  • Dying to Live
  • Conquest of Canaan
  • Pa Fodd i Ddal i fyny Gymundeb a Duw
  • Face to Face
  • All Things New
  • The Word of the Cross
  • Story of Job
  • Fruitful Living
  • Life in the Spirit
  • Opened Heavens
  • The Cross of Calvary
  • The Magna Charta of Woman
  • Power for Service
  • Gwasanaeth a milwriaeth ysbrydol (gyda Evan Roberts)
  • War on the Saints (gyda Evan Roberts)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hayward, R. (2004, September 23). Lewis, Jessie Elizabeth Penn- (née Jessie Elizabeth Jones) (1861–1927), missioner and revivalist. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 10 Ionawr 2019
  2. 2.0 2.1 Trawsysgrifau cofnodion priodas a gostegion St Thomas Castell Nedd 1880 Archif Morgannwg Cyf: P/76/CW/15
  3. Mary N. Garrard and Jessie Penn-Lewis, Mrs. Penn-Lewis: A Memoir (London: The Overcomer Book Room, 1931), 1-4.
  4. Jessie Penn-Lewis, The Leading of the Lord: A Spiritual Biography (Dorset, England: The Overcomer Literature Trust, 1903
  5. Brynmor Pierce Jones, The Trials and Triumphs of Mrs. Jessie Penn-Lewis (North Brunswick, NJ: Bridge-Logos, 1997)
  6. CBE International The Life and Influence of Jessie Penn-Lewis adalwyd 10 Ionawr 2019
  7. "Cymanfa Llandrindod ER DYFNHAU BYWYD YSBRYDOL - Y Celt". H. Evans. 1903-07-31. Cyrchwyd 2019-01-10.
  8. Trafodion Anrhydeddus Cymdeithas y Cymrodorion Evan Roberts in Theological Contex adalwyd 10 Ionawr 2019
  9. "Evan Roberts - Welsh Gazette and West Wales Advertiser". George Rees. 1905-11-30. Cyrchwyd 2019-01-10.
  10. Jessie Penn-Lewis, The Awakening in Wales, rev. ed. (Dorset, England: The Overcomer Literature Trust, 1905, repr. Fort Washington, PA: Christian Literature Crusade, 2002), 44.
  11. Rees, D. (2004, September 23). Roberts, Evan John (1878-1951), preacher and miner. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 10 Ionawr 2019