Jenny Sullivan

Oddi ar Wicipedia
Jenny Sullivan
Ganwyd1945 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, beirniad llenyddol, awdur plant Edit this on Wikidata

Awdures plant a chyn-feirniad llenyddol Cymreig yw Jenny Sullivan (ganed 1945).

Ganed Sullivan yng Nghartref Nysio Romilly yng Nghaerdydd, yn ferch i ŵr o Lundain, Frederick Anderson (1900–1993), a oedd yn drydanwr a Phyllis (1905–2009) awdures straeon byrion. Magwyd hi yn ardal Treganna, Caerdydd. Mynychodd Ysgol Gynradd Lansdowne, ac Ysgol Uwchradd Cantonian (a fu ar safle Canolfan Celfyddydau Chapter), cyn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd fel myfyrwraig aeddfed. Bu'n byw yn Rhaglan, Sir Fynwy am ran fwyaf ei bywyd, ond mae eisoes yn byw yn Llydaw. Mae'n briod gyda tair o ferched, Kirsty, Tanith a Stephanie. Tanith yw enw cymeriad yng nghyfres Gwydion.

Gweithiodd Sullivan fel beirniad llenyddol tra'n magu ei phlant. Roedd wastad wedi ysgrifennu ffuglen, straeon byrion ar gyfer oedolion yn bennaf yn ystod ei gyrfa cynnar, ond daeth yn adnabyddus am ysgrifennu straeon i blant (y rhan helaeth yn addas ar gyfer 7-12 oed), sydd yn glynu themau Cymreig at y stori.

Enillodd Tiron's Secret Journal Wobr Tir na n-Og 2006.[1] Enillodd Sullivan y wobr am yr eildro yn 2012 gyda Full Moon.[2]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Cyfres The Magic Apostrophe

  1. The Magic Apostrophe
  2. The Island of Summer
  3. Dragonson
  4. Who, Me?
  5. Me and My Big Mouth
  6. Dragons - and Decisions
  7. Nobody Asked Me!
  8. What Part of 'No' Don't You Understand? (Heb ei gyhoeddi)
  9. Tree of Light (Heb ei gyhoeddi)

Cyfres Gwydion (Wedi ei osod cyn The Magic Apostrophe, cyn i Gwydion gyfarfod Tan'ith)

  1. Gwydion and the Flying Wand
  2. Magic Maldwyn
  3. Betsan the Brave
  4. Gwydion's Quest (Heb ei gyhoeddi)

Cyfres The Back End of Nowhere

  1. The Back End of Nowhere
  2. Nowhere Again

Eraill

  • Following Blue Water
  • Tiron's Secret Journal
  • Troublesome Thomas
  • A Guardian What?
  • C'mon, Cymru!
  • A Little Bit of Mischief
  • Full Moon

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Cyn-enillwyr Gwobrau Tir na n-Og. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
  2.  Gwobrau Tir na n-Og. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]