Ysgol Uwchradd Cantonian

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Uwchradd Cantonian
Cantonian High School
Logo Ysgol Uwchradd Cantonian.png
Sefydlwyd 1907
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mrs Diane Gill
Lleoliad Heol y Tyllgoed, Y Tyllgoed, Caerdydd, Cymru, CF5 3JR
AALl Cyngor Dinas Caerdydd
Disgyblion 1146 (2005)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Glas
Gwefan cantonian.cardiff.sch.uk
Adeiladau'r ysgol.

Ysgol gyfun cyfrwng Saesneg yn ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd yw Ysgol Uwchradd Cantonian (Saesneg: Cantonian High School), ar gyfer disgyblion 11–18 oed. Y brifathrawes bresennol ydy Mrs Diane Gill.

Agorwyd yr ysgol yn wreiddiol o dan yr enw Canton Municipal Secondary School ar 21 Hydref 1907 gyda 85 o fechgyn. Lleolwyd ar Stryd y Farchnad yn Nhreganna, agorwyd Canolfan Celfyddydau Chapter ar yr hen safle ym 1971.[2] Roedd bechgyn a merched wedi eu gwahanu yn yr ysgol, dim ond bechgyn oedd i gychwyn gydag ysgol y merched yn agor yn ddiweddarach ar 4 Tachwedd 1907 gyda 105 o ddisgyblion. Newidiwyd enw'r ysgol i Canton High School for Boys, a'r Canton High School for Girls ym 1933. Ysgolion gramadeg oedd y ddwy.[3]

Cafodd rhan fawr o'r ysgol ei dinistrio yn ystod y blitz yn yr Ail Ryfel Byd ym 1941, a ni chwblhawyd trwsio'n adeilad hyd 1951. Cafodd dyfodol yr ysgol i godi yn y senedd ym 1960, oherwydd safon diffygiol adeilad yr ysgol ferched.[4] Ym mis Medi 1962, symudodd yr holl 612 o fechgyn a 32 athro cynorthwyol i adeilad newydd yn y Tyllgoed. Cymerwyd drosodd yr hen adeilad gan Canton High School for girls, ond ym 1963 symudodd y merched i'r safle yn y Tyllgoed hefyd, gyda'r merched ym mloc "A", a'r bechgyn ym mloc "B". Cyfunwyd yr ysgolion ag Ysgol Uwchradd Fodern Waterhall ym 1968, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1958. Roedd tua 1900 yn yr ysgol gyfun newydd, gyda'r plant ifengaf ar hen safle Waterhall. Mae hen adeiladau Waterhall yn gartref i Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr erbyn heddiw.[3] Newidiwyd enw'r ysgol o Canton High School i Cantonian High School ym 1970.

Heddiw[golygu | golygu cod]

Roedd 1146 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol yn 2005, gan gynnwys 134 yn y chweched dosbarth. Does dim o'r disgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ond mae tua 0.3% o'r disgyblion yn siarad ieithoedd eraill fel iaith gyntaf ac yn dysgu'r Saesneg fel ail iaith.[1]

Cyn-ddisgyblion nodedig[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.