Jade Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jade Jones
Jade Jones - Taekwondo London 2012.jpg
Jones (glas) yng Ngemau Olympaidd 2012
Gwybodaeth bersonol
Enw llawn Jade Louise Jones
Ganwyd (1993-03-21) 21 Mawrth 1993 (27 oed)
Bodelwyddan, Cymru[1]
Taldra 1.7 m (5 ft 7 in) (5 ft 7 in)
Pwysau 57 kg (126 lb)
Camp
Gwlad  Y Deyrnas Unedig
Chwaraeon Taekwondo
Camp  –57 kg
Diweddarwyd 20 Mai 2019.

Chwaraewr taekwondo Cymreig yw Jade Louise Jones MBE (ganwyd 21 Mawrth 1993), yn Bodelwyddan. Enillodd Jones y fedal aur yng nghystadleuaeth 57 kg taekwondo Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain, y tro cyntaf erioed i Brydain ennill medal aur yn y gamp[2] a llwyddodd i amddiffyn ei choron wrth gipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro[3].

Daeth yn bencampwraig tae kwondo y byd yn Mai 2019 drwy gipio'r fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd a gynhaliwyd ym Manceinion.[4]

Cafodd ei henwi'm Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn yn 2012[5]. Enillodd y fedal aur yng nghystadleuaeth 57 kg taekwondo yng Ngemau Olympaidd 2016 hefyd.

Gyrfa taekwondo[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Jones yn Bodelwyddan, Sir Ddinbych,[1] a mynychodd Ysgol Uwchradd Y fflint cyn gadael er mwyn dod yn chwaraewrwaig taekwondo proffesiynol[6]. Mae Jones yn rhan o Academi Taekwondo GB sydd wedi ei leoli ym Manceinion.

Yn 2010 casglodd Jones fedal efydd ym Mhencampwriaethau Taekwondo Ewrop yn Saint Petersburg, Rwsia.[7] a chafodd ei dewis i gystadlu yn y Gemau Olympaidd Iau cyntaf yn Singapôr yn 2010 lle llwyddodd i ennill y fedal aur wrth drechu Thanh Thao Nguyen o Fietnam yn y rownd derfynol[8][9]. Cafodd ei henwi'n Bersonoliaeth Chwaraeon Ifanc BBC Cymru yn 2010[10].

Llwyddodd Jones i ennill un o brif bencampwriaethau'r byd taekwondo wrth ennill Pencampwriaeth Agored America yn 2011 yn Austin, Texas in February 2011. Cipiodd y fedal aur yn y −62 kg diwrnod ar ôl ennill efydd yn yr adran −57 kg [11]. Casglodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Taekwondo'r Byd yn Gyeongju, De Corea yn 2011yn yr adran pwysau plu[12].

Cafodd Jones ei dewis fel aelod o dîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd 2012 yn Llundain gan ddod y Prydeinwraig cyntaf erioed i ennill medal aur taekwondo a'r person ieuengaf yn nhîm Prydain i ennill medal wrth iddi drechu Hou Yuzhuo o Tsieina yn y rownd derfynol[13].

Llwyddodd Jones i ennill Grand Prix Taekwondo'r Byd ym Manceinion yn 2015[14] wrth adeiladu tuag at Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro.

Yn wahanol i Llundain 2012 lle roedd buddugoliaeth Jones yn annisgwyl, roedd y Gymraes yn un o'r ffefrynau ar gyfer Rio de Janeiro 2016[15] a llwyddodd i drechu Eva Calvo o Sbaen 16-7 er mwyn amddiffyn ei medal aur[3][15].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Jade Jones: Taekwondo gold medal joy for Olympian". BBC News Wales. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  2. "About Jade". GB Taekwondo.
  3. 3.0 3.1 "Gemau Olympaidd Rio: Aur i Jade Jones yn y Taekwondo". BBC Cymru Fyw. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  4. Jade Jones yn bencampwr byd… “o’r diwedd” , Golwg360, 19 Mai 2019. Cyrchwyd ar 20 Mai 2019.
  5. "Welsh Sports Personality of the Year 2012: Jade Jones triumphs". BBCSport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  6. "Teenage kicks! Ecstatic Jade Jones takes Britain's first ever Taekwondo gold". www.standard.co.uk. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  7. Griffiths, Gareth. "Jade Jones going for gold medal at 2012 Olympics". Wales Online. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  8. "Jade Jones wins Britain's first Youth Olympics gold". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  9. Williams, Bob (23 December 2010). "Jade Jones named British Olympic Association taekwondo athlete of the year". The Telegraph. Cyrchwyd 16 July 2012.
  10. Williams, Bob. "Jade Jones wins BBC Cymru Wales Junior Sportswoman of the Year 2010". The Telegraph. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  11. Hope, Nick. "Youth Olympian Jade Jones claims first senior title". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  12. Hope, Nick. "Jade Jones wins World Championship silver medal". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  13. "Jade Jones wins Olympic taekwondo gold for Great Britain". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  14. "GB's Jade Jones wins gold at World Taekwondo Grand Prix". BBC Sport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  15. 15.0 15.1 "Jade Jones wins Taekwondo gold medal at Rio Olympics 2016 as GB star recreates London triumph". The Telegraph. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]