Jac Jones
Jac Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mawrth 1943 Gwalchmai |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Darlunudd llyfrau plant Cymraeg yw Jac Jones (ganed 1 Mawrth 1943).
Fe'i ganed yng Ngwalchmai, Ynys Môn, ac fe'i magwyd ym Mryste tan yn 7 oed, cyn symud yn ôl i Walchmai. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Gwalchmai ac Ysgol Uwchradd Llangefni.
Mae wedi darlunio llyfrau i blant ers canol y 70au.[1] Enillodd wobr Tir na n-Og deirgwaith, ym 1989, 1990 a 1998. Yn 2000, ysgrifennodd yn ogystal â darlunio, llyfr yn Gymraeg ac yn Saesneg – Betsan a’r Bwlis ac Alison and the Bully Monsters. Ymysg ei ddarlunwaith mae'r llyfrau Penillion y Plant, Trysorfa gan T. Llew Jones a nifer fawr o lyfrau Mary Vaughan Jones a chymeriadau iconig megis Sali Mali a Jac y Jwc. Addas felly oedd iddo ennill Tlws Mary Vaughan Jones yn 2012, tlws a gyflwynir i rhywun sydd wedi gwneud cyfraniad arbenig i lenyddiaeth plant Cymraeg.[2]
Mae hefyd wedi dylunio cloriau ar gyfer albymau ac EPs, yn cynnwys recordiau gan Brân, Leah Owen, Edward H. Dafis, Dafydd Iwan, Tecwyn Ifan a nifer o artistiaid eraill.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhestr Awduron Cymru: Jones, Jac. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2012.
- ↑ Anrhydeddu Darlunydd ac Awdur Llyfrau Plant Tlws Mary Vaughan Jones 2012 (13 Ebrill 2012).
- ↑ "Jac Jones, yr artist tu ôl i rai o gymeriadau plant enwocaf Cymru". BBC Cymru Fyw. 2024-10-26. Cyrchwyd 2024-10-27.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- [1] Archifwyd 2007-10-23 yn y Peiriant Wayback Proffil ar wefan 'Plant ar-lein'
- [2] Archifwyd 2007-09-28 yn y Peiriant Wayback Taflen Adnabod Arlunudd Cyngor Llyfrau Cymru