Jac y do
| Jac y do Corvus monedula | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Corvidae |
| Genws: | Coloeus[*] |
| Rhywogaeth: | Coloeus monedula |
| Enw deuenwol | |
| Coloeus monedula | |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Jac y do (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: jac dos) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Coloeus monedula; yr enw Saesneg arno yw Jackdaw. Mae'n perthyn i deulu'r Brain (Lladin: Corvidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. monedula, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Gellir adnabod y Jac-y-do yn weddol hawdd. Mae'n un o'r lleiaf o deulu'r brain, 34–39 cm o hyd. Du yw'r rhan fwyaf o'r plu, ond mae'r bochau a'r gwddf yn llwyd golau. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o deulu'r brain, mae'r llygaid yn wyn. Fel rheol maent yn casglu at ei gilydd yn heidiau, weithiau gannoedd gyda'i gilydd.
Maent yn hoffi cymysgedd o goed a thir agored, ac fel rheol maent yn bwydo ar lawr gan gymeryd unrhyw bryfed neu anifeiliaid bychain eraill, a hefyd hadau a grawn. Maent yn aml yn nythu ar glogwyni, weithiau nifer fawr gyda'i gilydd, ond adeiledir nythod mewn coed neu hen adeiladau hefyd, ac ambell dro mewn corn simddai. Dodwir 4-5 o wyau.
Mae'r Jac-y-do yn aderyn cyffredin ac adnabyddus yng Nghymru.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r jac y do yn perthyn i deulu'r Brain (Lladin: Corvidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Chwibanwr Borneo | Pachycephala hypoxantha | |
| Chwibanwr Caledonia Newydd | Pachycephala caledonica | |
| Chwibanwr Gilbert | Pachycephala inornata | |
| Chwibanwr Samoa | Pachycephala flavifrons | |
| Chwibanwr Schlegel | Pachycephala schlegelii | |
| Chwibanwr Wallace | Pachycephala arctitorquis | |
| Chwibanwr aur | Pachycephala pectoralis | |
| Chwibanwr bronfelynllwyd | Pachycephala orpheus | |
| Chwibanwr cefnfrown | Pachycephala modesta | |
| Chwibanwr cefnwyrdd | Pachycephala albiventris | |
| Chwibanwr llwydwinau | Pachycephala simplex | |
| Chwibanwr mangrof | Pachycephala cinerea | |
| Chwibanwr penllwyd | Pachycephala meyeri | |
| Chwibanwr torfelyn y Philipinau | Pachycephala philippinensis | |
| Sgrech ddaear Pleske | Podoces pleskei |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [1]Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.













