Jac y do
| Jac y do Corvus monedula | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Corvidae |
| Genws: | Coloeus[*] |
| Rhywogaeth: | Coloeus monedula |
| Enw deuenwol | |
| Coloeus monedula | |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Jac y do (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: jac dos) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Coloeus monedula; yr enw Saesneg arno yw Jackdaw. Mae'n perthyn i deulu'r Brain (Lladin: Corvidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. monedula, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Gellir adnabod y Jac-y-do yn weddol hawdd. Mae'n un o'r lleiaf o deulu'r brain, 34–39 cm o hyd. Du yw'r rhan fwyaf o'r plu, ond mae'r bochau a'r gwddf yn llwyd golau. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o deulu'r brain, mae'r llygaid yn wyn. Fel rheol maent yn casglu at ei gilydd yn heidiau, weithiau gannoedd gyda'i gilydd.
Maent yn hoffi cymysgedd o goed a thir agored, ac fel rheol maent yn bwydo ar lawr gan gymeryd unrhyw bryfed neu anifeiliaid bychain eraill, a hefyd hadau a grawn. Maent yn aml yn nythu ar glogwyni, weithiau nifer fawr gyda'i gilydd, ond adeiledir nythod mewn coed neu hen adeiladau hefyd, ac ambell dro mewn corn simddai. Dodwir 4-5 o wyau.
Mae'r Jac-y-do yn aderyn cyffredin ac adnabyddus yng Nghymru.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r jac y do yn perthyn i deulu'r Brain (Lladin: Corvidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Pioden adeinwen y De | Platysmurus leucopterus | |
| Sgrech-bioden Andamanaidd | Dendrocitta bayleii | |
| Sgrech-bioden dalcenddu | Dendrocitta frontalis | |
| Sgrech-bioden gycyllog | Crypsirina cucullata | |
| Sgrech-bioden gynffon rhiciog | Temnurus temnurus | |
| Sgrech-bioden gynffon-raced | Crypsirina temia | |
| Sgrech-bioden Malaysia | Dendrocitta occipitalis | |
| Sgrech-bioden y De | Dendrocitta leucogastra | |
| Sgrech-bioden yr Himalaia | Dendrocitta formosae | |
| Sgrech-bioden yr India | Dendrocitta vagabunda |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [1]Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.









