J. Beverley Smith
J. Beverley Smith | |
---|---|
Ganwyd | Jenkyn Beverley Smith ![]() 27 Medi 1931 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd, ysgrifennwr, athro cadeiriol, academydd ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol ![]() |
Hanesydd o Gymru yw'r Athro J. Beverley Smith (ganwyd 27 Medi 1931).[1] Ei brif faes yw hanes Cymru'r Oesoedd Canol yn Oes y Tywysogion.
Yn ddarllenydd ac athro yn Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae J. Beverley Smith yn awdur nifer o erthyglau dysgedig yn ogystal â'r gyfrol fawr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, sy'n astudiaeth drylwyr o yrfa Llywelyn Ein Llyw Olaf a'i gyfnod a'r unig fywgraffiad safonol o'r tywysog hwnnw.
Bu'n un o olygwyr Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd am gyfnod ac erbyn heddiw mae'n un o gyd-olygyddion Studia Celtica, un o'r prif gofnodolion astudiaethau Celtaidd.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1986)
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Smith Prof. (Jenkyn) Beverley", Who's Who (online edition, December 2017). Retrieved 4 May 2018.