Studia Celtica
Gwedd
| Enghraifft o: | cyfnodolyn |
|---|---|
| Golygydd | William J. Mahon |
| Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1966 |
| Dechrau/Sefydlu | 1966 |
| Lleoliad cyhoeddi | Caerdydd |
| Prif bwnc | hanes, hanesyddiaeth, gwyddoniaeth llenyddiaeth |
| Gwefan | http://www.uwp.co.uk/journals/studia-celtica, http://www.ingentaconnect.com/content/uwp/stce |
| Dynodwyr | |
Cylchgrawn ysgolheigaidd blynyddol a gyhoeddir yng Nghymru yw Studia Celtica. Mae'n ymdrin a phynciau ieithyddol yn bennaf, drwy gyfrwng Saesneg a Chymraeg.
Cyhoeddid y cylchgrawn gan Wasg Prifysgol Cymru ar ran Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Cyhoeddwyd Studia Celtica gyntaf yn 1966, gyda J.E. Caerwyn Williams fel golygydd. Yn 1993, unwyd y cylchgrawn hwn a Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd. Ers hynny mae Studia Celtica: Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd wedi cynnwys pynciau mewn archaeloeg, hanes a llenyddiaeth sy'n berthnasol i astudiaethau Celtaidd.