Neidio i'r cynnwys

Ivor Richard, Barwn Richard

Oddi ar Wicipedia
Ivor Richard, Barwn Richard
Ganwyd30 Mai 1932 Edit this on Wikidata
Y Betws, Sir Gaerfyrddin, Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mawrth 2018 Edit this on Wikidata
Lambeth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddComisiynydd Ewropeaidd dros Gyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chynhwysiant, Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi, Leader of the Opposition in the House of Lords, Cynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig i'r Cenhedloedd Unedig, Efrog Newydd, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Arglwydd y Sêl Gyfrin Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
TadSeward Thomas Richard Richard Edit this on Wikidata
MamIsabella Irene Davies Edit this on Wikidata
PriodGeraldine Maude Moore, Alison Mary Imrie, Janet Jones Edit this on Wikidata
PlantDavid Seward Richard, Alun Steward Richard, Isobel Margaret Katherine Richard, William John Richard Edit this on Wikidata

Gwleidydd Llafur o Gymru oedd Ivor Seward Richard, Barwn Richard PC QC (30 Mai 193218 Mawrth 2018) a oedd yn Aelod Seneddol o 1964 hyd 1974. Roedd hefyd yn aelod o Gomisiwn y Cymuned Ewropeaidd ac, yn ddiweddarach, eisteddodd fel arglwydd am oes yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Roedd yr Arglwydd Richard wedi bod yn aelod gweithgar o'r Blaid Lafur a'r Gymdeithas Fabian ers iddo fod yn y Brifysgol a sefodd fel ymgeisydd yn Ne Kensington yn etholiad cyffredinol 1959. Roedd hwn yn un o etholaethau mwyaf ffyniannus yn y wlad a daeth yn drydydd, ond yr unig fwriad oedd rhoi cyfle iddo ymarfer ei sgiliau ymgyrchu. Yn etholiad 1964, roedd Richard yn ymgeisydd ar gyfer Barons Court, etholaeth hynod ymylol rhwng Hammersmith a Fulham. Roedd Barons Court wedi gweld cystadlaethau agos iawn o'r blaen a fe wnaeth presenoldeb canolfan deledu'r BBC gerllaw sicrhau sylw da yn y cyfryngau.

Enillodd Richard y sedd o ychydig dros 1,000 o bleidleisiau. Yn y Senedd, bu'n gwasanaethu am gyfnod byr fel cynorthwyydd i Denis Healey, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ac fe'i benodwyd fel Gweinidog ar gyfer y Fyddin yn 1969. Er gwaethaf y gogwydd i'r Ceidwadwyr yn etholiad 1970 roedd yn lwcus i gadw ei sedd, a daeth yn llefarydd yr wrthblaid ar delathrebu. Collodd y swydd pan bleidleisiodd o blaid ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd (Y Farchnad Gyffredin) yn 1971, ond fe'i ailbenodwyd yn gyflym fel llefarydd Materion Tramor.

Fodd bynnag, roedd Barons Court yn sedd rhy fach i oroesi yr adrefnu etholaethau a ddigwyddodd yn 1974 a cafodd Richard hi'n anodd i ddod o hyd i sedd newydd, am nad oedd aelodau o blaid Ewrop yn boblogaidd o fewn y Blaid Lafur ar y pryd. Cafodd ei ddewis ar y funud olaf i ymladd sedd Blyth yn erbyn yr aelod AS Llafur blaenorol a oedd wedi ei ddad-ddethol oherwydd ei honiadau o lygredd lleol yn y Blaid Lafur lleol. Heb unrhyw gefndir yn yr ardal, a gyda gwrthwynebydd poblogaidd, fe'i gurwyd yn yr etholiad.

Wrth i'r Llywodraeth Lafur newydd ddod i rym yn Mehefin 1974, penodwyd ef yn Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol i'r Cenhedloedd Unedig, lle gwasanaethodd am bum mlynedd. Chwaraeodd Richard ran yn ceisio cymodi'r ddau ochr yng nghwrthdaro y Dwyrain Canol ac yn Rhodesia.[1] Daeth yn ffigwr dadleuol ar ôl i Lysgennad yr U.D.A, Daniel Patrick Moynihan, feirniadu'r Cenhedloedd Unedig am basio cynnig yn datgan bod Seioniaeth yn ffurf o hiliaeth, a cyhuddodd Richard ef o ymddwyn "fel y Wyatt Earp gwleidyddiaeth ryngwladol"; yn fuan wedi hynny diswyddwyd Moynihan gan Henry Kissinger.

Roedd Richard yn gadeirydd Cynhadledd Genefa ar Rhodesia o 28 Hydref i 14 Rhagfyr 1976. Galwyd y gynhadledd i weithredu cytundeb Henry Kissinger gyda Prif Weinidog Ian Smith o Rhodesia o'r mis blaenorol i greu llywodraeth dros dro i lywyddu tra bod cyfansoddiad newydd rheol-y-mwyafrif yn cael ei ysgrifennu.[2] Ond roedd y gwahanol genedlaetholwyr Affricanaidd o Rhodesia yn gwrthod cydnabod y cytundeb ac ni wnaed unrhyw gynnydd yn ystod chwe wythnos y gynhadledd. Roedd Smith yn ddeifiol yn ei driniaeth o Richard yn ei hunangofiant, gan nodi "diffyg uniondeb a dewrder" Richard o fethu cadw i delerau cytundeb Kissinger.[3]

Disodlwyd Richard o fewn misoedd pan ddaeth y llywodraeth Geidwadol newydd i rym ym 1979. Fodd bynnag, ym 1980, cafodd ei ddewis gan y Blaid Lafur i gymryd un o'r swyddi ar y Comisiwn Ewropeaidd (gan ddisodli Roy Jenkins). Roedd yn hysbys mai trydydd dewis y Blaid Lafur oedd ar gyfer y swydd: roedd y cyn-Gweinidog Trysorlys Joel Barnett wedi gwrthod y gwahoddiad, a roedd y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn, Fred Mulley wedi cael ei atal gan y llywodraeth Geidwadol. Cymerodd Richard gyfrifoldeb am Gyflogaeth, Polisi Cymdeithasol, Addysg a Hyfforddiant.

Dychwelodd Richard i Gymru ym 1985 ac fe'i penodwyd yn Gadeirydd World Trade Centre Wales Ltd., oedd yn ceisio denu buddsoddwyr rhyngwladol i fusnesau Cymru. Yn 1990, fe'i ddewiswyd gan Blaid Lafur fel 'Arglwydd Gweithiol', a fe'i wnaed yn Arglwydd am Oes ar 14 Mai 1990 gan cymryd y teitl Barwn Richard, o Rydaman yn Sir Ddyfed[4] a daeth yn llefarydd yr wrthblaid yn nhŷ'r Arglwyddi. Gwnaeth ei arddull bargyfreithiol arwain at ei benodiad fel Arweinydd Arglwyddi Llafur o 1992, a chafodd ei benodi i'r Cyfrin Gyngor. Ceisiodd Richard ddwysáu ymosodiad Llafur yn erbyn y Llywodaeth ac yn hwyr yn 1993 arloesoedd cynnig o ddiffyg Hyder yn y Llywodraeth (cam ddigynsail yn Nhŷ'r Arglwyddi), er ei fod yn cydnabod ei fod yn arwydd symbolaidd na fyddai'n gwneud i'r llywodraeth gywmp, oherwydd y flaenoriaeth a roddir i'r Tŷ Cyffredin.[5]

Pan enillodd Llafur etholiad 1997, daeth Richard yn Arglwydd y Sêl Gyfrin ac Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi. Gyda Llafur yn ffafrio diwygio y Tŷ a dechrau drwy gael gwared o'r Arglwyddi Etifeddol, dechreuodd Richard y gwaith ar gyfansoddiad newydd y Tŷ, ond cafodd sioc pan gollodd ei swydd yn sydyn ar yr ad-drefnu cyntaf ym mis Gorffennaf 1998 lle fe'u disodlwyd gan y Farwnes Jay o Paddington. Cafodd ei feddyliau ar y broses o ddiwygio'r y Tŷ eu cyhoeddi yn Unfinished Business yn 1999 a daeth Richard yn ffrind beirniadol o'r Llywodraeth.

Yn ddiweddarach, gwasanaethodd yr Arglwydd Richard fel Cadeirydd y Cyd-Bwyllgor Seneddol ar Ddrafft Mesur Diwygio Tŷ'r Arglwyddi.[6] Bu farw ym mis Mawrth 2018 yn 85 mlwydd oed.[7]

Comisiwn Richard

[golygu | golygu cod]

Yn 2002 gwahoddwyd Richard gan y Llywodraeth Glymblaid oedd yn rhedeg Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gadeirio comisiwn ar bwerau y Cynulliad. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 31 Mawrth 2004 ac argymellhwyd bod y Cynulliad yn cael pwerau deddfu sylfaenol mewn meysydd datganoledig o 2011, argymhelliad oedd yn ddadleuol i rai Aelodau Seneddol Llafur Cymru.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Elaine Windrich, Britain and the politics of Rhodesian independence, p. 264, https://books.google.com/books?id=ZaYOAAAAQAAJ
  2. Smith, Ian (2008). Bitter Harvest: Zimbabwe and the Aftermath of Its Independence. London: John Blake Publishing. tt. 212–213. ISBN 978-1-84358-548-0.
  3. Smith 2008: 222
  4. London Gazette: no. 52141. p. 9287. 17 Mai 1990.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-26. Cyrchwyd 2018-03-19.
  6. www.parliament.uk Archifwyd 3 Tachwedd 2011 yn y Peiriant Wayback
  7. Marw’r Arglwydd oedd am weld mwy o bwerau i Gymru , Golwg360, 20 Mawrth 2018.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]