Illtyd Harrington
Illtyd Harrington | |
---|---|
Ganwyd | 14 Gorffennaf 1931 Dowlais |
Bu farw | 1 Hydref 2015 Brighton |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Roedd Illtyd Harrington (14 Gorffennaf 1931 – 1 Hydref 2015) yn athro, yn wleidydd y Blaid Lafur ac yn golofnydd a wasanaethodd fel dirprwy arweinydd Cyngor Llundain Mwyaf (GLC)[1][2]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Harrington yn Nowlais yn fab i Timothy Harrington a Sarah (née Burchel) ei wraig. Roedd Timothy Harrington yn Gomiwnydd a ymladdodd yn erbyn lluoedd Franco yn Rhyfel Cartref Sbaen.
Nai i Illtyd Harrington yw'r actor Richard Harrington.[3]
Cafodd ei addysgu yn Ysgol St Illtyd, Dowlais, Ysgol Sir Merthyr a Choleg y Drindod Caerfyrddin lle gymhwysodd yn athro.
Roedd yn byw efo'i bartner, Chris Downes, gwisgwr theatrig i actorion megis Laurence Olivier, Maggie Smith a Billy Wilder a'r ysbrydoliaeth ar gyfer drama Ronald Harwood, The Dresser; bu Downes farw yn 2003.[4]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi ymadael a'r coleg bu Harrington yn gweithio fel athro yn Llundain gan ddyfod yn bennaeth adran Saesneg Ysgol Daneford, Bethnal Green
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ym 1959 cafodd Harrington ei ethol fel Cynghorydd Llafur ar Gyngor Paddington ac ym 1964 cafodd ei ethol i Gyngor Westminster a'r GLC[5]. Ceisiodd am enwebiad Llafur ar gyfer etholaeth Merthyr ym 1972 gan golli allan i Ted Rowlands.
Rhwng 1974 1 1976 roedd yn aelod o Gabinet Cegin Harold Wilson, sef grŵp o ymgynghorwyr agos y Brif Weinidog. Cafodd ei benodi i drefnu dathliadau gwladol ar adeg Jiwbilî Arian y Frenhines Elisabeth ym 1976. Gwasanaethodd fel dirprwy arweinydd y GLC rhwng 1973 a 1977. Ym 1980 safodd fel ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth grŵp Llafur y GLC gan golli i Andrew MacIntosh, ond cafodd ei ethol fel y dirprwy arweinydd eto. Ym 1981 llwyddodd yr ymgeisydd asgell chwith Ken Livingstone i gipio'r arweinyddiaeth oddi wrth Macintosh ond roedd yn awyddus i gadw Harrington fel ei ddirprwy er mwyn cael "wyneb cymedrol" ar arweinyddiaeth y cyngor. O dan arweinyddiaeth Livingstone a Harrington daeth y GLC yn ddraenen yn ystlys Llywodraeth Ceidwadol Margaret Thatcher a'r corff etholedig mwyaf grymus i wrthwynebu ei pholisïau; o ganlyniad penderfynodd Thatcher i ddiddymu'r Cyngor ym 1986 a daeth gyrfa wleidyddol Harrington i ben.[6]
Wedi diddymu'r GLC daeth Harrington yn golofnydd i'r New Camden Journal gan ysgrifennu am y celfyddydau a gwleidyddiaeth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Guardian 1 Hydref 2015 Illtyd Harrington obituary [1] adalwyd 2 Hydref 2015
- ↑ Philpot, T. (2019, Ionawr 10). Harrington, Illtyd (1931–2015), teacher and local politician. Oxford Dictionary of National Biography. Ed. Retrieved 23 Jan. 2019, from http://www.oxforddnb.com/view/10.1093/odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-109839.
- ↑ Wales Online 28 Rhagfyr 2007 Welsh politician’s ‘bitter disappointment’ at not becoming Merthyr MP [2] adalwyd 2 Hydref 2015
- ↑ The Guardian 29 Tachwedd 2003 Obituary: Christopher Downes [3] adalwyd 2 Hydref 2015
- ↑ London Wikia Illtyd Harrington [4] adalwyd 2 Hydref 2015
- ↑ Electoral History of the Greater London Council [5] Archifwyd 2015-09-23 yn y Peiriant Wayback adalwyd 2 Hydref 2015