Hermann von Helmholtz
Hermann von Helmholtz | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Hermann Ludwig Ferdinand von Helmholtz ![]() 31 Awst 1821 ![]() Potsdam ![]() |
Bu farw | 8 Medi 1894 ![]() Charlottenburg, yr Almaen, Berlin ![]() |
Dinasyddiaeth | Cydffederasiwn yr Almaen, Ymerodraeth yr Almaen ![]() |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ffisegydd, ophthalmolegydd, cerddolegydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, academydd, seicolegydd, ffisiolegydd, bioffisegwr, athronydd, anatomydd, naturiaethydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | cadwraeth egni ![]() |
Priod | Anna von Helmholtz ![]() |
Gwobr/au | Medal Copley, Gwobr Darlithyddiaeth Faraday, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, Medal Matteucci, Medal Albert, Croonian Lecture, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol ![]() |
Gwyddonydd ac athronydd Almaenig oedd Hermann Ludwig Ferdinand von Helmholtz (31 Awst 1821 – 8 Medi 1894). Arbenigodd ym meysydd ffiseg a ffisioleg, ond cyfranodd hefyd at ddatblygiadau yn acwsteg, opteg, mathemateg, meteoroleg, ac athroniaeth.
Fel anatomegydd, astudiodd ffisioleg y nerfau a llwyddodd i fesur buanedd ysgogiad nerfol gan ddefnyddio galfanomedr. Ar sail ei arbrofion ar fetabolaeth y cyhyrau, darganfyddodd egwyddor cadwraeth egni a'i gosod yn ddeddf fathemategol ym 1847. Arloesoedd gysyniad egni rhydd, a chyfranodd at ddatblygiadau yn thermodynameg ac electrodynameg. Astudiodd hefyd mudiant fortecs mewn hylifau. Ymhelaethodd ar ddamcaniaeth Thomas Young ar olwg a lliw, eglurodd mecanwaith ymgymhwysiad y lens, ym 1851 dyfeisiodd yr offthalmosgop, a chyhoeddodd draethawd estynedig ar opteg ffisiolegol ym 1867. Roedd hefyd yn arbenigwr ar acwsteg, yn enwedig ansawdd tôn.
Addysgodd ffiseg ym Mhrifysgol Berlin, a gweithiodd yn swydd cyfarwyddwr yr Athrofa Ffisegol-Dechnegol yn Charlottenburg.