Henri Salvador
Henri Salvador | |
---|---|
Ffugenw | Henry Cording |
Ganwyd | Henri Gabriel Salvador 18 Gorffennaf 1917 Cayenne |
Bu farw | 13 Chwefror 2008 o aneurysm Bwrdeistref 1af Paris |
Label recordio | Virgin Records, Sony Music Entertainment, Barclay Records, Fontana Records, Philips Records |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | canwr, digrifwr, cyfansoddwr, cyflwynydd teledu, gitarydd jazz, artist recordio, canwr-gyfansoddwr, actor ffilm |
Arddull | jazz, chanson, bossa nova, middle of the road |
Priod | Jacqueline Porel, Jacqueline Garabedian, Sabine de Ricou, Catherine Costa |
Plant | Jean-Marie Périer |
Gwobr/au | Commandeur de la Légion d'honneur, Commandeur de l'ordre national du Mérite, Commandeur des Arts et des Lettres, Urdd Teilyngdod Diwylliant, Victoires de la Musique – Male artist of the year, Officier de la Légion d'honneur, Victory of the album of chansons, variety, Victory of honor |
Gwefan | http://www.henrisalvador-discographie.com/ |
Canwr a chyfansoddwr caneuon Ffrangeg o Guyane oedd Henri Gabriel Salvador (18 Gorffennaf 1917 – 13 Chwefror 2008). Roedd yn ddifyrrwr hynod o boblogaidd yn Ffrainc am ddros hanner can mlynedd fel perfformiwr chansons, jazz, roc a rôl, caneuon digrif a nofelti, a chaneuon i blant.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Cayenne, prifddinas Guyane, département tramor Ffrainc yn Ne America. Daeth ei rieni, Gabriel Clovis Salvador a Marie Denise Paterne, o Guadeloupe, département tramor arall yn y Caribî. Symudodd y teulu i Ffrainc métropolitaine pan oedd Henri yn 12 oed, ac ymsefydlasant yn y 5ed arrondissement ym Mharis. Mynychodd Henri a'i frawd André yr ysgol yn rue Rollin. Aethant i'r Cirque Medrano i weld y clown Rhum, a'r profiad hwnnw a sbardunodd ei atyniad at fyd adloniant.[1]
Dechreuodd Henri berfformio ar y stryd yn 15 oed, yn dynwared Maurice Chevalier wrth iddo werthu pysgnau yn y farchnad. Tua'r cyfnod hwn, cafodd ei gyflwyno i gerddoriaeth jazz Louis Armstrong a Duke Ellington gan ei gefnder o Guyane, a'i ysbrydoli i ddysgu canu'r gitâr pan glywodd Django Reinhardt ar y radio. Perfformiodd deuawdau gyda'i frawd ar y gitâr mewn caffis lleol, a chawsant eu cyflogi am dymor yr haf i berfformio gyda cherddorfa yn Boulogne-sur-Mer. Cafodd Henri ragor o brofiad yn canu'r gitâr yng nghlwb nos Jimmy's ym Montmartre, ac yno perfformiodd gyda'r fiolinydd Americanaidd Eddie South.
Cafodd ei alw i'r fyddin yn 1937, a gwnaeth ffoi am gyfnod cyn dechreuad yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r fuddugoliaeth gan yr Almaenwyr ym Mrwydr Ffrainc (Mehefin 1940), aeth Salvador i Nice, yn yr ardal ddadfilwroledig rhwng y zone libre a'r Eidal.
Y daith i Dde America
[golygu | golygu cod]Yn Nice, cyfarfu Salvador â Ray Ventura, blaenwr band y Collégiens, a chafodd ei gyflogi i berfformio gyda'r band ar daith i Dde America. Dychwelodd Salvador i'w gyfandir genedigol gyda Ventura a'r Collégiens ac arhosodd yno am weddill y rhyfel. Wrth iddo ddatblygu ei ddoniau fel offerynnwr, canwr, a digrifwr, dylanwadwyd arno gan gerddoriaeth De America, a chychwynnodd ar ei yrfa recordio yn Buenos Aires, yr Ariannin.
Anterth ei yrfa
[golygu | golygu cod]Dychwelodd Salvador i Ffrainc yn 1945 a threuliodd gyfnod gyda cherddorfeydd cyn iddo berfformio ar ben ei hun am y tro cyntaf yn neuadd gerdd Le Bobino, Montparnasse, yn 1947. Recordiodd ei ddisg unawd gyntaf, y ddwy gân "Clopin Clopant" a "Maladie d'Amour", gyda'r cynhyrchydd Jacques Canetti yn 1950. Priododd Jacqueline Garabédian yn 1950, a bu Jacqueline yn wraig ac yn rheolwr i Henri nes ei marwolaeth yn 1976.
Yn 1956, cydweithiodd Salvador gyda'r llenor a thrympedwr Boris Vian i arloesi roc a rôl yn Ffrainc. Rhyddhawyd pedair cân ganddynt, dan y ffugenw Henri Cording: "Rock'n'roll Mops", "Dis-Moi Que Tu M'aimes Rock", "Rock Hoquet", a "Va T'Faire Cuir Un Oeuf, Man". Recordiwyd rhagor o ganeuon ganddynt, gan gynnwys "Je Peux Pas Travailler", "Le Taxi", a "J'ai Vingt Ans", cyn i Vian farw yn 1959.
Trodd at ganeuon comig yn y 1960au, a chafodd lwyddiant ysgubol gyda "Zorro Est Arrivé" (1965). Ymddangosodd ar deledu yn rheolaidd drwy gydol y 1960au a'r 1970au yn perfformio caneuon difyr megis "Le Travail C'est La Santé", "Juanita Banana", a "Mais Non Mais Non".[2]
Diwedd ei oes
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd ei hunangofiant, Attention Ma Vie, yn 1994. Bu farw ym Mharis yn 90 oed o waedlif ar yr ymennydd.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Patrick O'Connor, "Obituary: Henri Salvador", The Guardian (18 Chwefror 2008). Adalwyd ar 18 Ebrill 2019.
- ↑ (Saesneg) Pierre Perrone, "Henri Salvador: France's 'Monsieur Joie de Vivre' Archifwyd 2019-04-18 yn y Peiriant Wayback", The Independent (14 Chwefror 2008). Adalwyd ar 18 Ebrill 2019.
- ↑ (Saesneg) "Henri Salvador, Singer Who Helped Bring Rock to France, Dies at 90", The New York Times (14 Chwefror 2008). Adalwyd ar 18 Ebrill 2019.
- Genedigaethau 1917
- Marwolaethau 2008
- Cantorion yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Cantorion yr 21ain ganrif o Ffrainc
- Cantorion Ffrangeg o Guyane
- Cantorion jazz o Ffrainc
- Cantorion roc o Ffrainc
- Cyfansoddwyr caneuon o Ffrainc
- Digrifwyr o Ffrainc
- Gitaryddion o Ffrainc
- Pobl o Cayenne
- Pobl fu farw ym Mharis
- Pobl fu farw o waedlif ar yr ymennydd