Heboglys Eryri

Oddi ar Wicipedia
Heboglys Eryri
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Hieracium
Rhywogaeth: H. snowdoniense
Enw deuenwol
Hieracium snowdoniense
P. D. Sell & C. West, 1955[1][2]

Rhywogaeth brin iawn o genws yr heboglysiau yw heboglys Eryri (Hieracium snowdoniense) sydd yn frodorol i ardal Eryri yng ngogledd Cymru. Hwn yw un o'r planhigion prinnaf yn y byd.

Mae ganddo siâp rhoséd o ddail meinion, danheddog, sydd yn culhau wrth eu bonau gan ffurfio coesyn blewog. Ar ben y coesyn, mae swp o fflurbennau melyn, yn debyg i ddant y llew. Planhigyn lluosflwydd ydyw sydd yn tyfu i 30 cm.[3]

Cafodd ei gydnabod yn heboglys unigryw gan J. E. Griffith, Caernarfon, yn y 1880au, a chafwyd cofnod hanesyddol ohono mewn saith safle. Cododd Griffith sbesimen o heboglys Eryri ym 1892 o'r Ysgolion Duon, a chedwir y planhigyn sychedig hwnnw yn Herbariwm yr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Caerdydd.[4] Gostyngodd niferoedd heboglys Eryri yng nghanol yr 20g, wrth i ddefaid grwydro'r mynyddoedd heb fugeiliaid i'w rheoli. Cofnodwyd yr esiampl olaf honedig ohono hon ym 1953,[5] ychydig cyn iddo gael ei gydnabod yn rhywogaeth ar wahân gan Peter Sell a Cyril West, arbenigwyr yng ngenws yr heboglysiau, ym 1955.[6] Credid am hanner can mlynedd iddo ddarfod o'r tir o ganlyniad i orbori gan ddefaid. Cafodd ei ail-ddarganfod yng Nghwm Idwal yn 2002, ar glogwyn serth yn wynebu'r gogledd. Casglwyd hadau ohono, ac mae 26 o blanhigion ifanc bellach yn cael eu trin yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.[7] Erbyn 2021, cyfrifwyd chwech ohonynt yn y gwyllt.[5]

Ymhlith yr heboglysiau eraill sydd yn unigryw i Gymru mae heboglys Radur, yr heboglys porffor, heboglys Craig Cerrig-gleisiad, heboglys Llangatwg, heboglys y Mynydd Du, heboglys Riddelsdell, heboglys y tafod, heboglys Craig y Cilau, heboglys y copa, a'r heboglys Cymreig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Hieracium snowdoniense", IPNI. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Awst 2021.
  2. (Saesneg) "Hieracium snowdoniense", Y Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy archive.today ar 22 Awst 2021.
  3. Mike Raine, Nature of Snowdonia: A Beginner's Guide to the Upland Environment (Caernarfon: Pesda Press, 2010), t. 120.
  4. Dewi Jones, "Ar Drywydd Dau Heboglys", Y Casglwr (2013). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Awst 2021.
  5. 5.0 5.1 (Saesneg) Olivia Rudgard, "Welsh flower feared extinct makes miraculous comeback after sheep banished", The Daily Telegraph (22 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Awst 2021.
  6. (Saesneg) "Plant thought extinct found on mountain", Western Mail (6 Awst 2002).
  7. "Planhigion Prin Cymru", Amgueddfa Genedlaethol Cymru (2009). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Awst 2021.