Gerddi Kew

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gerddi Kew
Golygfa o'r Tŷ Gwydr Tymherol yng Ngerddi Kew o'r pagoda
Math Botanegol
Lleoliad Kew, London Borough of Richmond upon Thames, Lloegr
Cyfesurynnau Daearyddol 51°28.480′N 0°17.728′W / 51.474667°N 0.295467°W / 51.474667; -0.295467Cyfesurynnau: 51°28.480′N 0°17.728′W / 51.474667°N 0.295467°W / 51.474667; -0.295467
Arwynebedd 121 hectr (300 erw)
Ymwelwyr mwy na 1.35 miliwn y flwyddyn
Gwefan kew.org

Gardd fotanegol yn ne orllewin Llundain yw Gerddi Kew. Mae'n cynnwys un o gasgliadau botanegol a mycolegol mwyaf, a mwyaf amrywiaethol y byd.[1] Fe'i sefydlwyd yn 1840 o'r ardd ecsotig ym Mharc Kew yn Middlesex, Lloegr. Mae casgliad byw yr ardd yn cynnwys mwy na 30,000 math gwahanol o blanigion, tra bo'r llysieufa, un o'r rhai mwyaf yn y byd, yn cynnwys dros saith miliwn o esiamplau o blanhigion wedi eu gwasgu. Mae'r llyfrgell yn cynnwys dros 750,000 o gyfrolau, ac mae'r casgliad darluniau yn cynnwys mwy na 175,000 o brintiau a darluniadau o blanhigion. Mae'n un o atuniadau mwyaf poblogaidd Llundain a fe'i gydnabyddir fel Safle Treftadaeth y Byd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Y polyn fflag yng Ngerddi Kew, a fu'n sefyll rhwng 1959 a 2007.

Mae Kew yn cynnwys y gerddi eu hunain, yn ogystal â chymuned leol fechan. Gwelwyd cartref brenhinol yn yr ardal yn gyntaf yn 1299 pan symudodd Edward I ei lys i faenordy gerllaw yn Richmond (neu Sheen fel y'i gelwid ar y pryd). Fe adawyd y maenordy hwnnw wedyn, ond adeiladodd Harri VII Balas Sheen (Palas Richmond erbyn hyn) yn 1501, a daeth hwnnw'n gartref brenhinol parhaol[2][3][4] Oddeutu dechrau'r 16g, ymgartrefodd gwŷr llys Plas Richmond yn Kew, gan adeiladu tai mawr.[5] Roedd y tai hyn yn cynnwys tŷ Mari Tudur, ac adeiladwyd ffordd i gysylltu'r tŷ hwnnw â Phalas Richmond yn 1522. Oddeutu 1600, adnabyddid y tir lle mae Gerddi Kew heddiw fel Maes Kew, cae mawr oedd yn cael ei ffermio gan un o'r ystadau preifat newydd ar y pryd.[6][7]

Gellir olrhain dechreuad Gerddi Kew yn ôl i pan gyfunwyd ystadau brenhinol Richmond a Kew yn 1772.[8] Adeiladodd William Chambers lawer o adeiladau gardd, gan gynwys y pagoda Tsieiniaidd sy'n dal yn y gerddi hyd heddiw yn 1761. Ychwanegodd Sior III at y gerddi gyda chymorth William Aiton a Joseph Banks.[9]

Gwnaethwyd Gerddi Kew yn ardd fotanegol genedlaethol yn 1840.[10] Yn dilyn hynny, helaethwyd yr ardd i fod yn 30 hectr (75 erw) a'r goedardd i fod yn 109 hectr (270 erw), ac wedyn yn 121 hectr (300 erw).

Adeiladwyd y Tŷ Palmwydd gan y pensaer Decimus Burton a'r gwnaethurwr haearn Richard Turner rhwng 1844 a 1848. Dyma'r tro gyntaf i haearn gyr gael ei ddefnyddio ar raddfa mor fawr. Fe'i cydnabyddir fel adeilad haearn a gwydr Fictorianaidd mwyaf pwysig y byd.[11][12] Adeiladwyd y Tŷ Tymherol, sydd ddwywaith mor fawr a'r Tŷ Palmwydd, wedyn yn y 19g. Dyma'r tŷ gwydr Fictorianaidd mwyaf yn y byd heddiw.

Ym mis Chwefror 1913, llosgwyd y Tŷ Te yng Ngerddi Kew i'r llawr gan y swffragetiaid Olive Wharry a Lilian Lenton fel rhan o gyfres o dannau bwriadol yn Llundain.[13]

Collodd Gerddi Kew gannoedd o goed yn Storm Fawr 1987.[14]

Rhwng 1959 a 2007, Gerddi Kew oedd gan y polyn fflag talaf ym Mhrydain. Fe godwyd y polyn - wedi ei wneud o un goeden Ffynidwydden Douglas o Ganada - i ddathlu canmlwyddiant talaith British Columbia a dauganmlwyddiant Gerddi Kew. Bu'n rhaid tynnu'r polyn i lawr yn 2007 oherwydd fod difrod tywydd a chnocellod y coed wedi ei wneud yn beryglus.[15]

Ym mis Gorffennaf 2003, rhoddodd UNESCO y gerddi ar eu rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Cwblhawyd prosiect pum mlynedd a gostiodd £41 miliwn i adnewyddu'r Tŷ Tymherol ym mis Mai 2018.[16]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gwyfyn bwâu Kew; (Lladin: Brithys crini)
  • St Kew, Pentref a chymuned yng Nghernyw (Cernyweg: Lanndoghow neu Pluw Gew)
  • Ciwa, santes a merthyr Gymreig o ddechrau'r 5g. 'Ciwa' neu 'Gigwa' yn Gymraeg (Cernyweg: Cuach, Kuet; Saesneg: Kew).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Kew's scientific collections – Kew. Gerddi Kew. Adalwyd ar 15 October 2017.
  2. Lysons, Daniel (1792). The Environs of London: volume 1: County of Surrey. pp. 202–211. 
  3.  London Attractions and Places of Interest Index. milesfaster.co.uk.
  4. Harrison, W (1848). The Visitor's Hand-book to Richmond, Kew Gardens, and Hampton Court. Cradock and Company, tud. 25. URL
  5. Malden, HE (1911). Kew, A History of the County of Surrey: Volume 3, tud. 482–487. URL
  6. (2013) {{{teitl}}} (yn Saesneg). Arcturus Publishing, tud. 9. URL
  7. (Saesneg) Royal Botanic Gardens, Kew and Wakehurst Place. infobritain.co.uk.
  8. UNESCO Advisory Body. UNESCO Advisory Body Evaluation Kew (United Kingdom) No 1084 (Saesneg) , UNESCO.
  9. Drayton, Richard Harry (2000). Nature's Government: Science, Imperial Britain, and the 'Improvement' of the World (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Yale, tud. 78. URL
  10. Lankester Botanical Garden (2010). "Biographies". Lankesteriana 10 (2/3): 183–206, page 186. http://lankesteriana.org/lankesteriana/LANKESTERIANA%2010(2-3)/Lankesteriana%2010(2-3)%20Part%2010%20-%20Biographies.pdf.
  11. "Palm House and Rose Garden". Royal Botanic Gardens, Kew. http://www.kew.org/visit-kew-gardens/explore/attractions/palm-house-and-rose-garden.
  12. The Crystal Palace was an even more imposing glass and iron structure but fire destroyed it.
  13. "Suffragists burn a pavilion at Kew; Two Arrested and Held Without Bail – One Throws a Book at a Magistrate". The New York Times. 21 February 1913. https://query.nytimes.com/gst/abstract.html?res=9F0DE5DA133BE633A25752C2A9649C946296D6CF.
  14. Bone, Victoria (16 October 2007). "Kew: Razed, reborn and rejuvenated". BBC News. http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk/7033148.stm.
  15. "Kew Gardens Flagpole". Royal Botanic Gardens, Kew. http://www.kew.org/heritage/places/flagpole.html.
  16. "'Breathtakingly beautiful': Kew's Temperate House reopens after revamp". 3 May 2018. https://www.theguardian.com/science/2018/may/03/kew-gardens-temperate-house-reopens-after-restoration.