Heberto Padilla

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Heberto Padilla
Herberto Padilla, 1981.jpg
Ganwyd20 Ionawr 1932 Edit this on Wikidata
Consolación del Sur Edit this on Wikidata
Bu farw25 Medi 2000 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Auburn, Alabama Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCiwba Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Havana Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amFuera del juego Edit this on Wikidata
PriodBelkis Cuza Malé Edit this on Wikidata
PlantErnesto Padilla Edit this on Wikidata

Bardd Ciwbaidd yn yr iaith Sbaeneg Heberto Padilla (20 Ionawr 193225 Medi 2000).

Bywyd cynnar ac addysg (1932–59)[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Heberto Padilla ar 20 Ionawr 1932 yn Puerta de Golpe, Talaith Pinar del Río, yng ngorllewin Ciwba. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol La Habana, ond ni gorffennodd ei radd.[1] Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Las rosas audaces, yn 1948.

Symudodd Padilla i fyw yn Unol Daleithiau America o 1949 i 1952, ac eto o 1956 i 1959.[1] Gweithiodd yn sylwebydd ar y radio ac yn gyfieithydd.[2]

Y cyfnod wedi'r chwyldro (1959–71)[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn sgil Chwyldro Ciwba yn 1959, dychwelodd Padilla i'w famwlad a mynegodd ei gefnogaeth dros y drefn sosialaidd newydd. Cyhoeddodd y gyfrol y gerddi El justo tiempo humano (1959).[1] Padilla oedd un o'r golygyddion a sefydlodd y cylchgrawn llenyddol Lunes de Revolucion.[2]

Cynrychiolodd Weinyddiaeth Fasnach Ciwba ar deithiau i Lundain a Moscfa, a gweithiodd i'r asiantaeth newyddion Prensa Latina ac yn ohebydd i bapurau newydd a chylchgronau Ciwbaidd, gan gynnwys Granma, papur swyddogol y blaid gomiwnyddol.[1][2]

Fe'o alwyd yn ôl i La Habana yn 1968 wrth i lywodraeth Fidel Castro a chomisariaid diwylliannol Ciwba ddechrau amau negeseuon ei waith.[2] Enillodd wobr flynyddol Undeb Llenorion ac Arlunwyr Ciwba am ei gasgliad o gerddi Fuera del juego (1968). Er hynny, cyhoeddwyd y llyfr gydag atodiad yn condemnio natur wrth-chwyldroadol honedig y gwaith.[1]

Yr helynt (1971–80)[golygu | golygu cod y dudalen]

Arestiwyd Padilla ar gyhuddiadau o "gynllwynio yn erbyn grymoedd y wladwriaeth", a fe'i cwestiynwyd am fis gan yr heddlu diogelwch cyn iddynt ei ryddhau yn Ebrill 1971.[2] Gorfodwyd iddo ddarllen cyfaddefiad cyhoeddus, rhyw 4000 o eiriau, o flaen Undeb y Llenorion. Bu'n rhaidd iddo hefyd gyhuddo awduron eraill, gan gynnwys ei wraig, o goleddu taliadau gwrth-chwyldroadol.[3] Dangosodd Padilla i'r byd nad ei eiriau ef oedd y rheiny drwy ailadrodd y camgymeriadau gramadegol a ysgrifennwyd gan yr heddlu yn hytrach na'u cywiro.[4]

Achoswyd helynt ym myd llenyddiaeth a daeth Padilla yn enwog am ei drafferthion. Arwyddwyd deiseb ryngwladol gan unigolion o fri, gan gynnwys Jean-Paul Sartre, Simone de Beauvoir, a Susan Sontag, i brotestio'n erbyn erledigaeth Padilla.[3] Cafwyd rhwyg yng nghylchoedd diwylliannol America Ladin, lle'r oedd y mwyafrif helaeth o lenorion, deallusion, ac arlunwyr wedi cefnogi llywodraeth Ciwba drwy gydol y 1960au. Trodd nifer ohonynt, yn eu plith Mario Vargas Llosa, eu cefnau ar Castro mewn ymateb i erledigaeth Padilla. Bu eraill, megis Gabriel García Márquez, yn dadlau bod rhaid derbyn y fath ormes a pharhau i gefnogi'r chwyldro yng Nghiwba, er mwyn gwrthsefyll grym gwrth-sosialaidd yr Unol Daleithiau.[3]

Parhaodd Padilla i fyw yng Nghiwba, dan oruchwyliaeth fanwl y wladwriaeth, am naw mlynedd arall. Gwaharddwyd ei waith yno, a bu'n rhaid iddo ennill ei damaid drwy gyfieithu barddoniaeth o'r Saesneg a gweithio yn rhith-awdur.[2]

Diwedd ei oes (1980–2000)[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1980, yn sgil ymgyrch gan Robert B. Silvers, golygydd The New York Review of Books, ac ymyrraeth gan wleidyddion Americanaidd megis y Seneddwr Ted Kennedy, caniatawyd o'r diwedd i Padilla adael Ciwba. Symudodd unwaith eto i'r Unol Daleithiau ac yno adunodd â'i wraig Belkis Cuza Malé.[2] Fe'i croesawyd yn arwr gan yr Arlywydd Ronald Reagan.[3]

Yn 1981, cyhoeddodd nofel am fywyd llenorion a deallusion yng Nghiwba wedi'r chwyldro, En mi jardín pastan los héroes, a chyfrol o gerddi, El hombre junto al mar. Cyhoeddodd ei hunangofiant, La mala memoria, yn 1989.

Addysgodd Padilla lenyddiaeth ym mhrifysgolion Princeton, Efrog Newydd (Sefydliad y Dyniaethau), Miami, Talaith Ohio, a Choleg Bowdoin.[2][3] Yn Princeton, cyhoeddodd Padilla a'i wraig Linden Lane, cylchgrawn a fu'n cynnwys nifer o lenorion ifainc o America Ladin. Dechreuodd yn swydd awdur preswyl ym Mhrifysgol Auburn yn 2000, ac yno addysgodd israddedigion i ysgrifennu a siarad Sbaeneg a chynhaliodd seminar ôl-raddedig ar lenyddiaeth a diwylliant Hispanaidd.[2]

Bu farw Heberto Padilla yn Auburn, Alabama, ar 25 Medi 2000 yn 68 oed.[1]

Cafodd bedwar plentyn: María, Giselle, Carlos, ac Ernesto.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Heberto Padilla. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 2.8 (Saesneg) Celestine Bohlen, "Heberto Padilla, 68, Cuban Poet, Is Dead", The New York Times (28 Medi 2000). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2019.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 (Saesneg) Nick Caistor, "Obituary: Heberto Padilla", The Guardian (14 Hydref 2000). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2019.
  4. (Saesneg) Fabiola Santiago, "Cuban poet Heberto Padilla dies", The Miami Herald (26 Medi 2000). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2019.