Hawl dynol i ddŵr a glanweithdra

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolhawliau dynol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi28 Gorffennaf 2010 Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaYr hawl i amgylchedd iach Edit this on Wikidata

Mae'r hawl dynol i ddŵr a glanweithdra (talfyriad yn y Saesneg: HRWS) yn egwyddor sy’n datgan bod dŵr yfed glân a glanweithdra yn hawl dynol oherwydd eu bod yn hanfodol i gynnal bywyd pob person byw.[1] Cafodd ei gydnabod fel hawl dynol gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 28 Gorffennaf 2010.[2] Mae'r hawl wedi'i gydnabod mewn cyfraith ryngwladol trwy gytundebau hawliau dynol, datganiadau a safonau eraill. Mae rhai sylwebwyr wedi seilio'r ddadl dros yr hawl ddynol i ddŵr ar seiliau sy’n annibynnol ar benderfyniad y Cynulliad Cyffredinol yn 2010, megis Erthygl 11.1 o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR); ymhlith y sylwebwyr hynny, mae’r rhai sy’n derbyn bodolaeth deddfau rhyngwladol gorfodol ac sy’n ystyried ei fod yn fath o egwyddor sy’n rhwymiad o fewn cyfraith ryngwladol. Mae cytuniadau eraill sy’n cydnabod yr hawl yn benodol yn cynnwys Confensiwn 1979 ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod (CEDAW) a Chonfensiwn 1989 ar Hawliau’r Plentyn (CRC).

Cyhoeddwyd y diffiniad mwyaf clir o hawl dynol i ddŵr gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol mewn Sylw Cyffredinol 15 a ddrafftiwyd yn 2002.[3] Roedd y dehongliad anghyfrwymol hwn, sef bod mynediad i ddŵr yn amod ar gyfer meddu ar yr hawl i safon byw ddigonol, yn ymwneud â’r hawl i’r safon iechyd uchaf bosibl, ac felly’n hawl dynol. Nodir: “Mae’r hawl dynol i ddŵr yn rhoi’r hawl i bawb gael dŵr digonol, diogel, derbyniol, hygyrch a fforddiadwy at ddefnydd personol a domestig.”[4]

Pasiwyd y penderfyniadau cyntaf am yr hawl gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig a Chyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn 2010.[5] Dywedasant fod hawl dynol i lanweithdra yn gysylltiedig â'r hawl dynol i ddŵr, gan fod diffyg glanweithdra yn lleihau ansawdd dŵr i lawr yr afon, felly mae'r trafodaethau dilynol wedi parhau i bwysleisio'r ddwy hawl gyda'i gilydd. Yng Ngorffennaf 2010, ailddatganodd Penderfyniad Cynulliad Cyffredinol 64/292 y Cenhedloedd Unedig (CU) yr hawl dynol i dderbyn gwasanaethau dŵr a glanweithdra diogel, fforddiadwy, glân a hygyrch.[6] Yn ystod y Cynulliad Cyffredinol hwnnw, cydnabuwyd bod dŵr yfed diogel a glân yn ogystal â glanweithdra yn hawl dynol.[7] Mae penderfyniad y Cynulliad Cyffredinol 64/292 yn honni hawl dynol i gael mynediad at ddŵr yfed diogel a glân a glanweithdra am ddim, ac yn codi materion ynghylch hawliau'r llywodraeth i reolaeth a chyfrifoldebau am sicrhau'r dŵr a'r glanweithdra hwnnw. Yng Nghymru, y llywodraeth perthnasol yw Llywodraeth Cymru. Mae Rhaglen Ddatblygu'r Cenhedloedd Unedig wedi datgan y bydd cydnabyddiaeth eang gyrchu gwasanaethau dŵr a glanweithdra'n hyrwyddo bywyd iach a boddhaus.[8][9][10] Amlygodd penderfyniad diwygiedig gan y Cenhedloedd Unedig yn 2015 fod y ddwy hawl ar wahân ond yn gyfartal.[4]

Mae’r hawl yn gorfodi llywodraethau i sicrhau bod pobl yn gallu meddu ar ddŵr a glanweithdra o ansawdd, sydd ar gael yn hygyrch ac yn fforddiadwy.[11] Mae cost dŵr ac i ba raddau y mae'n ei gwneud yn ofynnol i rywun aberthu nwyddau a gwasanaethau hanfodol eraill yn cael ei ystyried.[12] Y rheol gyffredinol ar gyfer fforddiadwyedd dŵr yw na ddylai fod yn fwy na 3-5% o incwm aelwydydd.[13] Mae hygyrchedd dŵr yn ystyried yr amser a gymerir, hwylustod cyrraedd y ffynhonnell a risgiau wrth gyrraedd y ffynhonnell dŵr.[12] Rhaid i ddŵr fod yn hygyrch i bob dinesydd, sy'n golygu na ddylai dŵr fod ymhellach na 1,000 metr neu 3,280 troedfedd a rhaid iddo fod o fewn 30 munud o daith.[14] Mae argaeledd dŵr yn faes lle ystyrir a yw’r cyflenwad dŵr ar gael mewn meintiau digonol, yn ddibynadwy ac yn gynaliadwy.[12] Mae ansawdd dŵr yn gofyn a yw dŵr yn ddiogel i'w yfed neu ei ddefnyddio mewn modd arall.[12] Er mwyn sicrhau bod dŵr yn dderbyniol, ni ddylai fod ag unrhyw arogl ac ni ddylai gynnwys unrhyw liw.[1]

Cyd-destun rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Adroddodd Rhaglen Fonitro ar y Cyd Sefydliad Iechyd y Byd / UNICEF ar gyfer Cyflenwi Dŵr a Glanweithdra nad oedd gan 663 miliwn o bobl fynediad at well ffynonellau dŵr yfed a bod mwy na 2.4 biliwn o bobl heb fynediad at wasanaethau glanweithdra sylfaenol yn 2015. Mae mynediad at ddŵr glân yn broblem fawr i sawl rhan o'r byd. Mae ffynonellau derbyniol yn cynnwys "cysylltu pibelli i'r cartref, pibellau cyhoeddus, tyllau turio, ffynhonnau wedi'u cloddio wedi'u diogelu, ffynhonnau gwarchodedig a chasglu dŵr glaw."[15] Er nad oes gan 9 y cant o boblogaeth y byd fynediad at ddŵr, mae yna "ranbarthau arbennig lle ceir oedi a gohirio, fel yn Affrica Is-Sahara".[15] Mae’r Cenhedloedd Unedig yn pwysleisio ymhellach bod “tua 1.5 miliwn o blant dan bump oed yn marw bob blwyddyn a 443 miliwn o ddiwrnodau ysgol yn cael eu colli oherwydd afiechydon sy’n gysylltiedig â dŵr a glanweithdra.”[16]

Hawl i ddŵr mewn cyfraith ddomestig[golygu | golygu cod y dudalen]

Heb fodolaeth corff rhyngwladol a all ei orfodi, mae'r hawl dynol i ddŵr yn dibynnu ar weithgarwch llysoedd cenedlaethol.[17] Mae'r sail ar gyfer hyn wedi'i sefydlu trwy gyfansoddiad hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol (ESCR) trwy un o ddau ddull: fel "egwyddorion cyfarwyddol" (directive principles) sy'n nodau ac yn aml heb rym deddfwriaethol; neu fel rhai a ddiogelir yn benodol ac y gellir eu gorfodi drwy'r llysoedd.[18]

De Affrica[golygu | golygu cod y dudalen]

Delwedd o grŵp o bobl yn ymgynnull o amgylch tap cymunedol yn Johannesburg, De Affrica.

Yn Ne Affrica, mae'r hawl i ddŵr wedi'i ymgorffori yng Nghyfansoddiad y wlad a'i weithredu gan statudau cyffredin. Mae hyn yn dystiolaeth o addasiad bychan i'r ail dechneg y cyfeirir ati fel y "model is-ddeddfwriaeth". Mae hyn yn golygu bod cyfran fawr o gynnwys a gweithrediad yr hawl hwn yn cael ei wneud mewn statud ddomestig, arferol gyda rhywfaint o statws cyfansoddiadol.[19]

Yr achos nodedig cyntaf y gwnaeth y llysoedd hynny ynddo oedd Preswylwyr Bon Vista Mansions v. Cyngor Dinesig Lleol y De (Southern Metropolitan Local Council).[20] Cyflwynwyd yr achos gan drigolion bloc o fflatiau (Bon Vista Mansions), yn dilyn datgysylltu’r cyflenwad dŵr gan y Cyngor lleol, o ganlyniad i fethiant i dalu costau dŵr. Dyfarnodd y llys, yn unol â Chyfansoddiad De Affrica, y dylai pob person yn gyfansoddiadol gael mynediad at ddŵr fel hawl.[21]

Roedd rhesymu pellach dros y penderfyniad yn seiliedig ar Sylw Cyffredinol 12 ar yr Hawl i Fwyd, a wnaed gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol yn gosod y rhwymedigaeth ar bartïon i’r cytundeb i arsylwi a pharchu mynediad presennol at fwyd digonol drwy beidio â gweithredu unrhyw fesurau tresmasu.[22]

Canfu’r llys nad oedd terfynu’r ffynhonnell ddŵr wedi cadw at ofynion “teg a rhesymol” Deddf Gwasanaethau Dŵr De Affrica, ac felly'n anghyfreithlon.[23] Mae'n bwysig nodi bod y penderfyniad yn rhagddyddio mabwysiadu Sylw Cyffredinol Rhif 15 y Cenhedloedd Unedig.[24]

India[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r ddau achos amlycaf yn India ynghylch yr hawl i ddŵr yn dangos, er nad yw hyn wedi'i warchod yn benodol yng Nghyfansoddiad India, mae'r llysoedd wedi dehongli bod yr hawl i fywyd yn cynnwys yr hawl i ddŵr diogel a digonol.[25]

Delwedd o Afon Jamuna, yr afon yr oedd talaith Haryana a dinas Delhi yn ei defnyddio.

Cyflenwad Dŵr Delhi v. Talaith Haryana[golygu | golygu cod y dudalen]

Yma cododd anghydfod defnydd dŵr oherwydd bod talaith Haryana yn defnyddio Afon Jamuna ar gyfer dyfrio, tra bod ei angen ar drigolion Delhi at ddibenion yfed. Rhesymwyd bod defnydd domestig yn drech na'r defnydd masnachol o ddŵr a dyfarnodd y llys fod yn rhaid i Haryana ganiatáu digon o ddŵr i gyrraedd Delhi ar gyfer ei yfed a'i ddefnyddio yn y cartref.[26]

Diwrnod hawliau i ddŵr y byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer bodolaeth bodau byw (bodau dynol). Felly, mae cael mynediad at swm pur a digonol o ddŵr yn hawl ddynol ddiymwad. Felly, mae'r Sefydliad Anghenion Eco (ENF) o'r farn ei bod yn angenrheidiol cydnabod yr hawl i ddŵr (gydag isafswm maint y pen o ddŵr wedi'i sicrhau) trwy'r ddarpariaeth gyfreithiol briodol. Mae'r Cenhedloedd Unedig gyda'i amrywiol gyfamodau wedi ei gwneud hi'n orfodol i'r holl genhedloedd sicrhau dosbarthiad teg o ddŵr ymhlith yr holl ddinasyddion. Yn unol â hynny, dechreuodd yr ENF arsylwi a hyrwyddo dathliad Diwrnod Hawliau Dŵr y Byd ar 20 Mawrth, y dyddiad y bu Dr Babasaheb Ambedkar ("tad India fodern") yn arwain satyagraha cyntaf y byd ar gyfer dŵr ym 1927. Mae Diwrnod Hawl i Ddŵr y Byd yn galw am fabwysiadu deddfwriaeth arbennig sy’n sefydlu’r hawl gyffredinol i ddŵr. O dan arweiniad y sylfaenydd Dr Priyanand Agale, mae'r ENF yn trefnu amrywiaeth o raglenni i sicrhau hawl dinasyddion India i ddŵr.[27]

Seland Newydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid yw Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol wedi’u ddiogelu’n benodol yn Seland Newydd ar hyn o bryd, naill ai gan y Deddfau Hawliau Dynol neu’r Deddfau Mesur Hawliau, felly nid yw’r hawl i ddŵr yn cael ei hamddiffyn gan y gyfraith yno. [28] Mae Cymdeithas y Gyfraith yn Seland Newydd wedi nodi’n ddiweddar y byddai’r wlad yn rhoi ystyriaeth bellach i statws cyfreithiol hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.[29]

Unol Daleithiau America[golygu | golygu cod y dudalen]

Llwyth Sioux Standing Rock v. Corfflu Peirianwyr Byddin yr Unol Daleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Pobl yn protestio yn erbyn adeiladu Piblinell Mynediad Dakota

Yn 2016, roedd achos amlwg o'r enw Llwyth Sioux Standing Rock v. Corfflu Peirianwyr Byddin yr Unol Daleithiau, lle heriodd y Llwyth Sioux y weithred o adeiladu Piblinell Dakota (DAPL). Mae'r biblinell olew crai hon yn ymestyn dros bedair talaith, sy'n cynnwys y dechrau yng Ngogledd Dakota, yna'n mynd trwy Dde Dakota ac Iowa, ac yn gorffen yn Illinois. Mae'r Neilldir Brodorion Indiaidd Standing Rock wedi'i leoli ger ffin Gogledd a De Dakota ac mae'r biblinell wedi'i hadeiladu o fewn hanner milltir iddi. Ers i'r biblinell gael ei hadeiladu ger y llain, roedd y llwyth yn ofni y byddai arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol Llyn Oahe yn cael ei effeithio. Mae Llyn Oahe yn darparu dŵr angenrheidiol sylfaenol ar gyfer y Llwyth Sioux fel dŵr yfed ac ar gyfer glanweithdra.[30] Mae adeiladu'r biblinell olew yn golygu bod risg uwch o halogi Llyn Oahe.[30] Erlyniodd y Sioux Tribe y cwmni DAPL gan eu bod yn credu bod creu'r biblinell yn torri'r Ddeddf Polisi Amgylcheddol Cenedlaethol a'r Ddeddf Cadwraeth Hanesyddol Genedlaethol . [31] Ar ôl briffio 2016, nid oedd y llys yn gallu dod i gasgliad, felly penderfynodd y llys gynnal sesiynau briffio ychwanegol. [30] Ar ôl 5 sesiwn friffio yn 2017 ac 1 sesiwn friffio yn 2018, mae'r llys wedi caniatáu adeiladu'r biblinell, ond mae llwyth Standing Rock yn parhau i ymladd i sicrhau bod y biblinell yn cael ei hatal.[32]

Awstralia[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r sylw yn Awstralia yn canolbwyntio ar hawliau Awstraliaid Cynhenid i ddŵr a glanweithdra. Mae cysgod gwladychiaeth a setlwyr gan wledydd fel Lloegr yn drwm ar lywodraethiant y wladwriaeth heddiw, sy'n ceisio rheoleiddio'r defnydd o ddŵr i Awstraliaid brodorol. Ceir llawer o gytundebau llywodraethol, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn annigonol i ddylanwadu'n llawn ar yr hawl gynhenid i ddŵr a glanweithdra. Yn achos Mabo v Queensland, cafodd hawliau brodorol eu cydnabod yn gyfreithiol am y tro cyntaf. Mae Awstraliaid brodorol yn aml yn hawlio rhwymau diwylliannol i'r wlad. Er bod "diwylliant" yn cael ei gydnabod yn y llys cymaint ag adnoddau tir, mae gwerth diwylliannol ac ysbrydol Brodorion Awstralia i gorff dŵr yn niwlog. Mae'n heriol ond mae angen mynd y tu hwnt i'w gwerthoedd diwylliannol ac ysbrydol i'r byd cyfreithiol. Hyd yma, ni chafwyd fawr o gynnydd.[33] [34]

Mae cyfraith dŵr Awstralia yn y bôn yn rhagnodi dŵr-wyneb ar gyfer dinasyddion sy'n gallu defnyddio dŵr-wyneb ond na allant berchen arno. Yn y cyfansoddiad, fodd bynnag, nid oes unrhyw ddisgrifiad am ddŵr mewndirol a glannau afon. Felly, maes hawliau dŵr mewndirol/torlannol yw prif fandadau'r wladwriaeth. Mae Llywodraeth y Gymanwlad yn cael awdurdod dros ddŵr trwy fenthyca help perthynas allanol, gan gynnwys Pŵer Grantiau, Pŵer Masnach.[33]

Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2013, cyhoeddodd llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon y byddai treth dŵr yn cael ei godi am y tro cyntaf. Buodd ymgyrch yn erbyn y dreth, gyda'r mudiadau Right2Water a Right2Change yn derbyn cefnogaeth Sinn Féin ac undebau llafur. Bu'r ddadl yn ffactor yn is-etholiad De-orllewin Dulyn yn 2014, ble etholwyd y sosialydd Paul Murphy oherwydd ei safbwynt cryf ar y mater, er gwaetha'r disgwyl mai Sinn Féin y byddai'n ennill y sedd.[35] Roedd yn ffactor eto yn etholiad cyffredinol Dáil Éireann yn 2016, a chafwyd gwared ar y dreth (ag eithrio ar gyfer defnydd gormodol o ddŵr) yn 2017[36].

Trafodaethau rhwng gwledydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Effeithiau trawsffiniol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gallai symudiad Ethiopia i lenwi cronfa Argae Enfawr y Dadeni, Ethiopia leihau llif y Nîl gymaint â 25% a dinistrio tiroedd fferm-diroedd yr Aifft.[37]

Ers dros can mlynedd, boddwyd nifer o gymoedd yng Nghymru, a chymerwyd y dŵr gan gymunedau yn Lloegr, heb iddynt dalu am yr adnodd hwnnw. Erbyn y 2020au roedd llawer o bobl yn galw am ddigolledu Cymru am y boddi hwnnw ac am dal am bob litr o ddŵr sy'n llifo dros y ffin i Loegr.[38]

O ystyried y ffaith bod mynediad at ddŵr yn destun pryder trawsffiniol a gwrthdaro posibl yn y Dwyrain Canol, De Asia, Dwyrain Môr y Canoldir a rhannau o Ogledd America ymhlith lleoedd eraill, mae rhai sefydliadau anllywodraethol (NGOs) ac ysgolheigion yn dadlau bod gan yr hawl i ddŵr hefyd agwedd drawswladol neu alldiriogaethol. Maen nhw’n dadlau, o ystyried y ffaith bod cyflenwadau dŵr yn gorgyffwrdd yn naturiol ac yn croesi ffiniau, fod gan wladwriaethau hefyd rwymedigaeth gyfreithiol i beidio â gweithredu mewn ffordd a allai gael effaith negyddol ar fwynhad hawliau dynol mewn gwladwriaethau eraill.[39] Gallai cydnabod y rhwymedigaeth gyfreithiol hon yn ffurfiol atal effeithiau negyddol y "wasgfa ddŵr" fyd-eang (fel bygythiad yn y dyfodol ac un canlyniad negyddol i orboblogi dynol).[10] Mae prinder dŵr a defnydd cynyddol o ddŵr croyw yn gwneud yr hawl hon yn hynod gymhleth. Wrth i boblogaeth y byd gynyddu'n gyflym, bydd prinder dŵr croyw yn achosi llawer o broblemau. Mae prinder dŵr yn codi'r cwestiwn a ddylid trosglwyddo dŵr o un wlad i'r llall ai peidio.

Sefydliadau'r Cenhedloedd Unedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Asiantaethau llywodraethol cydweithredol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • DFID (Asiantaeth Cydweithredu'r Deyrnas Unedig)
  • GIZ (Corfforaeth yr Almaen ar gyfer Cydweithrediad Rhyngwladol)
  • SDC (Asiantaeth y Swistir ar gyfer Datblygu a Chydweithrediad) [40]
  • EPA (Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr Unol Daleithiau) [41]

Sefydliadau a rhwydweithiau anllywodraethol rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gweithredu yn erbyn Newyn (ACF)
  • Gwaed: Dŵr [42]
  • Canolfan Diogelwch Dŵr a Chydweithrediad [43]
  • Rhwydwaith Gweithredu Dŵr Croyw (FAN) [44]
  • Dŵr Pur i'r Byd [45]
  • Prosiect DigDeep Hawl i Ddŵr [46]
  • Sefydliad y Môr Tawel [47]
  • Y Prosiect Dŵr [48]
  • Sefydliad Trawswladol gyda'r prosiect Cyfiawnder Dŵr [49]
  • UUSC [50]
  • Cymorth Dwr
  • WaterLex (wedi darfod o 2020) [51]
  • HeddwchJam

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "International Decade for Action 'Water for Life' 2005-2015. Focus Areas: The human right to water and sanitation". United Nations (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-12-12.
  2. "Resolution 64/292: The human right to water and sanitation". United Nations. August 2010. Cyrchwyd 13 October 2018.
  3. Refugees, United Nations High Commissioner for. "Refworld | General Comment No. 15: The Right to Water (Arts. 11 and 12 of the Covenant)". Refworld (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-27.
  4. 4.0 4.1 "The human rights to safe drinking water and sanitation" (PDF). Cyrchwyd 2020-11-27.
  5. "Resolution adopted by the General Assembly" (PDF). Cyrchwyd 2020-11-27.
  6. Baer, M. 2015. From Water Wars to Water Rights: Implementing the Human Right to Water in Bolivia, Journal of Human Rights, 14:3, 353-376, DOI:10.1080/14754835.2014.988782
  7. UN (United Nations). 2010. Resolution adopted by the general assembly. 64/292. The human right to water and sanitation. A/RES/64/292. New York: United Nations.
  8. UNDP (United Nations Development Programme). 1997. Governance for Sustainable Human Development: A UNDP Policy Document. UNDP, New York, NY, USA. See http://mirror.undp.org/magnet/policy/ (accessed 21/06/2012)
  9. World Health Organisation (WHO) and United Nation Children's Fund (UNICEF). 2011. Drinking water: Equity, Satefy and sustainability. New York: WHO/UNICEF Joint Monitoring Programme (JMP) for Water and Sanitation.
  10. World Health Organisation (WHO) and United Nation Children's Fund (UNICEF). 2012. Progress on drinking water and sanitation. 2012 update. New York: WHO/UNICEF Joint Monitoring Programme for Water Supply and Sanitation.
  11. de Albuquerque, Catarina (2014). Realising the human rights to water and sanitation: A Handbook by the UN Special Rapporteur (PDF). Portugal: United Nations. tt. Introduction.
  12. 12.0 12.1 12.2 12.3 Roaf, Virginia; Albuquerque, Catarina de; Heller, Léo (2018-07-26). The Human Rights to Water and Sanitation. Abingdon, Oxon; New York: Routledge. tt. 26–43. doi:10.4324/9781315471532-2. ISBN 978-1-315-47153-2. Cyrchwyd 2020-10-29.
  13. III.S.8 United Nations General Assembly Resolution 64/292 (On the Right to Water and Sanitation) (28 July 2010). Martinus Nijhoff Publishers. 2012. tt. 1–2. doi:10.1163/ilwo-iiis8. ISBN 978-90-04-20870-4. Cyrchwyd 2020-10-29.
  14. "International Decade for Action 'Water for Life' 2005-2015. Focus Areas: The human right to water and sanitation". United Nations. Cyrchwyd 2021-04-27.
  15. 15.0 15.1 General Assembly Declares Access to Clean Water and Sanitation Is a Human Right." UN News Center. 28 July 2010. Accessed 20 March 2014.
  16. Global Issues at the United Nations." UN News Center. n.d. Accessed 20 March 2014.
  17. [1], McGraw, George S. "Defining and Defending the Right to Water and its Minimum Core: Legal Construction and the Role of National Jurisprudence" Loyola University Chicago International Law Review Vol. 8, No. 2, 127-204 (2011) at 137.
  18. [2], Natalie Baird and Diana Pickard "Economic, social and cultural rights: a proposal for a constitutional peg in the ground" [2013] NZLJ 289 at 297
  19. [3], Natalie Baird and Diana Pickard "Economic, social and cultural rights: a proposal for a constitutional peg in the ground" [2013] NZLJ 289 at 298
  20. Residents of Bon Vista Mansions v. Southern Metropolitan Local Council, High Court of South Africa, Case No. 01/12312.
  21. [4], South African Constitution, Section 27(1)(a).
  22. [5], Committee on Economic, Social and Cultural Rights, General Comment 12, Right to adequate food (Twentieth session, 1999), U.N. Doc. E/C.12/1999/5 (1999), reprinted in Compilation of General Comments and General Recommendations Adopted by Human Rights Treaty Bodies, U.N. Doc. HRI/GEN/1/Rev.6 at 62 (2003).
  23. [6], South African Water Services Act [No. 108 of 1997] Section 4 (3)
  24. [7], UN General Comment No. 15
  25. [8], Amy Hardberger "Life, Liberty and the Pursuit of Water: Evaluating Water as a Human Right and the Duties and Obligations it Creates" (2005) 4 Northwestern Journal of International Human Rights 331 at 352
  26. Delhi Water Supply & Sewage v. State Of Haryana & Ors, 1999 SCC(2) 572, JT 1996 (6) 107
  27. econeeds.org
  28. Natalie Baird and Diana Pickard, "Economic, social and cultural rights: a proposal for a constitutional peg in the ground", [2013] NZLJ 289 at 299
  29. [9], New Zealand Law Society Human Rights & Privacy Committee, Submission to the 18th Session of The Human Rights Council, Shadow Report to New Zealand's 2nd Universal Periodic Review
  30. 30.0 30.1 30.2 Wood, Oliver (2017-09-15). "Standing Rock Sioux Tribe v. U.S. Army Corps of Engineers". Public Land & Resources Law Review (8). https://scholarship.law.umt.edu/plrlr/vol0/iss8/4.
  31. "govinfo". www.govinfo.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-29.
  32. "Standing Rock Sioux Tribe v. U.S. Army Corps of Engineers; Indian Law Bulletins, National Indian Law Library (NILL)". narf.org. Cyrchwyd 2021-05-01.
  33. 33.0 33.1 Poirier, Robert; Schartmueller, Doris (2012-09-01). "Indigenous water rights in Australia". The Social Science Journal 49 (3): 317–324. doi:10.1016/j.soscij.2011.11.002. ISSN 0362-3319. https://doi.org/10.1016/j.soscij.2011.11.002.
  34. Burdon, Peter; Drew, Georgina; Stubbs, Matthew; Webster, Adam; Barber, Marcus (2015-10-02). "Decolonising Indigenous water 'rights' in Australia: flow, difference, and the limits of law". Settler Colonial Studies 5 (4): 334–349. doi:10.1080/2201473X.2014.1000907. ISSN 2201-473X. https://doi.org/10.1080/2201473X.2014.1000907.
  35. Lambert, Renaud (2015-05-01). "La goutte d'eau irlandaise". Le Monde diplomatique (yn Ffrangeg). Cyrchwyd 2022-09-16.
  36. Thu; Apr, 13; 2017 - 06:52 (2017-04-13). "Water charges regime to be officially scrapped today". Irish Examiner (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-16.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  37. "In Africa, War Over Water Looms As Ethiopia Nears Completion Of Nile River Dam". NPR. 27 February 2018.
  38. theguardian.com; adalwyd 6 Medi 2022.
  39. "FIAN International". fian.org. Cyrchwyd 2021-03-30.
  40. "Error". www.eda.admin.ch. Cyrchwyd 2021-03-30.
  41. US EPA, OMS (2013-02-22). "Regulatory Information by Topic: Water". US EPA (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-11.
  42. "Blood:Water". Blood:Water (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-02.
  43. "Actualizing the right to water". cwsc (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-25.
  44. "Freshwater Action". www.freshwateraction.net. Cyrchwyd 2021-03-30.
  45. "About Pure Water for the World – Pure Water for the World" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-27.
  46. "DIGDEEP". DIGDEEP (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-30.
  47. "Pacific Institute | Advancing Water Resilience". Pacific Institute (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-30.
  48. "Help Solve the Water Crisis in Africa". The Water Project (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-27.
  49. "Search results". Transnational Institute (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-30.
  50. "Home". Unitarian Universalist Service Committee (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-30.
  51. "WaterLex – Securing human rights to water and sanitation through law and policy reform" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-30.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]