Gwyddeleg
Gwyddeleg | ||
---|---|---|
Gaeilge | ||
Siaredir yn | Gweriniaeth Iwerddon (1.77 miliwn)[1] Y Deyrnas Unedig (95,000) America (18,000) Yr Undeb Ewropeaidd (iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd) | |
Rhanbarth | Gaeltachtaí, ond siaredir ar draws Iwerddon gyfan | |
Cyfanswm siaradwyr | 391,470 rhugl neu siaradwyr brodorol (1983)[2] Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae 1.77 miliwn o bobl (3 oed a throsodd) yn y Weriniaeth yn gallu siarad Gwyddeleg[1] | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd
| |
System ysgrifennu | Lladin (Amrywiad ar yr Wyddeleg) | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Gweriniaeth Iwerddon Yr Undeb Ewropeaidd | |
Iaith leiafrifol gydnabyddedig yn | Y Deyrnas Unedig -Gogledd Iwerddon | |
Rheoleiddir gan | Foras na Gaeilge | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | ga | |
ISO 639-2 | gle | |
ISO 639-3 | gle | |
Wylfa Ieithoedd | – |
Mae Gwyddeleg (Gaeilge) yn iaith Geltaidd. Mae tua 1,800,000 o bobl yn Iwerddon yn siarad Gwyddeleg i raddau: 1,656,790 yng Ngweriniaeth Iwerddon (cyfrifiad 2006) a 167,487 yng Ngogledd Iwerddon (cyfrifiad 2001).
Hanes
[golygu | golygu cod]Datblygodd yr Wyddeleg o'r iaith Geltaidd hynafol a elwir yn Oedeleg (arferir yr enw 'Celteg Q' yn ogystal; rhan o 'Gelteg P' oedd Brythoneg, rhagflaenydd y Gymraeg). Gaeleg a Manaweg ydyw'r ieithoedd Goedelaidd eraill. Maent yn fwy tebyg i'w gilydd nag ydyw'r Gymraeg i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Bu ymfudo rhwng Iwerddon a gorllewin yr Alban am ganrifoedd, ac mae traddodiad llenyddol yr Wyddeleg a'r Aeleg yn deillio o'r traddodiad Hen Wyddeleg ac orgraff y ddwy iaith yn rhannu nodweddion cyffredin. Fel yn achos y Gymraeg mae'n arfer rhannu hanes yr iaith yn dri chyfnod, sef Gwyddeleg Diweddar, Gwyddeleg Canol a Hen Wyddeleg.
Sefyllfa heddiw
[golygu | golygu cod]Mae'r Wyddeleg wedi cilio fel iaith gymunedol naturiol llawer mwy na'r Gymraeg, ond mae gan yr ardaloedd lle mae Gwyddeleg yn dal yn iaith lafar gymunedol gydnabyddiaeth swyddogol. Nifer o ardaloedd bach gwledig ydynt, wedi'u gwasgaru ar draws saith sir, a elwir gyda'i gilydd yn ardaloedd y Gaeltacht.
Blwyddyn | Nifer y siaradwyr Gwyddeleg | Canran y siaradwyr Gwyddeleg |
---|---|---|
1861 | 1,077,087 | 24.5 |
1871 | 804,547 | 19.8 |
1881 | 924,781 | 23.9 |
1891 | 664,387 | 19.2 |
1901 | 619,710 | 19.2 |
1911 | 553,717 | 17.6 |
1926 | 543,511 | 18.3 |
1926 | 540,802 | 19.3 |
1936 | 666,601 | 23.7 |
1946 | 588,725 | 21.2 |
1961 | 716,420 | 27.2 |
1971 | 789,429 | 28.3 |
1981 | 1,018,413 | 31.6 |
1986 | 1,042,701 | 31.1 |
1991 | 1,095,830 | 32.5 |
1996 | 1,430,205 | 41.1 |
2002 | 1,570,894 | 41.9 |
2006 | 1,656,790 | 40.8 |
2011 | 1,774,437 | 40.6 |
Sail: Iwerddon gyfan at 1926, y Weriniaeth ers hynny[3]
Rhai geiriau Gwyddeleg
[golygu | golygu cod]- Bó - buwch
- Fear - dyn
- Duine - bod dynol
- Gealach - lleuad (lloer)
- Grian - haul
- Sliabh - mynydd
- Trá - traeth
- Maith - da
- Glan - glân
- Beag - bach
- Mór - mawr
- Leabhar - llyfr
- Gorm - glas
- Glas - gwyrdd
- Dubh - du
- Tine - tân
- Am - amser
- Aimsir - tywydd
Rhai ymadroddion
[golygu | golygu cod]- Dia Dhuit - siwmai / sut mae?
- Conas atá tú? - sut wyt ti? /sut ydych chi?
- An-mhaith - da iawn
- Go raibh maith agat - diolch
- Mise freisin - finnau hefyd
- B'fhéidir - efallai
- Níl a fhios agam - Dw i ddim yn gwybod / Wn i ddim
- Ba mhaith liom... - Hoffwn i...
- Cad is ainm duit? - Beth yw'ch enw chi?
- Seán is ainm dom - Fy enw i yw Seán
- Is mise Seán - Seán wyf i
- Le do thoil - os gwelwch yn dda
- Ní thuigim - Dw i ddim yn deall
- Nílim cinnte - Dw i ddim yn siŵr
- Cá bhfuil an t-ostán? - Ble mae'r gwesty?
- An dtuigeann tú Gaeilge?" - Wyt ti'n deall Gwyddeleg?
- Tuigim beagán Gaeilge." - Rwy'n deall tipyn bach o Wyddeleg
- Is breá liom.. - Rwy'n hoffi...
- Tá sé fuar inniú - Mae hi'n oer heddiw.
- Tá brón orm - Mae'n flin gyda fi / mae'n ddrwg gen i
- Slán - Hwyl
Cymariaethau â Chymraeg
[golygu | golygu cod]Y Rhifau
Cymraeg | un | dau | tri | pedwar | pump | chwech | saith | wyth | naw | deg |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | aon | dó | trí | ceathair | cúig | sé | seacht | ocht | naoi | deich |
Rhagenwau
Cymraeg | fi/i | ti | fe/e | hi | ni | chi | nhw |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | mé | tú | sé / é | sí / í | sinn | sibh | iad |
Meddiant
Cymraeg | fy nhŷ | dy dŷ | ei dŷ | ei thŷ | ein tŷ | eich tŷ | eu tŷ |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | mo theach | do theach | a theach | a teach | ár dteach | bhur dteach | a dteach |
Gw - F
Cymraeg | gŵr | gwyn | gwell | gwin | gwlyb | gwir | gwan | gwyddbwyll | gwylan |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | fear | fionn (golau) | fearr | fíon | fliuch | fíor | fann | ficheall | faoileán |
P - C
Cymraeg | pa | pwy | pen | pedwar | pump | plant | mab | Pasg | pawb | pren |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | cad | cé | ceann | ceathair | cúig | clann | mac | Cáisc | cách | crann |
H - S
Cymraeg | haul | halen | haf | hen | hynny | hi |
---|---|---|---|---|---|---|
Gwyddeleg | súil (llygad) | salann | samhradh | sean | sin | sí |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Lexicelt: geiriadur ar-lein Cymraeg-Gwyddeleg
- Gwefan swyddogol Foras na Gaeilge (Bwrdd yr Iaith Wyddeleg)
- Cymdeithas Cyfieithwyr Gwyddeleg Archifwyd 2006-12-31 yn y Peiriant Wayback (Cumann Aistritheoirí agus Teangairí na hÉireann)
- Wicitestun Gwyddeleg
- Gwyddeleg ar y rhyngwyd Archifwyd 2005-07-19 yn y Peiriant Wayback (Gaeilge ar an ghréasán)
- Geiriadur termau Gwyddeleg (Focal.ie)
- Papur newydd wythnosol (Foinse )
- Myfyrwyr Gwyddeleg (Daltaí na Gaeilge)
- Gaelscoileanna - addysg drwy gyfrwng yr Wyddeleg
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |