Groegiaid Antiochiaidd

Oddi ar Wicipedia
Groegiaid Antiochiaidd
Enghraifft o'r canlynolGrŵp ethnogrefyddol Edit this on Wikidata
MathDiaspora Gwlad Groeg, Cristnogaeth, Lefant Edit this on Wikidata

Mae Groegiaid Antiochaidd yn aelodau ethnig Groegaidd o Eglwys Uniongred Roegaidd Antioch a Christnogion Catholig Groegaidd, sy'n byw neu wedi byw yn Syria, Libanus, ac yn nhiriogaeth talaith gyfoes Twrci, Hatay, sy'n cynnwys hen ddinas Antioch (Antakya heddiw), ac sy'n cynnwys eu disgynyddion yn y Dwyrain Canol a Gogledd a De America.

Mae gan y gymuned dreftadaeth hir sy'n dyddio'n ôl i sefydlu Antioch yn 323 CC gan Seleucus I Nicator ar adeg concwest Alecsander Fawr o'r Aramaeaniaid hyn a oedd yn siarad Syrieg ac yn dathlu'r litwrgi yn Hen Aramaeg Syriaidd. Gyda dyfodiad Arabeg yn y Lefant, erbyn heddiw mae'r mwyafrif wedi dod yn gymuned Gristnogol sy'n siarad Arabeg, gan siarad Arabeg Lefantaidd yn bennaf, er bod llawer hefyd yn siarad Groeg a Twrceg.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn hanesyddol, roeddent yn cael eu hystyried fel rhan o Rûm miled gan yr awdurdodau Otoman. Roedd gan y gymuned tuedd nodedig o fewnfudo yn gynnar yn yr 20g. Gan roedd yr Sanjak o Alexandretta y pryd hynny’n rhan o Syria, nid oedd y Groegiaid yn ddarostyngedig i gyfnewid poblogaeth yn 1923. Ar ôl i wladwriaeth Hatay gael ei gymryd drosodd gan Dwrci yn 1939, ymfudodd llawer i Syria a Libanus. Bu ton newydd o fewnfudo o Roegiaid Antiochiaidd i wledydd y Gorllewin yn y 1960au.

Traddodiadau litwrgaidd a llên[golygu | golygu cod]

Mae rhai defodau offeiriadol Synagogol Groegaidd Hynafol ac emynau nodweddiadol sy'n tarddu yn Antiochia wedi goroesi yn rhannol i’r presennol yng ngwasanaethau eglwysig arbennig y cymunedau Melkite a'r Uniongred Groegaidd o Dalaith Hatay, De Twrci, Syria, Libanus a'r Tir Sanctaidd.

Poblogaeth a threftadaeth ethno-ddiwylliannol[golygu | golygu cod]

Yn yr ystyr daearyddol, cul ei ddiffiniad, yn ôl cyfrifiad a gynhaliwyd gan Patriarchaeth Antioch yn 1895, roedd 50,000 o Roegiaid Antiochiaidd yn Alexandretta Sanjak ei hun h.y. yn byw yn Nhalaith Hatay, De Twrci, o'i gymharu â thua 30,000 yn y 1930au.[1] Yn 1995, amcangyfriwyd cyfanswm eu poblogaeth yn 10,000.[2] Ond gall y rhan fwyaf o aelodau o'r cymunedau Uniongred Groegaidd a chymunedau Catholig Groegaidd o Syria a Libanus, a adwaenir yn gyffredin fel MENA-gogleddol, "Melchiaid" neu "Rwmiaid", olrhain eu treftadaeth ethno-ddiwylliannol i ymsefydlwyr Groegaidd a Macedonaidd ac i Iddewo-Gristnogion a Roegwyd yn y gorffennol, sylfaenwyr cymunedau Groegaidd Antiochaidd gwreiddiol Cilicia a gogledd-orllewin Syria.

Gan gyfrif aelodau o'r lleiafrifoedd sydd wedi goroesi yn Nhalaith Hatay yn Nhwrci a'u perthnasau ar wasgar, mae mwy na 1.8 miliwn o Gristnogion Antiochaidd Groegaidd-Melchaidd yn byw yn y Lefant, yr Unol Daleithiau, Canada ac America Ladin heddiw.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae nifer sylweddol o'r Groegiaid Antiochaidd yn Nhwrci yn byw yn Istanbul. Maent i'w cael yn fwyaf amlwg yn Iskenderun, Samandağ ac Altınözü yn Hatay. Ceir cymuned ym Mersin hefyd. Adroddwyd am achos o drais rhyng-gymunedol gyda Mwslemiaid yn Altınözü yn 2005. Sbardun y digwyddiadau honedig hyn oedd aflonyddu rhywiol ar ferch Gristnogol gan brentis barbwr Mwslemaidd.[3]

Groegiaid Antiochaidd nodedig[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Peter Alford Andrews, Ethnic Groups in the Republic of Turkey, Dr. Ludwig Reichert Verlag, 1989, ISBN 3-89500-297-6
  2. http://www.hr-action.org/thr/GRTURK.html#OTHER Archifwyd 2006-12-20 yn y Peiriant Wayback. by Marios D. Dikaiakos
  3. haber7.com