Grŵp Wagner

Oddi ar Wicipedia
Grŵp Wagner
Enghraifft o'r canlynolprivate military company, paramilitary organization, sefydliad arfog, mudiad anghyfreithlon, terrorist organization Edit this on Wikidata
MathRussian irregular forces during the 2022 Russian invasion of Ukraine Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Mai 2014 Edit this on Wikidata
SylfaenyddYevgeny Prigozhin, Dmitry Utkin Edit this on Wikidata
OlynyddRedut Edit this on Wikidata
PencadlysSt Petersburg, Molkin Edit this on Wikidata
Enw brodorolЧВК «Вагнер» Edit this on Wikidata
GwladwriaethRwsia Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://wagnercentr.ru/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cwmni o hurfilwyr o Ffederasiwn Rwsia yw Grŵp Wagner (Rwseg: Группа Вагнера trawslythreniad: Gruppa Vagnera), yn swyddogol Cwmni Milwrol Preifat Wagner (ЧВК «Вагнер» ChVK «Vagner»). Ers 2014 mae wedi darparu gwasanaethau milwrol a diogelwch am dâl yn Wcráin, Syria, a sawl gwlad ar draws Affrica, fel rheol yn ategol i luoedd a gefnogir gan lywodraeth Rwsia. Mae union bwrpas a natur y grŵp yn ddadleuol, ac mae gwybodaeth am ei hanes a'i weithredoedd yn ddibynnol ar ffynonellau agored (OSINT) a newyddiaduraeth ymchwiliol. Mae llawer o dystiolaeth i ddangos cysylltiadau agos rhwng Grŵp Wagner a sefydliadau milwrol, gwleidyddol, a chudd-wybodaeth Rwsia. Yn ôl rhai sylwebwyr ac ysgolheigion, llu lled-filwrol a grëwyd gan luoedd arfog Rwsia at ddiben nodau strategol y llywodraeth ym Moscfa ydyw, gyda chefndir niwlog sydd yn rhoi "gwadadwyedd argyhoeddiadol" (plausible deniability) i Rwsia.

Mae amgylchiadau cychwyn y grŵp a'i hanes cynnar yn ddadleuol. Credir iddo gael ei sefydlu gan Dmitry Utkin, cyn-swyddog o Brif Gyfarwyddiaeth Cudd-wybodaeth Rwsia (GRU). Daeth hurfilwyr Wagner i sylw'r byd yn 2014 wrth iddynt gefnogi'r cyrch i gyfeddiannu'r Crimea, a chynorthwyo ymwahanwyr o blaid Rwsia yn brwydro'n erbyn lluoedd Wcráin yn y Donbas. Mae'n debyg i'r grŵp gael ei enwi ar ôl y cyfansoddwr Almaenig Richard Wagner, o bosib oherwydd hoffter Utkin am hanes yr Almaen. Yn ogystal â Rhyfel Rwsia ac Wcráin, bu presenoldeb gan Grŵp Wagner mewn rhyfeloedd cartref yn Syria, Libia, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, a Mali. Cynyddodd presenoldeb y grŵp yn Wcráin yn sylweddol yn sgil goresgyniad y wlad gan Rwsia yn Chwefror 2022, ac erbyn diwedd y flwyddyn honno amcangyfrifodd llywodraeth y Deyrnas Unedig ryw 20,000 o hurfilwyr Wagner yn Wcráin.[1] Datganodd Cyngor Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau fod rhyw 80 y cant o'r rheiny wedi eu recriwtio o garchardai.[2]

Cyhuddwyd hurfilwyr o Grŵp Wagner o sawl achos o gamdriniaethau hawliau dynol a throseddau rhyfel, gan gynnwys artaith, llofruddio sifiliaid, a gosod ffrwydron tir.[3] Mae nifer o sefydliadau anllywodraethol, gwleidyddion, ymgyrchwyr, ac ysgolheigion wedi mynegi pryder am Rwsia yn defnyddio cwmnïau milwrol preifat megis Grŵp Wagner mewn ardaloedd gwrthdaro fel modd o ryfela trwy ddirprwy.

Ar 23 Mehefin 2023, wedi iddo gyhuddo milwyr Rwsiaidd o ymosod ar ei ddynion, lansiodd Prigozhin wrthryfel yn erbyn arweinyddiaeth filwrol Rwsia.[4] Symudodd unedau Grŵp Wagner o Wcráin i diriogaeth Rwsia, a chipiwyd dinas Rostov ganddynt. Bygythiodd Prigozhin ymosod ar Foscfa cyn iddo gytuno i roi'r gorau i'r gwrthryfel.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Russia-supporting Wagner Group mercenary numbers soar", BBC (22 Rhagfyr 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mehefin 2023.
  2. (Saesneg) "What is Russia's Wagner Group of mercenaries in Ukraine?", BBC (24 Mehefin 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mehefin 2023.
  3. (Saesneg) Samy Magdy, "US military: Russian mercenaries planted land mines in Libya", AP News (15 Gorffennaf 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mehefin 2023.
  4. (Saesneg) James Kilner, "Wagner chief in coup against Putin as he warns he has 25,000 fighters ready to 'end this mess'", The Daily Telegraph (24 Mehefin 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mehefin 2023.
  5. (Saesneg) Roland Oliphant, "Wagner mutineers turn back from Moscow after striking deal with Putin", The Daily Telegraph (24 Mehefin 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Mehefin 2023.