Gogs

Oddi ar Wicipedia
Gogs
Fformat Cyfres animeiddiedig
Cyfarwyddwyd gan Deiniol Morris
Michael Mort
Lleisiau Gillian Elisa
Marie Clifford
Dafydd Emyr
Rosie Lawrence
Rob Rackstraw
Nick Upton
Cyfansoddwr y thema Arwyn Davies
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Nifer cyfresi 2
Nifer penodau 13
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Helen Nabarro
Amser rhedeg 5 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Aaargh Animation
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC
Darllediad gwreiddiol 1993
Cysylltiadau allanol
Proffil IMDb

Cyfres deledu gomedi animeiddiedig yw Gogs, sydd wedi ei seilio ar deulu cynhanesiol o ddynion ogof. Roedd y gyfres yn defnyddio techneg animeiddio mudiant-stop (Saesneg: claymation). Deiniol Morris a Michael Mort gyfarwyddodd y gyfres, o dan enw eu cwmni cynhyrchu, Aaargh Animation, comisiynwyd Gogs gan BBC Bryste ac S4C.[1] Darlledwyd "Gogs" am y tro cyntaf ar deledu BBC yn 1993. Roedd dwy gyfres o benodau 5 munud ac un pennod arbennig hanner awr o'r enw "Gogwana".

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

  • Ogo, mab hŷn. Mae'n ymddangos ei fod yn ei arddegau. Mae'n araf ac yn dwp, ond yn ceisio plesio a dilyn gorchmynion eraill trwy'r amser. Serch hynny, mae wastad yn methu, ac fel arfer yn cael ei orchuddio mewn llanast neu'n colli ei ddannedd. Mae'n diddanu ei hun wrth bigo ei drwyn a bwyta'r hyn mae'n ei ganfod yno.
  • Oglas, y tad. Slob diog sy'n treulio rhan fwyaf ei amser yn gorwedd o gwmpas a byw ei fywyd yn ei ffordd ei hun, ond weithiau mae'n codi oddi ar ei din i hela. Mae'n cwffio gyda'i fab, Ogo, a'i wraig Ogla, yn aml.
  • Ogla, y fam. Enfawr a boslyd, nid yw gweddill y teulu yn meiddio dadlau gyda hi. Er ei bod yn meddwl bod ei theulu'n ffiaidd ac yn ymddangos eu bod yn eu casáu, mae'n eu caru nhw mewn gwirionedd, yn arbennig ei baban, Girj.
  • Igi, y ferch sy'n hipi. Fel Ogo, mae'n debyg fod Igi yn ei harddegau. Igi yw'r doethaf o'r Gogs, yn darlunio pethau megis hafaliadau a glasbrintiau ar gerrig, ac yn dyfeisio pethau megis gwisg aderyn a balŵn awyr poeth wedi eu creu o ddeinosor marw. Ond gan mai hi yw'r lleiaf a'r gwanaf, mae pawb yn pigo ar Igi a chaiff ei cham-ddeall yn aml.
  • Gogas, y taid (tadcu). Mae ganddo dymer byr, mae'n ddifoes ac yn grai, eisiau gwneud popeth ei ffordd ei hun. Ei hoff eiddo yw ei bastwn, ac ei ateb i bron pob problem yw eu bastynu.
  • Girj, y babi. Yn gyfrwys ond yn wirioneddol ddoer, yn galed ac yn llechgi. Mae'n treulio rhan fwyaf ei amser yn sgrechian a chrio (dyma yw cân thema'r gyfres), a cheisia'r Gogs eraill wneud unrhyw beth i'w stopio.

Anifeiliaid[golygu | golygu cod]

  • Eryr. Yn y bennod gyntaf mae Igi yn gweld eryr yn hedfan uwchben y ddaear, sy'n ei hysbrydoli i greu gwisg aderyn. Bu bron i Oglas daro'r eryr gyda saeth o fwa Gogas.
  • Twrch daear. Mae'r twrch daear yn anifail sy'n ail-ymddangos yn aml yn y gyfres gyntaf. Gwelir Gogas yn aml yn ceisio pastynu'r twrch daear.
  • Deinosor. Yr yr ail bennod, mae Oglas ac Ogo yn canfod deinosor theropod maint dyn yn bwyta dail. Mae'n sylwi arnynt yn fuan ac yn dechrau eu curo.
  • Tyrannosaurus rex. Yr yr ail bennod, mae Oglas ac Ogo yn dianc oddi wrth y deinosor bychan ond i ganfod Tyrannosaurus Rex enfawr sy'n eu herlid dros glogwyn. Mae'n ail-ymddangos sawl gwaith yn ystod y gyfres gyntaf, ac mewn un bennod yn yr ail gyfres, Gogwana.
  • Baedd Gwyllt. Yr yr ail bennod, mae baedd gwyllt yn ymosod ar Ogo tra ei fod wedi ei glymu i goeden. Mae'r baedd yn erlid Oglas a Gogas, gan achosi iddynt ddisgyn lawr twll. Teflir y goeden mae Ogo ynghlwm iddi dros y twll. Mae'r baedd yn parhau i biso a chachu arnynt tan fod Ogla yn ei ddychryn i ffwrdd.
  • Pteranodon. Yn y drydedd bennod, mae storm taranau yn gyrru'r Gogs i chwilio am gysgod. Mae Ogo yn dringo coeden i ganfod deilen o nyth y Pteranodon i guddio oddi tani. Mae'r Pteranodon yn codi Ogo i'r awyr a'i gario ymaith, yn ddiweddarach yn y bennod mae'n cipio Ogla yn ogystal.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]