Gareth Hughes

Oddi ar Wicipedia
Gareth Hughes
Ganwyd23 Awst 1894 Edit this on Wikidata
Dafen Edit this on Wikidata
Bu farw1 Hydref 1965 Edit this on Wikidata
Motion Picture & Television Country House and Hospital Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, cenhadwr, actor ffilm, actor llwyfan, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Nevada, Reno Edit this on Wikidata

Actor llwyfan a ffilm o Gymru oedd Gareth Hughes (23 Awst 18941 Hydref 1965). Fel arfer roedd yn cael ei gastio fel arwr sensitif, dibrofiad mewn ffilmiau mud Hollywood. Cychwynodd Hughes ei yrfa ar lwyfan yn ystod ei blentyndod a parhaodd i chwarae rhannau ieuanc ar Broadway.

Disgrifiwyd ei wên fel un oedd  "yn dechrau ychydig yn swil, a gorffen yn eang" yn y Picture-Play, Gorffennaf 1921.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd William John Hughes i deulu dosbarth gweithiol yn Dafen, sir Gaerfyrddin, ac ar ôl gweithio gyda nifer o gwmniau teithiol yng ngwledydd Prydain ymunodd â grŵp o actorion Cymreig. Aeth y grŵp ar daith i'r Unol Daleithiau, ac er nad oedd yn llwyddiannus cafodd talent ei sbotio Hughes yn Chicago, a penderfynodd aros yn America i ddilyn ei yrfa actio. Erbyn diwedd 1915 roedd wedi dod yn llwyddiannus ar Broadway. Arweiniodd hyn, yn ei dro, at ei gysylltiad gyda'r busnes ffilmiau.

Gyrfa ffilm[golygu | golygu cod]

Roedd gwaith cynharaf Hughes ar sgrîn gyda Clara Kimball Young yn Eyes of Youth (1919) a gyda Marguerite Clark yn Mrs Wiggs of the Cabbage Patch (1920). Perfformiodd gyda Viola Dana yn The Chorus Girl's Romance (1920). Arwyddodd gyda Metro Pictures a fe'i rhoddwyd ar fenthyg i Famous Players Lasky ar gyfer Sentimental Tommy (1921), yn ôl pob tebyg ei rôl ffilm orau.

Er ei fod wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau cyn hyn, roedd yn ystyried Sentimental Tommy fel ei hoff ffilm a'r mwyaf llwyddiannus. Gwnaeth pedwar deg-pump o ffilmiau rhwng 1918 a 1931. Ef hefyd oedd y hyfforddwr tafodiaith Cymreig ar The Corn is Green (1945) yn serennu Bette Davis. Disgrifwyd Hughes gan Cecil B. DeMille fel "delfrydwr ifanc", a disgrifiodd Fulton Oursler ef fel "y bachgen swyn i roi diwedd ar yr holl fechgyn swyn".

Dychwelyd i'r theatr[golygu | golygu cod]

Yn 1929, fel llawer o bobl eraill, collodd ei ffortiwn yng nghwymp Wall Street a fe'i adawyd heb yr un geiniog, ond parhaodd i wneud ffilmiau tan 1931 pan ymddangosodd yn Scareheads. Penderfynodd wedyn i adael y byd ffilm a dychwelyd i'w gariad cyntaf, y theatr. Rhedodd ei berfformiad olaf am 18 wythnos yn y Hollywood Playhouse yn 1938, lle serennodd fel Shylock yn y Merchant of Venice.

Cenhadwr[golygu | golygu cod]

Yn y 1940au cynnar profodd Hughes alwad gan Dduw. Mabwysiadodd yr enw Brother David, ac yn 1944 daeth yn genhadwr i Indiaid y Paiute ar Randir Pyramid Lake o Nevada. Treuliodd Hughes bron i 14 mlynedd gyda ei "blant" fel yr oedd yn hoff o'u galw.

Blynyddoedd diweddarach[golygu | golygu cod]

Yn 1958 penderfynodd Hughes ddychwelyd i Lanelli i dreulio ei flynyddoedd olaf yno. Ond roedd yn dyheu am heulwen arfordir orllewinol yr Amerig, ac ar ôl pum mis, dychwelodd i Galiffornia. Yn ddiweddarach symudodd Hughes i Gartref 'Motion Picture Country' yn Woodland Hills lle'r oedd ganddo ei fwthyn ei hun. Bedyddiodd yr actores ffilmiau mud Clara Kimball Young cyn ei marwolaeth. Bu farw ym 1965 o gymhlethdodau o byssinosis, clefyd yr ysgyfaint a gafodd wedi blynyddoedd yn didoli dillad rhodd yn Pyramid Lake. Cafodd ei amlosgi a claddwyd ei weddillion yn mynwent Gerddi Coffa Seiri Rhyddion yn Reno, Nevada.[2]

Yn 2000 cynhyrchwyd y ffilm ddogfen cyntaf ar fywyd Hughes gan Ffilmiau'r Nant mewn cydweithrediad â Stephen Lyons, cofiannydd Hughes, a darlledwyd y rhaglen ar S4C. Yn 2008, gwnaeth ei berthynas Kelvin Guy ffilm In Search of Gareth Hughes Archifwyd 2011-07-28 yn y Peiriant Wayback., sydd wedi ei ryddhau yn gyfyngedig iawn. Nid yw wedi cael ei ddarlledu nid yw'r ffilm ar gael i'w wylio yn gyhoeddus.[3]

Yn 2000, gosodwyd plac efydd er cof Gareth yn Amgueddfa Parc Howard (Llanelli) gan Stephen Lyons a nith Gareth; yn ddiweddarach yr un flwyddyn, codwyd plac glas Archifwyd 2011-07-28 yn y Peiriant Wayback. ar gartref Hughes fel plentyn, ar Princess Street yn Llanelli, a chafodd ei ddadorchuddio gan aelodau o'i deulu. Stephen Lyons, Treftadaeth Gymunedol Llanelli a'i berthynas Kelvin Guy sy'n gyfrifol am y teyrngedau hyn i seren y ffilmiau mud.[4]

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dynodi gwefan y bywgraffydd Stephen Lyons fel rhan o dreftadaeth dogfennol Cymru.[5]

Ffilmyddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

  • Every Mother's Son (1918)
  • The Woman Under Oath (1919)
  • The Isle of Conquest (1919)
  • Eyes of Youth (1919)
  • The Eternal Mother (1920)
  • The Woman in His House (1920)
  • Sentimental Tommy (1921)
  • Forget Me Not (1922)
  • Kick In (1922)
  • The Christian (1923)
  • Enemies of Women (1923)
  • The Spanish Dancer (1923)
  • Shadows of Paris (1924)
  • The Midnight Girl (1925)
  • Eyes of the Totem (1927)
  • The Sky Rider (1928)
  • Mister Antonio (1929)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Squier, Emma-Lindsay (July 1921). "Sentimental Gareth". Picture-Play (New York: Street & Smith Corporation). https://archive.org/stream/pictureplaymagaz14unse#page/n485/mode/2up. Adalwyd October 2, 2015.
  2. Davis, Lisa Fagin. "A Welshman in Reno". Manuscript Road Trip. Cyrchwyd 4 Ionawr 2014.
  3. "Tribute to 'forgotten' film star". BBC Wales. 2008-08-22.
  4. "Bronze Plaque".
  5. Lyons, Stephen. "Gareth Hughes: The First Welsh Film Star". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-06. Cyrchwyd 4 January 2014.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]