The Corn is Green (ffilm 1945)

Oddi ar Wicipedia
Am gynyrchiadau eraill o The Corn is Green gweler The Corn is Green (gwahaniaethu)
The Corn Is Green
Poster hybu'r ffilm
Cyfarwyddwyd ganIrving Rapper[1]
Cynhyrchwyd ganJack Chertok
Awdur (on)Emlyn Williams (y ddrama wreiddiol)
Frank Cavett
Casey Robinson
Yn serennuBette Davis
Nigel Bruce
John Dall
Cerddoriaeth ganMax Steiner
SinematograffiSol Polito
Golygwyd ganFrederick Richards
Dosbarthwyd ganWarner Bros.
Rhyddhawyd gan14 Gorffennaf, 1945
Hyd y ffilm (amser)115 munud
GwladUnol Daleithiau
IaithSaesneg
Cyfalaf$1,545,000
Gwerthiant tocynnau$3,649,000
Bette Davis

Mae The Corn Is Green yn ffilm ddrama o 1945 sy’n serennu Bette Davis fel athrawes ysgol sy’n benderfynol o ddod ag addysg i dref lofaol yng Nghymru, er gwaethaf gwrthwynebiad mawr.[2] Fe'i haddaswyd o'r ddrama o'r un enw gan Emlyn Williams gyda Sybil Thorndike yn y brif rôl.

Enwebwyd John Dall a Joan Lorring ar gyfer yr Oscar am yr Actor Cefnogol Gorau a'r Actores Gefnogol Orau, am eu rhannau yn y ffilm.

Ym 1979, addaswyd y ddrama unwaith eto ar gyfer ffilm a wnaed ar gyfer y teledu, The Corn Is Green, gyda Katharine Hepburn yn serennu.

Plot[golygu | golygu cod]

Mae Lily Cristobel Moffatt (Bette Davis) yn sefydlu ysgol mewn tref lofaol yng Nghymru, er gwaethaf gwrthwynebiad penderfynol y sgweier lleol (Nigel Bruce). Yn y pen draw, mae hi'n ystyried rhoi'r gorau iddi. Yna mae hi'n darganfod myfyriwr addawol, Morgan Evans, glöwr y mae disgwyl iddo wynebu bywyd o waith caled a diod drom. Gyda gobaith o'r newydd, mae hi'n gweithio'n galed i'w helpu i wireddu ei botensial.

Trwy ddiwydrwydd a dyfalbarhad, mae Morgan yn cael cyfle i sefyll arholiad i Brifysgol Rhydychen gyda'r gobaith o ysgoloriaeth werthfawr. Mae Moffatt, gweddill yr athrawon, a'u myfyrwyr yn obeithiol y bydd Morgan yn pasio cyfweliad Rhydychen, ac felly y bu.

Fodd bynnag, mae Bessie Watty (Joan Lorring), merch ifanc sydd newydd roi genedigaeth i blentyn siawns Morgan, yn blacmelio Moffatt am arian i helpu magu'r babi.[3] Mae gan y fenyw ifanc gynllwyngar ei llygaid ar fachgen arall. Yn y pendraw, mae Moffatt yn cytuno i fabwysiadu’r plentyn fel na fydd dyfodol academaidd Morgan yn cael ei ddifetha. Mae Watty yn rhydd i briodi'r hogyn arall, heb boeni am gyfrifoldeb i’r plentyn na fu hi na’i chariad yn bwriadu gofalu amdano beth bynnag. Mae Morgan yn clywed am ymddygiad Watty, ac yn mynnu magu’r plentyn ei hun. Trwy sgwrs galonogol a pherswadiol, mae Moffatt yn argyhoeddi'r dyn ifanc i barhau â'i addysg uwch a chyfrannu rhywbeth i'r byd.

Cast[golygu | golygu cod]

  • Bette Davis fel Lily Cristobel Moffatt. Roedd y cymeriad i fod yn ei 50au. Er mwyn ei helpu i edrych y rhan, roedd y Davis (tri deg chwech oed) yn gwisgo wig lwyd a "siwt dew" a ychwanegodd 30 pwys (14   kg).
  • Nigel Bruce fel y Sgweier
  • John Dall fel Morgan Evans. Cafodd Richard Waring ei gastio am y rhan yn wreiddiol, ond cafodd ei ddrafftio ar gyfer gwasanaeth yn yr Ail Ryfel Byd .
  • Rhys Williams fel Mr. Watty
  • Rosalind Ivan fel Mrs. Watty
  • Mildred Dunnock fel Miss Ronberry
  • Arthur Shields fel Glyn Thomas
  • Gwyneth Hughes fel Sarah Pugh
  • Thomas Louden fel Old Tom
  • Joan Lorring fel Bessie Watty

Derbyniad[golygu | golygu cod]

Yn ôl cofnodion Warner Bros., enillodd y ffilm $2,202,000 yn ddomestig a $1,447,000 dramor.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Irving Rapper | American director". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2019-10-19.
  2. Crowther, Bosley (1945-03-30). "THE SCREEN IN REVIEW; Corn Is Green,' Starring Bette Davis in Role Played on the Stage by Ethel Barrymore, Opens at Hollywood Theatre Colonel Blimp,'Technicolor Film From Britain, at the Gotham --'Belle of the Yukon,' With Gypsy Rose Lee, Palace Bill At the Gotham At the Palace". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2019-10-19.
  3. "The Corn Is Green (1945)". BFI. Cyrchwyd 2019-10-19.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]