Gareth Ffowc Roberts

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gareth Ff. Roberts)
Neidio i: llywio, chwilio
Gareth Ffowc Roberts
Gareth Robrts.PNG
Yn enwog am Poblogeiddio mathemateg yn Gymraeg
Addysg Prifysgol Rhydychen; Prifysgol Nottingham (PhD)
Galwedigaeth Athro Prifysgol
Gwefan www.garethffowcroberts.com

Mae Gareth Ffowc Roberts yn awdur ac yn Athro Emeritws mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi poblogeiddio mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg ers y 1980au mewn erthyglau a llyfrau ac ar y cyfryngau. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y dulliau newydd o gaffael cysyniadau mathemategol mewn cyd-destunau dwyieithog. Dywed ar ei wefan: "Poblogeiddio mathemateg yw fy nod trwy ddangos fod y pwnc difyr hwn yn cyffwrdd pob un ohonom."[1]

Ennillodd ei radd mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Rhydychen ac ennillodd ddoethuriaeth o Brifysgol Nottingham[2].

Yn 2010 dyfarnwyd iddo y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg gan yr Eisteddfod Genedlaethol[2]

Mae'n hannu o Dreffynnon, Sir y Fflint lle derbyniodd ei addysg gynradd ac uwchradd. Bu'n Ymgynghorydd Mathemateg gyda Chyngor Sir Gwynedd cyn symud i’r Coleg Normal, Bangor ble daeth yn Brifathro’r coleg ac yna'n Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Bangor ac yna'n Athro Addysg yn y brifysgol honno[2].

Yn 2010 derbyniwyd i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro yn 2011[2].

Traddododd ddarlith ar y cyd gyda Dr Rowland Wynne yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar y 7fed o Hydref 2015 oedd â'r teitl Copenhagen a Chymru[3]. Roedd y ddarlith yma yn un o gyfres o ddarlithiau gwyddonol a drefnwyd i gyd-fynd â arddangosfa Dirgel Ffyrdd Natur yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng y 7fed o Orffennaf 2015 a'r 9fed o Ionawr 2016[4].

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n briod a Menna ac mae ganddo ddau o blant - Llinos sy'n feddyg teulu yng Nghaerfyrddin ac sydd wedi ymddangos yn rheolaidd ar deledu (cyfres Doctor Doctor a Prynhawn Da), a Huw Meredydd sy'n gweithio gyda'r BBC ac yn fwy adnabyddus fel y cerddor Huw M.[5]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Robert Recorde (The Life and Times of a Tudor Mathematician) (Gwasg y Brifysgol; 15 Hyd 2013)[6]
  • Mae Pawb yn Cyfrif (Gwasg Gomer 2012) - Trafodaeth ar agweddau cyfoes y Cymry at rifau a rhifo.[7]
  • Posau Pum Munud (cyfrol 1 a 2) (Gwasg Gomer 2014) - Pigion o bosau dyddiol a drydarwyd ar Twitter[8].
  • Count Us In (Gwasg Prifysgol Cymru; 2016) - cyfrol Saesneg am le mathemateg yng Nghymru a Chymru o fewn y byd mathemateg.

Erthyglau o bwys:[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyfarnwyd y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg iddo gan yr Eisteddfod Genedlaethol am ei waith mewn mathemateg yn 2010. Y flwyddyn wedyn fe’i derbyniwyd i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Wrecsam a’r Fro, er anrhydedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Gareth Ffowc Roberts; adalwyd 27 Tachwedd 2015
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Gwefan Llenyddiaeth Cymru; adalwyd 27 Tachwedd 2015
  3. https://www.llgc.org.uk/blog/?p=9976&lang=cy
  4. https://www.llgc.org.uk/blog/?m=201506&lang=cy
  5. Beti a'i Phobol
  6. 'Robert Recorde (The Life and Times of a Tudor Mathematician); Gwasg Prifysgol Cymru; EAN: 9780708326824; Cyhoeddwyd: 15 Hyd 2013
  7. Gwefan gwales; adalwyd Tachwedd 2015
  8. Cyfri Twitter Gareth Roberts; adalwyd Tachwedd 2015