Gareth Evans (codi pwysau)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gareth Evans
Gwybodaeth bersonol
Enw llawn Gareth Irfon Evans
Llysenw "Pinhead"
Ganwyd (1986-04-18) 18 Ebrill 1986 (32 oed)
Dundee, Yr Alban
Taldra 1.69 m (5 ft 7 in) (5 ft 7 in)
Pwysau 69 kg (152 lb; 10.9 st)
Camp
Gwlad Cymru
Chwaraeon Codi Pwysau
Camp 69kg
Clwb Clwb Codi Pwysau Caergybi
Diweddarwyd 6 Ebrill 2018.

Codwr pwysau Cymreig ydi Gareth Irfon Evans (ganed 18 Ebrill 1986) sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad a Phrydain Fawr yn y Gemau Olympaidd. Llwyddodd i ennill medaul aur y Codi Pwysau categori 69kg yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur, Awstralia[1].

Gyrfa codi pwysau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd Evans godi pwysau pan yn 12 mlwydd oed ar ôl ymuno â chlwb Codi Pwysau Caergybi lle cyfarfodd â'i hyfforddwr Ray Williams enillodd fedal aur dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 1986 yng Nghaeredin.[2].

Cynrychiolydd Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop ym Minsk, Belarws yn 2010 yn y categori dan 62kg gan orffen yn 13eg[3] cyn cystadlu yn fest coch Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi Newydd lle gorffennodd yn y 12fed safle[4].

Camodd i'r categori 69kg ar gyfer Pencampwriaethau'r Byd ym Mharis yn 2011 a cafodd ei ddewis yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain, Lloegr[2] lle gorffennodd yn 17eg[5].

Yn 2014 cymrodd ran yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow, Yr Alban yn y categori 62kg cyn camu yn ôl i'r categori 69g ar gyfer y tymor canlynol. Yn 2015 llwyddodd i dorri record Prydain yn y cipiad, pont a hwb a'r record cyfanswm yn ystod Pencampwriaethau Ynysoedd Prydain[6] ond er gwaethaf ei gampau, ni chafodd ei ddewis ar gyfer Gemau Olympaidd 2018 yn Rio de Janeiro, Brasil.

Llwyddodd i gipio'r fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur, Awstralia yn 2018[7] Dyma oedd y fedal aur cyntaf i Gymru yn ystod y Gemau.[8].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]