Gainor Hughes

Oddi ar Wicipedia
Gainor Hughes
Ganwyd1745 Edit this on Wikidata
Llandderfel Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd23 Mai 1745 Edit this on Wikidata
Bu farw1780 Edit this on Wikidata
Llandderfel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Roedd Gainor Hughes (1745 - 1780) yn un o'r ymprydwraig y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd diddordeb cyfoes yn Hughes yn canolbwyntio ar ei hympryd am bron i chwe blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw gwrthododd gynhaliaeth heblaw dŵr ffynnon wedi'i felysu ag ychydig bach o siwgr neu'n achlysurol gyda diferyn o gwrw. Daeth ei stori i’r flaen eto yn y 1870au, o bosibl o ganlyniad i gynnydd mewn achosion o ferched yn ymprydio, gan gynnwys achos lleol adnabyddus Sara Jacob.[1][2][3]

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Bedyddiwyd Hughes ar 23 Mai 1745 yn eglwys y plwyf, Llandderfel, Sir Feirionnydd, yn ferch i Hugh David, Bodelith, a'i wraig Catherine. Yn ystod ei hoes fer, daeth yn ddigon adnabyddus i deilyngu cofnod o'i marwolaeth yn y Chester Chronicle, ynghyd â sylw rhai o feirdd mwyaf blaenllaw traddodiad y faled yng ngogledd Cymru. Y ffynonellau hyn sy'n cynnig i ni'r wybodaeth gyfoes ynghylch ei bywyd; atynt gellir nodi traddodiadau a gadwyd ar lafar a'u gwarchod yn ysgrifenedig gan Robert Edwards (Derfel Meirion; 1813-1889), saer maen a Methodist o'i chymdogaeth, flynyddoedd lawer wedi ei marwolaeth.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd diddordeb ei chyfoeswyr yn Gainor Hughes yn seiliedig ar y ffaith iddi ymprydio am gyfnod o bron i chwe mlynedd cyn ei marwolaeth, gan wrthod lluniaeth ac eithrio dŵr o'r ffynnon wedi'i felysu â mymryn o siwgr neu yn achlysurol ag ychydig o gwrw gwan. Man cychwyn yr ympryd, yn ôl awgrym y Chester Chronicle mewn adroddiad yn 1778, oedd salwch a arweiniodd at dridiau o drymgwsg, ac at symptomau megis anallu i oddef arogl cig. Fel y gellid disgwyl, daeth ei chyflwr corfforol i adlewyrchu'r diffyg maeth hwn: cyfeiriodd y faledwraig Grace Roberts at 'i Chorph gwaeledd yn saledd i swm' ac at y 'mawr boen' a ddioddefai. Ond nid ei hymarweddiad corfforol ond ei bywyd ysbrydol a ddenai sylw ei hoes. Yr oedd y ffaith ei bod yn goroesi heb ymborth yn wyrth yng ngolwg y baledwyr a ganodd iddi, a gosodwyd hi gan Elis Roberts (Elis y Cowper) gyfuwch â chymeriadau Beiblaidd canolog a achubwyd rhag newyn a chyni drwy '[f]awr wrthie Duw'. I Elis y Cowper ac i'w gyfoeswr o Langollen, Jonathan Hughes, yr oedd Gainor yn dyst o wirionedd adnod Efengl Matthew, 4: 4, nad 'drwy fara'n unig... /... mae dyn yn byw, / Ond drwy air Duw, mo'r ryfedd yw ei râd'. Yn ei chyflwr ysbrydol dwys, byddai'n 'rhoi clod', ei 'gwaedd a'i llef mewn gweddi, /... 'N cael praw bob pryd, o 'sprydol fyd', meddai Hughes. Pwysleisiodd Elis Roberts, yntau, ei pharodrwydd i 'roi gweddi, / A chlod ir un gore o deyrnas uchel-ne /... ar hwyr ag ar fore'. Nid oes sôn diamwys am brofiadau gweledigaethol Gainor yn y testunau hyn, er bod y modd yr ieuwyd ei hanes gan Elis y Cowper â phrofiad cyfoeswr iddi, Sion Robert, yn nau begwn 'annwn' a'r nefoedd, yn awgrymu gallu o'r fath. Ymddangosodd y baledi yn gyson drwy gyfnod ympryd Gainor: aethai 'tair blynedd' heibio pan ganodd Elis y Cowper iddi yn 1777; 'pedair blynedd' a nodwyd gan Jonathan Hughes; a '[ph]um mlynedd â dau fis' erbyn i Elis y Cowper ddychwelyd at y testun i ganu ail faled yn ei chylch yn 1779, a Gainor yn tynnu at ddiwedd ei hoes. Yn y flwyddyn hon y canodd Grace Roberts 'o fettws y coed yn mlwyf Llanfawr', a oedd yn ôl pob golwg yn adnabod Gainor, ac Evan James (Ieuan ap Iago) o Lanfachreth eu cerddi i Gainor hefyd, yr olaf ar ffurf cywydd.

Y mae un awgrym pellach yn adroddiadau'r Chester Chronicle ynghylch Gainor, sef y modd y daethai'n chwedl yn ystod ei hoes, gydag ymwelwyr yn teithio rhwng deugain a hanner can milltir i'w gweld; erbyn ei marwolaeth, yr oedd pobl chwilfrydig wedi bod yn heidio i'w gweld er peth amser (This woman has been for some time past much resorted by the curious). Awgrymwyd gan Grace Roberts nad oedd perthynas Gainor â'r ymwelwyr holgar hyn yn gwbl ddidrafferth: 'Mi glywais rhyw ymeirie di'mwared gan rai', canodd, gan amddiffyn Gainor drwy nodi 'Mae'n fawr gen i feddwl y byddan nhw ar fai'.

I ganfod darlun llawnach o hanes Gainor, rhaid troi at dystiolaeth ddiweddarach, tystiolaeth 'hen wyr a hen wragedd (oddeutu 27 neu 28 o honynt) y rhai yr ysgrifennais i yr hanes o'u geneuau', meddir mewn 'Byr Gofiant' a briodolir i ŵr o'r enw Hugh Thomas. Gwarchodwyd y cofiant gan Robert Edwards (Derfel Meirion) a'i gopïo gan nai iddo, Edward Edwards, yn 1897. Fe'i cyhoeddwyd gan David Robert Daniel yn Cymru  (1910), lle beirniadwyd yr honiad bod ymhlith y tystion i'r hanes '[r]ai hen bobl' oedd yn cofio Gainor Hughes. Y mae cyfiawnhad Daniel dros yr honiad yn bur anodd ei asesu oherwydd amwysedd ei dystiolaeth ynghylch awduraeth y 'Byr Gofiant' a rhan Robert Edwards, yn neilltuol, yn ei wneuthuriad. Bid a fo am fanylion y casglu, y mae'r darlun a roddir yn cyfoethogi'n hamgyffred o Gainor yn sylweddol. Cawn gip ar ei bywyd cyn cychwyn ei 'salwch': yr oedd yn gantores dda a fynychai eglwys Llandderfel i ganu salm - er na ddeuai yno fel arall, awgrymir, 'oherwydd nid oedd y pryd hwnnw o deulu Eglwys Loegyr'; a gwelwn y gallasai fod yn ddrwg ei hiechyd ers tro, fel gwraig eiddil o gorff. Wedi iddi waelu, clywn am ei hymwneud â'i chymdogaeth o lonyddwch ei gwely: am y 'pwysiau [o flodau] fyddai y plant yn eu hel a'u pinio hwynt o'i gwmpas' gan ei phlesio 'yn anghyffredin'; am ei chydnabod Thomas ac Ellis Williams, Ty'n Llys, a âi yno'n gynnar ar fore Sul i'w chlywed yn gweddïo ac i ddarllen o'r man a ddymunai yn y Beibl; am ei chyfaill arbennig, John Ellis, Cwmorwr, plwyf Llangwm, 'yr hwn a fu mewn gweledigaeth' ac a ddeuai ati i siarad am oriau lawer; am '[b]obl Eglwys Loegr' a ddoi i Fodelith i ganu iddi'n aml, ond i garfan o eglwyswyr o Langar ei digio am iddynt fynd i yfed yn Llandderfel ar eu ffordd adref; ac am y boneddigion o Lundain, honnir, a ddeuai i'w gweld mewn cerbydau, gan ymwthio i mewn i'w siambr 'bob yn un neu ddau', mor gyfyng ydoedd. Clywn ymhellach am ei ffieiddod at fwyd a'i arogl, a sut yr oedd yn rhaid 'cau a thopio pob twll rhag yr angar wrth ferwi potes'; neu sut yr 'aeth... i lesmair' wedi i'w chwaer Gwen ddod i'r llofft, â thorth wen o dan ei ffedog, cymaint oedd effaith sawr y bara arni. Ymhelaethir ar dystiolaeth gyfoes ynghylch ei phrofiadau ysbrydol, sydd yn awr yn cael eu disgrifio'n glir fel 'gweledigaethau'. Byddai'n gweld ei chyfoedion, rhai 'mewn lle da, a'r lleill fyddai hi yn eu gweled mewn lle drwg'. Cadwyd cof am un a boenydiwyd yn y byd nesaf, ei meistr tir, gŵr o'r enw 'Cyffyn', a welodd Gainor 'â phryfed yn cerdded cig ei ddannedd'; neu Evan Davies, Cae Pant, a wobrwywyd â 'lle da iawn' am ei haelioni tuag at y tlodion. Serch hynny, ni fyddai ymgeision ei hymwelwyr am wybodaeth ynghylch ei gweledigaethau bob amser yn dwyn ateb clir, ac adroddir y byddai'n ymateb drwy ddweud 'nad oedd iddi ddim cenad i ddywedyd pa beth oedd hi yn ei weled, oherwydd fod y bobl mor anghrediniol'. Ceir adlais, yma, o linellau ym maled ddiweddaraf Elis y Cowper, lle nodwyd 'rhagluniaeth Duw'r Drindod / Sy yw dirgel gyfarfod, / A hynny sy heb wybod i bobl', llinellau sy'n egluro'r diffyg manylder ynghylch ei phrofiad yn y ffynonellau cyfoes.[2][4][5]

Marwolaeth ac etifeddiaeth[golygu | golygu cod]

Claddwyd Gainor Hughes ym mynwent Llandderfel ar 14 Mawrth 1780. Parhaodd y diddordeb yn ei hanes yn ei chymdogaeth leol, fel yr awgrymwyd gan y dystiolaeth uchod a gylchredai ar lawr gwlad. Bu ei stori'n ddigon nodedig i dynnu sylw'r arlunydd Edward Pugh (c.1761-1813), a'i crybwyllodd yn ei waith ôl-argraffedig, Cambria Depicta: A Tour through North Wales (1816); a byrlymodd ton newydd o chwilfrydedd yn ei chylch o'r 1870au ymlaen, o bosibl o dan ddylanwad hanes Sarah Jacob (1857-1869), y ferch ifanc o Sir Gaerfyrddin y bu ei marwolaeth yn destun trafodaeth yn y wasg Gymreig ar droad yr 1860au. Un cwestiwn nas atebwyd yn foddhaol gan awduron megis John Peter ('Ioan Pedr') a David Robert Daniel, oedd pwy oedd piau'r ddau englyn a ysgyrthrwyd ar garreg fedd Gainor Hughes. Barnodd Peter mai gwaith Jonathan Hughes oeddynt ac, wedi peth pendroni, daeth Daniel i'r casgliad ei fod yn gytûn, er na chredai i enw'r bardd erioed gael ei nodi ar y garreg. Mae tystiolaeth lawysgrifol yn awgrymu mai John Rees (Rice) o Lanrhaeadr-ym-Mochnant oedd y bardd, fodd bynnag. Roedd cyflwr y garreg eisoes yn ddifrifol pan fu Daniel yn ymchwilio i hanes Gainor a nododd ef ei bod wedi ei symud o'i safle gwreiddiol. Yn 2010 gosodwyd carreg newydd ym mynwent Llandderfel gan gymdeithas dreftadaeth leol yn nodi'i chladdedigaeth, er nas lleolwyd yn union safle'i chladdu.[2][6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hollis, Karen (2001). "Fasting Women: Bodily Claims and Narrative Crises in Eighteenth-Century Science". Eighteenth-Century Studies 34 (4): 523–538. ISSN 0013-2586. https://www.jstor.org/stable/30054228.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "HUGHES, GAINOR (1745 - 1780), ymprydwraig | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-02-05.
  3. "BWTHYN FY NHAID OLIVER: SEP I YMDDIDDANION, SYLWADAU, A HANESION NEWYDD A HEN.|1877-11-24|Y Goleuad - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2024-02-05.
  4. "Cymru | Vol. 38 | 1910 | Cylchgronau Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2024-02-05.
  5. Roberts, Askew (1826-1884) (1894). Gossiping guide to Wales : (North Wales and Aberystwyth). Harvard University. London : Simpkin, Marshall, Hamilton, Kent & Co.
  6. "Llandderfel St Derfel". National Churches Trust (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-05.