FODMAP

Oddi ar Wicipedia

Defnyddir yr acronym FODMAP (Saesneg: Fermentable, Oligo-saccharides, Di-saccharides, Mono-saccharides And Polyols) i gyfeirio at garbohydradau a monosacaridau cadwyn fer nad ydynt yn cael eu hamsugno'n dda yn y coluddyn bach, gan gynnwys ffrwctanau, galactanau, ffrwctos a pholyolau.

Darganfuwyd bod cyfyngu FODMAP yn y diet yn helpu dioddefwyr syndrom coluddyn llidus ac anhwylderau eraill sy'n effeithio ar weithrediad y coluddyn. Datblygwyd y diet isel mewn FODMAP ym Mhrifysgol Monash ym Melbourne.[1]

Amsugno FODMAP[golygu | golygu cod]

Mae pawb yn ei chael yn anodd amsugno carbohydradau FODMAP. Mae unrhyw FODMAP heb eu hamsugno yn y coluddyn bach yn mynd ymlaen i'r coluddyn mawr, lle y bydd bacteria'n eu heplesu. Gall y nwy a gynhyrchir yma chyddo'r bol a chynhychu gwynt. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn dioddef gan symptomau mawr ond mewn rhai, ceir symptomau syndrom coluddyn llidus. Dangoswyd bod cyfyngu FODMAP yn niet y sawl sy'n dioddef yn gwella'u symptomau.[2]

Ffynonellau FODMAP mewn bwyd[golygu | golygu cod]

Mae arwyddocâd ffynonellau FODMAP yn amrywio gan ddibynnu ar ddaearyddiath, ethnigrwydd a ffactorau eraill.[3]

Ffynonellau ffrwctanau[golygu | golygu cod]

Mae ffrwctanau mewn gwenith, rhyg, nionod, garlleg, artisiogau Jerwsalem ac artisiogau glob, asbaragws, siocled a chynhwysion cynfiotig fel ffrwctooligosacarid, oligoffrwctos ac inwlin.[2][3]

Ffynonellau galactanau[golygu | golygu cod]

Ffacbys a ffa yw'r ffynonellau mwyaf.[2]

Ffynonellau polyolau[golygu | golygu cod]

Ceir polyolau'n naturiol mewn rhai ffrwythau (yn enwedig ffrwythau â charreg), gan gynnwys afalau, bricyll, ceirios, eirin, eirin gwlanog, litshis, melonau dŵr, neithdarennau a rhai llysiau, gan gynnwys afocados, blodfresych, madarch a phys mange-tout. Fe'u defnyddir nhw hefyd fel melyswyr artiffisial, er enghraifft, isomalt, maltitol, manitol, sorbitol a syltiol.[2][3]

Ffynonellau ffrwctos[golygu | golygu cod]

Dylid osgoi ffrwctos mewn nifer o ffrwythau fel afalau, gellyg, mangos a melonau dŵr, yn ogystal â ffrwythau sych, er enghraifft datys, ffigys a resins. Mae melyswyr fel neithdar agafe, mêl, surop corn uchel mewn ffrwctos a sudd ffrwythau.

Ffynonellau lactos[golygu | golygu cod]

Mae'r rhan fwyaf o gynnyrch llaeth yn anaddas yn y diet oherwydd ei fod yn cynnwys lactos, er bod eithriadau fel caws caled.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "FODMAPs". King's College London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-06. Cyrchwyd 18 March 2012.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Reducing fermentable carbohydrates the low FODMAP way. London: Guy's and St Thomas' NHS Foundation Trust. 2011. tt. 2–5.
  3. 3.0 3.1 3.2 Gibson, PR; Peter R Gibson and Susan J Shepherd (2010). "Evidence-based dietary management of functional gastrointestinal symptoms: The FODMAP approach". Journal of Gastroenterology and Hepatology 25 (2): 252–258. doi:10.1111/j.1440-1746.2009.06149.x. PMID 20136989. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/j.1440-1746.2009.06149.x/pdf.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]