Melon dŵr

Oddi ar Wicipedia
Melon dŵr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Cucurbitales
Teulu: Cucurbitaceae
Genws: Citrullus
Rhywogaeth: C. lanatus
Enw deuenwol
Citrullus lanatus

Planhigyn ymgripiol a dringol o deulu'r cicaionau neu'r gowrdiau (Cucurbitaceae) yw'r melon dŵr,[1] dyfrfelon[1] neu sitrul[2] (Citrullus lanatus). Tarddai'r rhywogaeth yn neheudir Affrica, gyda thystiolaeth o'i thyfiant yn yr Hen Aifft. Tyfir mewn ardaloedd trofannol ac isdrofannol ar draws y byd ar gyfer ei ffrwyth mawr bwytadwy sydd yn fath arbennig o aeron a chanddo groen caled a dim adrannau fewnol, a elwir yn fotanegyddol yn pepo. Mae'r cnawd melys, suddog fel arfer yn lliw coch tywyll i binc, gyda nifer of hadau du, er mae nifer o amrywiaethau di-hedyn wedi'u tyfu. Mae'r ffrwyth yn gallu cael ei fwyta'n amrwd neu ei biclo ac mae'r croen yn fwytatwy wedi coginio. 

Mae llawer o ymdrechion bridio wedi cael ei rhoi i mewn i amrywiaethau sy'n gwrthsefyll afiechydon. Mae nifer o dyfiant ar gael sy'n cynhyrchu ffrwyth aeddfed o fewn 100 diwrnod o blannu'r cnwd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [melon: water-melon].
  2.  sitrul. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Medi 2017.