Evan Rowland Jones

Oddi ar Wicipedia
Evan Rowland Jones
Ganwyd1840 Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ionawr 1920 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Roedd yr Uwchgapten Evan Rowland Jones neu'r Major Bach (30 Medi, 184016 Ionawr, 1920) yn filwr, yn Gonswl Americanaidd ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caerfyrddin.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganed Evan Jones ym 1840 yn Fferm Penlan, Caron Is Clawdd, Tregaron yn fab i William Jones, amaethwr a Mary (née Rowlands) ei wraig. Honnodd Jones fod teulu ei dad yn perthyn i deulu dylanwadol Johnes Yr Hafod a bod ei fam o'r un tylwyth a'r pregethwr Daniel Rowland. Bu farw tad Evan ym 1847.[2]

Cafodd ei addysgu mewn ysgolion lleol yn Llangeitho a Thregaron gyda'r bwriad o fynd ati i ddilyn addysg glasurol. Ym 1851 ailbriododd ei fam a phenderfynodd Evan adael y cartref gan fudo i'r UDA gyda theulu cyfaill ysgol iddo.[3]

Priododd Kate Alice ym 1867; roedd hi'n ferch i William Evans, Llanwnda ac ni chawsant blant.

Gyrfa Milwrol[golygu | golygu cod]

Cyrhaeddodd Jones yr UDA yn haf 1856, ac ar ôl gweithio fel labrwr amaethyddol yng nghyffiniau Waukesha, Wisconsin, yn hydref 1856 aeth i weithio fel clerc mewn siop ym Milwaukee. Taflodd ei hun i fywyd gwleidyddol Milwaukee. Roedd yn ffyrnig yn erbyn caethwasiaeth ac yn gefnogwr brwd i Abraham Lincoln a'r Blaid Weriniaethol. Ym 1860 bu'n flaenllaw wrth ffurfio cymdeithas wrth-gaethwasiaeth ymhlith Cymry Milwaukee, gan wasanaethu fel ei hysgrifennydd mygedol.

Ar ddechrau Rhyfel Cartref America ymunodd Jones â byddin yr Undeb, er ei fod ychydig fisoedd o dan oed enlistio. Wedi cyfnod o hyfforddiant paratoadol yn Camp Randall, Madison, Winsconsin dechreuodd wasanaethu fel preifat yn y 5th Wisconsin volunteer infantry regiment gan wasanaethu yn bennaf yn nhalaith Virginia.

Yn ystod ei gyfnod yn y fyddin ffederal bu Jones yn brwydro mewn rhai o ymgyrchoedd mwyaf adnabyddus y gwrthdaro, gan gynnwys brwydrau Williamsburg, White Oak Swamp, Malvern Hill, Antietam Creek, a Gettysburg, ac roedd yn dyst i safiad olaf Robert E. Lee a'i ildio i Ulysses S. Grant yn Appomattox, Virginia, ym mis Ebrill 1865. Roedd ei gatrawd hefyd yn Efrog Newydd am gyfnod ym 1863 er mwyn helpu i reoli'r ddinas yn dilyn terfysgoedd y drafft yno. Cafodd ei ddyrchafu'n is-gapten ac yna'n gapten ar ôl iddo ddangos gwroldeb arbennig mewn brwydr ar ddiwedd y gwarchae ar Petersburg ym mis Ebrill 1865.

Pan adawodd y fyddin ar ddiwedd y rhyfel cafodd ei ddyrchafu'n Uwchgapten er anrhydedd fel arwydd o ddiolch am ei ddewrder a'i wasanaeth.

Ysgrifennodd gofnod o'i brofiadau yn ei lyfr Four Years in the Army of the Potomac: a Soldier's Recollections (1881).

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Ar ôl y rhyfel cafodd Jones gynnig swydd yn adran y wladwriaeth yn Madison, a gynigwyd iddo gan ei gyn-swyddog milwrol, yr Uwchgapten Thomas Scott (Sam) Allen, a oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Wisconsin rhwng 1866 a 1870.

Ym 1869 penodwyd Jones yn Gonswl yr UDA yn Newcastle upon Tyne gan yr Arlywydd Ulysses S. Grant. Roedd yn llwyddiannus iawn yn ei waith consylaidd; yn ystod ei gyfnod yno cynyddodd masnach y rhanbarth gyda'r UDA yn sylweddol.

Ym 1883 symudodd o Newcastle i Gaerdydd gan wasanaethu fel Conswl yr UDA yng Nghymru. Gan fod Caerdydd yn un o borthladdoedd ac yn un o lefydd gwneud busnes pwysicaf yn y byd ar y pryd cyfrifwyd ei benodiad yn ddyrchafiad mawr.

Tra oedd yng Nghaerdydd cymerodd Jones ddiddordeb egnïol ym mywyd cyhoeddus y ddinas a Chymru'n gyffredinol. Gwasanaethodd fel aelod o Gyngor Coleg Brifysgol De Cymru a Mynwy a oedd newydd ei sefydlu ac fe fu'n aelod brwd o'r Gymdeithas yr Iaith wreiddiol a ffurfiwyd ym 1885 i hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion.[4] O 1887-1894 ef oedd llywydd Cymdeithas Cymrodorion Caerdydd a bu hefyd yn llywydd De Cymru o Sefydliad y Newyddiadurwyr.

Wedi bod yn gonswl Americanaidd am gyfnod o ddwy flynedd ar hugain (record i ddeiliad y swydd ar y pryd), o dan chwe gweinyddiaeth wahanol, ymadawodd â'r swydd ym 1892. Mae'n aneglur os cafodd ei ddiswyddo am resymau gwleidyddol neu os penderfynodd ymddiswyddo.[5]

Ar ôl mudo i'r America cymerodd Jones ddinasyddiaeth Americanaidd ond wedi ymadael â'r llysgenhadaeth penderfynodd beidio â dychwelyd i fyw yno gan ildio ei ddinasyddiaeth Americanaidd ac ailafael yn ei ddinasyddiaeth 'Brydeinig'. Fel dinesydd Prydeinig roedd yn cael sefyll etholiad i Dŷ Cyffredin Senedd y Deyrnas Unedig. Cafodd sawl cynnig gan gymdeithasau Rhyddfrydol yn Lloegr ond roedd yn benderfynol o sefyll mewn etholaeth Gymreig a Chymraeg. Safodd fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistrefi Caerfyrddin yn etholiad cyffredinol 1892 gan gael ei ethol. Safodd eto ym 1895; yn yr 1890au roedd tollau a gyflwynwyd gan yr UDA ar fewnforio metelau yn cael effaith andwyol ar waith tun Sir Gaerfyrddin. Er iddo ef yn bersonol fod o blaid masnach rydd ac yn erbyn tollau, roedd cysylltiadau amlwg Jones â'r UDA yn andwyol i'w ymgyrch a chollodd yr etholiad o drwch blewyn i'r ymgeisydd Ceidwadol.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref, 43 The Pryors, Hampstead, Llundain, ar 16 Ionawr, 1920.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Ym 1883 sefydlodd Jones y cylchgrawn Shipping World, a hyd ei farwolaeth bu'n berchennog ac yn olygydd y cylchgrawn hwnnw a'i flwyddiaduron.

Cyhoeddodd hefyd y llyfrau:

  • Practical questions for producer and consumer in England and America 1880
  • Emigrants' friend 1880
  • Four years in the army of Potomac 1881
  • Heroes of industry Samson Low, 1886
  • Life and speeches of Joseph Cowen and Samson Low, 1885
  • Lincoln, Stanton and Grant Savill, 1875
  • Una Montgomery (nofel), 1889[6]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • E. Wyn James, ‘Evan Rowland Jones, “Y Major bach”: Tregaron – Wisconsin – Caerdydd’, Y Dinesydd, rhifynnau 451 (Medi 2020) a 452 (Hydref 2020).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. E. Wyn James, ‘Jones, Evan Rowland (1840–1920)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, May 2011 [1], addalwyd 6 Chwefror 2015 Trwy docyn darllen LLGC.
  2. ‘JONES, Major Evan Rowland’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2015; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 [2] adalwyd 5 Chwef 2015 trwy docyn darllen LLGC
  3. Erthygl: 'Ceir son amdanynt'; Isfilwriad Evan Rowland Jones; Papur Pawb, 15 Ebrill 1893 [3] addalwyd 6 Chwefror 2015
  4. Weekly Mail 9 Hydref 1886 [4] adalwyd 5 Chwefror 2015
  5. The United States Consulate in Cardiff Evening Express 21 Ebrill 1891 [5] adalwyd 5 Chwefror 2015
  6. Awduron Ceredigion Jones, Evan Rowland (1840-1920) Cyngor Sir Ceredigion [6] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 6 Chwefror 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Arthur Cowell-Stepney
Aelod Seneddol Bwrdeistref Caerfyrddin
18921895
Olynydd:
John Jones Jenkins