Eryr euraid

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eryr Euraid)
Eryr Euraid
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
Teulu: Accipitridae
Genws: Aquila
Rhywogaeth: A. chrysaetos
Enw deuenwol
Aquila chrysaetos
(Linnaeus, 1758)
Aquila chrysaetos

Mae'r Eryr Euraid ymhlith y mwyaf adnabyddus o'r adar rheibus. Fel yr eryrod i gyd, mae'n perthyn i'r teulu Accipitridae. Ar un adeg, roedd i'w gael; dros y cyfan o Ogledd America, Ewrop ac Asia, ond mae wedi diflannu o'r rhannau mwyaf poblog. Mae'n un o ddeuddeg rhywogaeth yn y genws Aquila.

Is-rywogaethau[golygu | golygu cod]

Ceir chwech is-rywogaeth:

Amrwyia'r maint mewn gwahanol rannau o'r byd, gyda hyd o 66 hys 100 cm (26-40 modfedd), a rhwng 150 a 240 cm (59-95 modfedd) ar draws yr adenydd, gyda'r pwysau'n amrywio o 2.5 hyd 7 kg (5.5-15.4 pwys).

Ym Mhrydain, mae tua 420 pâr yn Ucheldiroedd yr Alban, ac mae pâr wedi nythu yn Ardal y Llynnoedd yn Lloegr ambell flwyddyn yn ddiweddar. Credir iddynt nythu yn Eryri yn y gorffennol, ond nid oes sicrwydd hollol o hyn. Ar hyn o bryd mae ymgais i ddychwelyd y rhywogaeth i Iwerddon, lle nad oes rhai wedi bod ers 1912.