Erving Goffman

Oddi ar Wicipedia
Erving Goffman
Ganwyd11 Mehefin 1922 Edit this on Wikidata
Mannville Edit this on Wikidata
Bu farw19 Tachwedd 1982 Edit this on Wikidata
Philadelphia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcymdeithasegydd, awdur ffeithiol, anthropolegydd Edit this on Wikidata
SwyddPresident of the American Sociological Association Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Presentation of Self in Everyday Life Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadRay Birdwhistell Edit this on Wikidata
PriodGillian Sankoff Edit this on Wikidata
PlantAlice Goffman Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata

Roedd Erving Goffman (11 Mehefin 192219 Tachwedd 1982) yn gymdeithasegydd, seicolegydd cymdeithasol, ac ysgrifennwr Canadaidd-Americanaidd, a ystyrir gan rhai fel "y cymdeithasegydd Americanaidd mwyaf dylanwadol yn yr 20g".[1] Yn 2007 fe'i rhestrwyd gan The Times Higher Education Guide fel yr awdur a gyfeirwyd fwyaf ond pump yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol, y tu ôl i Anthony Giddens, Pierre BourdieuMichel Foucault, ac o flaen Jürgen Habermas.[2]

Goffman oedd y 73ain arlywydd o'r American Sociological Association. Ei gyfraniad mwyaf adnabyddus i ddamcaniaeth cymdeithasol yw ei astudiaeth o ryngweithedd symbolaidd. Gwnaed hyn drwy ddadansoddiad dramatwrgiaeth, gan gychwyn gyda'i lyfr yn 1956, The Presentation of Self in Everyday Life. Mae prif waith arall Goffman yn cynnwys Asylums (1961), Stigma (1963), Interaction Ritual (1967), Frame Analysis (1974), a Forms of Talk (1981). Mae ei brif feysydd astudio yn cynnwys cymdeithaseg bywyd bod dydd, yr adeiladwaith cymdeithasol o'r hunan, trefniant cymdeithasol (neu 'fframio') profiad, ac yn enwedig elfennau penodol o fywyd cymdeithasol fel total institutions a stigmâu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Fine and Manning (2003), tud. 34.
  2. The most cited authors of books in the humanities; Times Higher Education; 26 Mawrth 2009; adalwyd 16 Tachwedd 2009.