Neidio i'r cynnwys

Ernst Julius Öpik

Oddi ar Wicipedia
Ernst Julius Öpik
GanwydErnst Julius Öpik Edit this on Wikidata
22 Hydref 1893 Edit this on Wikidata
Kunda Edit this on Wikidata
Bu farw10 Medi 1985 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Estonia, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Cyfadran Ffiseg a Mathemateg Prifysgol Ymerodrol Moscfa
  • Ysgol Ramadeg Gustav Adolf Edit this on Wikidata
Galwedigaethseryddwr, astroffisegydd, cyfansoddwr, gwyddonydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Armagh Observatory
  • Arsyllfa Coleg Havard
  • Baltic University
  • Prifysgol Genedlaethol Uzbekistan
  • Prifysgol Maryland, College Park
  • Prifysgol Tartu
  • Prifysgol Tartu Edit this on Wikidata
PlantUuno Öpik, Helgi Öpik Edit this on Wikidata
PerthnasauLembit Öpik Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, Medal Bruce, J. Lawrence Smith Medal, Leonard Medal Edit this on Wikidata

Roedd Ernst Julius Öpik (22 Hydref 1893 – 10 Medi 1985) yn seryddwr ac astroffisegydd o fri o Estonia, a dreuliodd y rhan olaf o'i yrfa (1948–1981) yn Arsyllfa Armagh, Gogledd Iwerddon. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith arloesol ar ddeinameg Cysawd yr Haul, yn enwedig cwmwl Oort ac effaith Yarkovsky.

Roedd yn daid i'r gwleidydd Cymreig Lembit Opik. Roedd ei ferch, Helgi Öpik, yn academydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Moscfa ac enillodd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Tartu, yn Estonia.

Mae'n enwog am ei waith ar gomedau. Yn 1932 daeth allan â'r ddamcaniaeth fod comedau yng Nghysawd yr Haul yn ymffurfio mewn cwmwl o lwch a mater arall y tu hwnt i gylchdro'r blaned gorrach Plwton. Enwir y cwmwl hwnnw yn Gwmwl Oort (neu Cwmwl Öpik-Oort) er ei anrhydedd.

Dyddiad geni

[golygu | golygu cod]

Mae ambell ffynonnell yn nodi'r 23ydd o Hydref fel ei ddyddiad geni e.e. Britannica a'r Dictionary of Irish Biography, ond cam-gyfrifo o'r Calendr yw hyn yn ôl pob tebyg. Roedd rhannau o Ymerodraeth Rwsia ar y pryd yn defnyddio'r Calendr Iŵl, a oedd 12 diwrnod ar ôl y Calendr Gregori. Dyddiad geni Öpik oedd 10 Hydref 1893 (Calendr Iŵl), sy'n trosi i 22 Hydref 1893 (Calendr Gregori).[1][2][3]

Gwobrau

[golygu | golygu cod]

Enillodd Fedal J. Lawrence Smith gan Academi Genedlaethol y Gwyddorau ym 1960, Medal Goffa Frederick C. Leonard gan y Gymdeithas Feteorolegol ym 1968, Medal Aur Kepler gan y Gymdeithas Americanaidd er Hyrwyddo Gwyddoniaeth a'r Gymdeithas Feteorolegol ym 1972, Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol ym 1975 a Medal Bruce ym 1976.

Papurau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Armagh Observatory and Planetarium, lle gweithiai Öpik dros gyfnod o sawl degawd. Mae eu bywgraffiad swyddogol yn rhestru ei enedigaeth fel 22 Hydref 1893.
  2. ↑ Cymdeithas Seryddol Frenhinol (RAS) wrth ddyfarnu'r Fedal Aur i Öpik ym 1975, mae cyhoeddiadau RAS yn dyfynnu 22 Hydref 1893 fel ei ddyddiad geni. Gweler: Hysbysiadau Misol y RAS, Cyfrol 176, 1976.
  3. ↑ adsabs.harvard.edu; Cyhoeddodd yr Irish Astronomical Journal nifer o bapurau gan Öpik a nodiadau bywgraffyddol yn cadarnhau 22 Hydref 1893. Enghraifft: IAJ, Cyfrol 18, 1987.