Neidio i'r cynnwys

Emma Goldman

Oddi ar Wicipedia
Emma Goldman
Ganwyd27 Mehefin 1869 Edit this on Wikidata
Cawnas Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mai 1940 Edit this on Wikidata
Toronto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig, Lithwania, Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethanarchydd, newyddiadurwr, athronydd gwleidyddol, ymgyrchydd dros hawliau merched, darlithydd, cyhoeddwr, ymgyrchydd heddwch, hunangofiannydd, nyrs, ysgrifennwr, athronydd, gwleidydd, awdur, heddychwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLiving My Life, Anarchism and Other Essays, The Social Significance of the Modern Drama, My Disillusionment in Russia, My Further Disillusionment in Russia Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadRalph Waldo Emerson, Friedrich Nietzsche, Johann Most, Henry David Thoreau, Pyotr Kropotkin, Mikhail Bakunin, Mary Wollstonecraft, Nikolay Chernyshevsky, Oscar Wilde, Max Stirner Edit this on Wikidata
PriodJacob Kershner Edit this on Wikidata
PartnerAlexander Berkman Edit this on Wikidata
PerthnasauStella Cominsky Ballantine Edit this on Wikidata
llofnod

Anarchydd ac ymgyrchydd gwleidyddol oedd Emma Goldman (27 Mehefin 186914 Mai 1940).

Ganed hi yn Cawnas, Lithwania, a oedd yr adeg honno yn rhan o Ymerodraeth Rwsia, i deulu Iddewig. Aeth i'r ysgol yn Königsberg, ond gwrthododd ei thad adael iddi gael addysg bellach. Symudodd gyda'i chwaer, Helena i Rochester, Efrog Newydd, pan oedd yn un-ar-bymtheg oed. Daeth yn anarchydd, a theithiodd o amgylch yn darlithio, gan dynnu tyrfaoedd o filoedd. Carcharwyd hi nifer o weithiau dros y blynyddoedd. Yn 1917 carcharwyd hi a'i phartner i ddwy flynedd am wrthwynebu gorfodaeth filwrol ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf, ac wedi eu rhyddhau, alltudiwyd hwy i Rwsia.

Yn Rwsia, cefnogodd y Chwyldro Rwsaidd i ddechrau, ond yn ddiweddarach daeth i'w wrthwynebu. Bu'n byw yn Lloegr, Canada a Ffrainc, a theithiodd i Sbaen gan gymeryd rhan yn y Rhyfel Cartref.

Mi areithiodd am bythefnos yn ardal maes glo De Cymru yn 1925 gan siarad i gynulleidfaoedd o Abertawe hyd at y Rondda.[1] Yn yr un flwyddyn, priododd glöwr ac anarchydd o Sir Gaerfyrddin o'r enw James Colton er mwyn sicrhau ei theitheb Brydeinig. Roedd y newyddion ar dudalen flaen The New York Times. Er iddynt barhau â'u bywydau ar wahân anfonwyd llythyron cyson rhyngddynt, a dychwelodd Goldman sawl tro i Gymru i areithio a darlithio.[2]

Bu farw yn Toronto ar 14 Mai 1940.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Radical Wales, Emma Goldman in Wales; adalwyd 15 Mai 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-15. Cyrchwyd 2012-05-14.
  2. libcom.org, Emma Goldman – The Queen of Anarchy: The Carmarthenshire Connection; adalwyd 15 Mai 2012

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]