Eglwys Sant Cwyfan, Sir Ddinbych

Oddi ar Wicipedia
Eglwys Sant Cwyfan
Llangwyfan, Sir Ddinbych
Eglwys Sant Cwyfan
LleoliadGer Llandyrnog, Dinbych, Sir Ddinbych
GwladCymru
CristnogaethYr Eglwys yng Nghymru
GwefanYr Eglwys yng Nghymru
Hanes
Cysegrwyd iSant Cwyfan
Pensaerniaeth
Statws gweithredolAr ddefnydd
Dynodiad (etifeddiaeth)Gradd II*
Dynodiad19 Gorffennaf 1966
PensaerniaethEglwys (adeilad)
Torri tywarchen12g
Manylion
Cynulleidfac. 100
Hyd allanol15m
Lled allanol4m
DefnyddTywodfaen gyda tho a llawr llechen
Erthygl ar eglwys yn Sir Ddinbych yw hon. Am erthygl ar Eglwys Sant Cwyfan, Ynys Cribinau, Ynys Môn gweler yma. Ceir hefyd eglwys Sant Cwyfan yn Nhudweiliog, Gwynedd.

Eglwys sydd a'i hadeilad yn dyddio i'r 15C yw Eglwys Sant Cwyfan, Llangwyfan, ger Llandyrnog, Sir Ddinbych. Fe'i codwyd o dywodfaen lleol, coch ond gwyngalchwyd drosto.

Un o ddilynwyr Sant Beuno oedd Sant Cwyfan a roddodd ei enw i'r eglwys leol. Mae'r eglwys tua 1.5 km i'r gogledd-ddwyrain o Eglwys Sant Tyrnog, Llandyrnog a sonir amdani'n wreiddiol yn 1254 fel "Langeifin", ond dylid cofio nad oedd cofnodwr trethi y Norwich Taxation yn deall Cymraeg, heb sôn am ei sillafu. Ceir hefyd eglwys o'r un enw ar Ynys Cribinau ym Môn ac un arall yn Nhudweiliog, Gwynedd. Canfyddwyd olion yr eglwys cynharaf, canoloesol ger wal yn y gogledd, ond perthyn i'r 15C mae'r adeilad presennol.[1]

Cofnodwyd pob rheithor a fu yma ers 15C. Ceir y dyddiad 1684 ar y tu allan i un o'r ffenestri ac 1714 ar y porth. Ychydig iawn o adnewyddu a moderneiddio a gafwyd yn ystod y ddau gan mlynedd diwethaf.

Ystyrir mai hon yw'r eglwys leiaf yn Nyffryn Clwyd.

Ceir nenfwd crwm a chorau (neu seddi ag ochrau iddynt) twt sydd wedi eu peintio’n wyrdd, ers dyddiau Cadwalader Edwards a Thomas ap Hugh, wardeniaid yr eglwys, a roesant eu henwau uwchben eu porth newydd ym 1714.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 26 Medi 2016.