Edward Albee
| Edward Albee | |
|---|---|
| Ganwyd | Edward Franklin Albee 12 Mawrth 1928 Washington |
| Bu farw | 16 Medi 2016 o diabetes Montauk |
| Man preswyl | Washington |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | dramodydd, ysgrifennwr, sgriptiwr, academydd, cyfarwyddwr theatr |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Who's Afraid of Virginia Woolf?, The Goat, or Who Is Sylvia? |
| Prif ddylanwad | August Strindberg, Samuel Beckett |
| Partner | Terrence McNally |
| Perthnasau | Reed A. Albee |
| Gwobr/au | Y Medal Celf Cenedlaethol, Nestroy Theatre Prize, Gwobr America am Lenyddiaeth, Gwobr Tony am y Ddrama Orau, Gwobr Grammy am yr Albwm Llafar Gorau, Gwobr Pulitzer am Ddrama, Gwobr Pulitzer am Ddrama, Gwobr Pulitzer am Ddrama, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Anrhydedd y Kennedy Center, Drama Desk Award for Outstanding Play, Gwobr Tony am y Ddrama Orau, Drama Desk Special Award, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami, Hull-Warriner Award, PEN/Laura Pels International Foundation for Theater Award, Evelyn F. Burkey Award, star on Playwrights' Sidewalk |
Dramodydd o'r Unol Daleithiau oedd Edward Franklin Albee III (12 Mawrth 1928 – 16 Medi 2016), yn fwyaf adnabyddus am ddramâu megis The Zoo Story (1958), The Sandbox (1959), Who's afraid of Virginia Woolf? (1962) ac A Delicate Balance (1966). Enillodd tri o'i ddramau'r Wobr Pulitzer ar gyfer Drama, ac enillodd dau o'i ddramau eraill y Wobr Tony am y ddrama orau.
Mae ei ddramâu yn aml yn cael eu hystyried fel ymchwiliadau didwyll i'r cyflwr modern. Ei weithiau cynnar yn adlewyrchu meistrolaeth ac Americaneiddio y Theatr yr Absẃrd a daeth i'w hanterth yng ngwaith dramodwyr Ewropeaidd megis Arthur Adamov Samuel Beckett, Eugène Ionesco, a Jean Genet.
Mae ei gyfnod canol yn cynnwys dramâu sy'n edrych ar seicoleg o aeddfedu, priodas, a pherthnasu rhywiol. Bu nifer o ddramodwyr Americanaidd iau, megis Paula Vogel, yn credydu cymysgedd Albee o waith theatrig dewr a deialog brathog am helpu i ail greu'r theatr Americanaidd yn y 1960au cynnar. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, bu Albee yn parhau i arbrofi dulliau theatrig mewn cynyrchiadau megis The Goat, or Who Is Sylvia? (2002).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]
Cafodd Edward Albee ei eni ym 1928 a chafodd ei fabwysiadu pythefnos wedyn a'i ddwyn i Larchmont, Efrog Newydd, lle cafodd ei fagu. Roedd tad mabwysiadol Albee Reed A. Albee, yn fab cyfoethog Edward Franklin Albee II, perchennog nifer o theatrau Fodfil. Roedd ei fam fabwysiadol, a thrydedd wraig Reed, Frances (Cotter), yn cymdeithaswraig.[1][2] Byddai ef yn ddiweddarach yn sylfaenu prif gymeriad ei ddrama 1991 chwarae Three Tall Women ar ei lysfam, gyda'r hon bu ganddo berthynas cymysglyd.[3]
Mynychodd Albee Ysgol Uwchradd Lawrenceville yn New Jersey, o ba le cafodd ei ddiarddel. Wedyn cafodd ei anfon i Academi Filwrol Valley Forge yn Wayne, Pennsylvania, gan gael ei ddiarddel eto mewn llai na blwyddyn.[4] Wedyn cafodd ei danfon i Ysgol Choate yn Wallingford, Connecticut,[5] gan raddio ym 1946. Cafodd ei addysg ffurfiol ei barhau yn Trinity Collage, Hartford, Connecticut, gan gael ei ddiarddel ym 1947 am fethu dosbarthiadau a gwrthod mynychu gwasanaethau capel gorfodol.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Symudodd Albee i Greenwich Village, Efrog Newydd lle fu'n ennill ei damaid trwy wneud man swyddi wrth ddysgu sut i ysgrifennu dramâu.[6] Ei ddrama gyntaf, The Zoo Story, ei hysgrifennu mewn tair wythnos [7] a'i llwyfannu am y tro cyntaf y Merlin ym 1959 cyn cael ei berfformio mewn theatrau ger Broadway ym 1960.[8] Cafodd ei ail ddrama The Death of Bessie Smith, hefyd ei berfformio am y tro cyntaf ym Merlin cyn cyrraedd Efrog Newydd.[9]
Cafodd drama fwyaf eiconig Albee, Who's afraid of Virginia Woolf?, ei berfformio ar Broadway yn y Theatr Billy Rose rhwng 13 Hydref, 1962, a 16 Mai, 1964, wedi 664 o berfformiadau.[10] Cafodd y perfformiad dadleuol ei enwebu ar gyfer y Wobr Tony am y Ddrama Orau ym 1963 a chafodd ei ddewis ar gyfer Gwobr Pulitzer 1963 gan reithgor y wobr drama. Penderfynodd y pwyllgor ymgynghorol i fynd yn groes i'r rheithgor gan ddewis peidio â rhoi gwobr ddrama o gwbl.[11] Bu dau aelod o'r rheithgor, John Mason Brown a John Gassner, ymddiswyddo mewn protest.[12] Ym 1966, enillodd addasiad ffilm o'r ddrama Oscar, gydag Elizabeth Taylor, Richard Burton, George Segal, a Sandy Dennis ymhlith yr actorion. Yn 2013, cafodd y ffilm ei dewis ar gyfer cadwraeth yng Nghofrestrfa Genedlaethol Ffilm y Llyfrgell y Gyngres fel cynhyrchiad sydd "yn sylweddol yn ddiwylliannol, hanesyddol neu esthetig ".[13]
Yn ôl y New York Times, roedd Albee "yn cael ei ystyried o fod yn ddramodydd mwyaf blaenllaw Americanaidd ei genhedlaeth."[14]
Cyflawniadau ac anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Cafodd Albee ei benodi yn aelod o Gyngor Urdd y Dramodwyr. Enillodd tair Gwobr Pulitzer am ddrama - am A Delicate Balance (1967), Seascape (1975), a Three Tall Women (1994).
Cafodd Albee ei ethol yn Gymrawd yr Academi Americanaidd y Celfyddydau a'r Gwyddorau ym 1972.[15] Yn 1985, cafodd Albee ei urddo i Neuadd Enwogion y Theatr Americanaidd .[16] Ym 1999, derbyniodd Albee Gwobr Ryngwladol Sefydliad PEN/Laura Pels ar gyfer y Theatr fel Meistr Dramodydd Americanaidd.[17] Cafodd Wobr Tony Arbennig am Gyflawniad Oes yn 2005; y Fedal Aur mewn Drama gan Academi Americanaidd a Sefydliad y Celfyddydau a Llythyrau (1980); yn ogystal ag Anrhydedd y Kennedy Center a Medal Genedlaethol y Celfyddydau ym 1996.[18] Yn 2009, derbyniodd Albee derbyn gradd er anrhydedd gan Academi Genedlaethol Theatr a Ffilm Celfyddydau Bwlgaria (NATFA).
Bywyd personol a marwolaeth
[golygu | golygu cod]Roedd Albee yn hoyw,[19] ond yn mynnu nad oedd am i fod yn ei adnabod fel "awdur hoyw", ond fel awdur sy'n digwydd bod yn hoyw."[20]
Bu farw Albee yn ei gartref yn Montauk, Efrog Newydd, yn 88 mlwydd oed.[21][22]
Dramau
[golygu | golygu cod]- The Zoo Story (1959)
- The Death of Bessie Smith (1960)
- The Sandbox (1960)
- Fam and Yam (1960)
- The American Dream (1961)
- Bartleby (addasiad o stori fer Herman Melville (1961)*Who's Afraid of Virginia Woolf? (1962)
- The Ballad of the Sad Café (1963) (addasiad o novella Carson McCullers)
- Tiny Alice (1964)
- Malcolm (1966) (addasiad o nofela James Purdy)*A Delicate Balance (1966)
- Breakfast at Tiffany's (addasiad o nofel Truman Capote) (1966)
- Everything in the Garden (addasiad o ddrama Giles Cooper) (1967)
- Box and Quotations from Chairman Mao Tse-Tung (1968)
- All Over (1971)
- Seascape (1975)
- Listening (1976*Counting the Ways (1976)
- The Lady from Dubuque (1980)
- Lolita (addasiad o nofel Vladimir Nabokov) (1981)
- The Man Who Had Three Arms (1982)*Finding the Sun (1983)
- Walking (1984)
- Envy (1985)
- Marriage Play (1987)
- Three Tall Women (1991)
- The Lorca Play (1992)
- Fragments (1993)
- The Play About the Baby (1998)
- The Goat, or Who Is Sylvia? (2000)
- Occupant (2001)
- Knock! Knock! Who's There!? (2003)
- Peter & Jerry, ailenwyd yn 2009 i At Home at the Zoo (Act Un: Homelife. Act Dau: The Zoo Story) (2004)
- Me Myself and I (2007)[23]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Weber, Bruce (September 17, 2016). "Edward Albee, Trenchant Playwright for a Desperate Era, Dies at 88". The New York Times.
- ↑ Thorpe, Vanessa (September 17, 2016). "Edward Albee, Who's Afraid of Virginia Woolf? playwright, dies aged 88". The Guardian. Cyrchwyd September 17, 2016.
- ↑ "Albee Mines His Larchmont Childhood". www.nytimes.com. Cyrchwyd 2017-03-08.
- ↑ Simonson, Robert (September 16, 2016). "Edward Albee, Towering American Playwright, Dies at 88". Playbill. Cyrchwyd September 17, 2016.
- ↑ Boehm, Mike (September 16, 2016). "Edward Albee, three-time Pulitzer-winning playwright and 'Who's Afraid of Virginia Woolf?' author, dies at 88". The Los Angeles Times. Cyrchwyd September 17, 2016.
- ↑ Kennedy, Mark (September 16, 2016). "Who's Afraid of Virginia Woolf? playwright Edward Albee dead at 88". Associated Press. Cyrchwyd September 17, 2016.
- ↑ Reuben, Paul P. "Chapter 8: Edward Albee." Archifwyd 2012-07-16 yn archive.today, Perspectives in American Literature- A Research and Reference Guide, Retrieved June 28, 2007
- ↑ "Plays Produced in the Provincetown Playhouse in 1960s Chronological". Provincetown Playhouse. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-24. Cyrchwyd 2012-09-02.
- ↑ Albee, Edward."The Death of Bessie Smith"The American Dream ; The Death of Bessie Smith ; Fam and Yam: Three Plays. Dramatists Play Service, Inc., 1962, ISBN 0-8222-0030-9, pp.46-48
- ↑ [1] Archifwyd 2016-01-17 yn y Peiriant Wayback"Who's Afraid of Virginia Woolf?," Playbill Vault. Retrieved 15 December 2015
- ↑ "US playwright Edward Albee dies aged 88". BBC News. September 17, 2016. Cyrchwyd September 19, 2016.
- ↑ Kihss, Peter (May 2, 1967). "Albee Wins Pulitzer Prize; Malamud Novel is Chosen". The New York Times. Cyrchwyd September 19, 2016.
- ↑ "Library of Congress announces 2013 National Film Registry selections" (Press release). Washington Post. December 18, 2013. https://www.washingtonpost.com/entertainment/movies/library-of-congress-announces-2013-national-film-registry-selections/2013/12/17/eba98bce-6737-11e3-ae56-22de072140a2_story.html?tid=hpModule_ef3e52c4-8691-11e2-9d71-f0feafdd1394. Adalwyd December 18, 2013.
- ↑ "Edward Albee, Trenchant Playwright Who Laid Bare Modern Life, Dies at 88". NY Times. September 17, 2016. Cyrchwyd December 16, 2016.
- ↑ "Book of Members, 1780–2010: Chapter A" (PDF). American Academy of Arts and Sciences. Cyrchwyd April 6, 2011.
- ↑ "Broadway's Best". March 5, 1985.
- ↑ "Winners of the PEN/Laura Pels International Foundation for Theater Awards | PEN America". PEN. Cyrchwyd September 20, 2016.[dolen farw]
- ↑ "Who We Are". The Edward F. Albee Foundation. Cyrchwyd September 20, 2016.
- ↑ Shulman, Randy (March 10, 2011). "Who's Afraid of Edward Albee?". Metro Weekly. http://www.metroweekly.com/feature/?ak=6070.
- ↑ "Playwright Edward Albee defends 'gay writer' remarks". National Public Radio. June 6, 2011.
- ↑ Howard, Adam (September 16, 2016). "Pulitzer Prize-Winning Playwright Edward Albee Dead at 88". NBC News. Cyrchwyd September 17, 2016.
- ↑ Jones, Chris (September 16, 2016). "Pulitzer Prize-winning playwright Edward Albee dies at age 88". Chicago Tribune. Cyrchwyd September 17, 2016.
- ↑ "Works". Edward Albee Society. Cyrchwyd 5 Medi 2018.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Solomon, Rakesh H. Albee in Performance. Bloomington: Indiana University Press, 2010.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Edward F. Albee Foundation
- The Edward Albee Society
- Edward Albee scripts, 1949–1966, New York Public Library for the Performing Arts
- Edward Albee ar wefan Internet Movie Database