Neidio i'r cynnwys

Arthur Adamov

Oddi ar Wicipedia
Arthur Adamov
GanwydArthur Adamian Edit this on Wikidata
23 Awst 1908 Edit this on Wikidata
Kislovodsk Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mawrth 1970 Edit this on Wikidata
o gorddos o gyffuriau Edit this on Wikidata
5ed arrondissement Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Lycée Lakanal Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, ysgrifennwr, rhyddieithwr, cyfieithydd, actor, dramodydd radio Edit this on Wikidata
PriodJacqueline Autrusseau Edit this on Wikidata

Dramodydd Ffrengig a anwyd yn Rwsia oedd Arthur Adamov (23 Awst 1908 - 16 Mawrth 1970). Un o awduron mwyaf amlwg Theatr yr Absẃrd oedd ef.[1][2]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Adamov i deulu cyfoethog o Armenia yn Kislovodsk. Pan oedd yn bedair oed, symudodd gyda'i deulu i'r Almaen. Ar ôl cwblhau ei addysg ym Mharis, ymgartrefodd yno ym 1924 a daeth yn rhan o grwpiau swrealaeth, gan olygu eu cylchgrawn Discontinuite ac ysgrifennu barddoniaeth. Ym 1938 cafodd chwalfa nerfol. Mae'r niwrosisau a oedd wedi eu plagio ers plentyndod ac a oedd i lunio'r ysbrydoliaeth fisâr ar gyfer llawer o'i ddramâu yn cael eu trin yn ei waith cyfaddefol L 'Aveu (1946).[3]

Gwaith

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Adamov ysgrifennu ar gyfer y theatr ym 1947. Ceisiodd fynegi unigrwydd a diymadferthedd dyn ac oferedd unrhyw ymgais i chwilio am ystyr bywyd. Yn La Parodie, a berfformiwyd gyntaf yn y 1950au cynnar, mae'r cymeriadau canolog yn peledu ei gilydd gyda chwestiynau am amser, o flaen cefndir o gloc heb ddwylo. Mae L'Invasion (1950), La grande et la petite maneuver (1950), Tous contre sous (1953), a Le Professeur Taranne (1953) yn dehongli mewn delweddau hunllefus creulondeb a phwysau confensiynau cymdeithasol ac yn dangos dylanwad trwm Theatr Greulondeb Antonin Artaud.[4]

Yng nghanol y 1950au trodd Adamov i arddull ddrama fwy gwleidyddol, gan ddechrau gyda'i ddrama fwyaf adnabyddus, Le Ping-Pong (1955). Mae delwedd ganolog y ddrama, peiriant pêl-pin mewn arcêd, yn symbol o'r system gyfalafol lle mae dynion yn barod i chware gêm siawns yn ddiddiwedd yn yr obaith o ennill, er bod ennill yn gwbl ddiwerth. Ar ôl Paolo Paoli (1957) daeth dramâu Adamov yn gynyddol radical: mae Le Printemps 71 (1961) am Gomiwn Paris; La Politique des restes (1963) a Off Limits (1969) yn llawn o bropaganda Marcsaidd.[5]

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Cyflawnodd Adamov hunanladdiad ym 1970. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Cimetière Parisien d'Ivry, Paris.[6]

Roedd ei wraig, Jacqueline Autrusseau, yn newyddiadurwr a seicdreiddydd Ffrengig, a anwyd 5 Chwefror, 1922 a bu farw Ionawr 14, 2004 yn Villejuif yn y Val-de-Marne. Hi oedd ysgrifennydd golygyddol y cylchgrawn "Institut français de psychanalyse".

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]

Hunangofiannau

[golygu | golygu cod]
  • L'Aveu (1946) (Y Deillion)
  • L'Homme et l'Enfant (1968) (Dyn a Phlentyn)
  • Je... ils.. (1969) (Rwy'n ... maen nhw ...)

Dramâu

[golygu | golygu cod]
  • Mort chaude (tua 1926) (Marwolaeth boeth)
  • La Parodie (1947) (Y Parodi)
  • L'Invasion (1949) (Yr Ymosodiad)
  • La Grande et la Petite Manœuvre (1950) (Y Symudiad Mawr a man)
  • Le Désordre (1951), (Anhrefn) drama radio
  • Comme nous avons été (1951) (Fel buom ni)
  • Le Sens de la marche (1951) (Ystyr yr orymdaith)
  • Tous contre tous (1952) (Pawb yn erbyn popeth)
  • Le Professeur Taranne (1953) (Yr Athro Taranne)
  • Les Retrouvailles (1953) (Dychwelyd)
  • Le Ping-pong (1955)
  • Paolo Paoli (1957)
  • En fiacre (1959), (Yn y cab) Drama radio
  • Les Âmes mortes (1960), (Yr eneidiau Meirwon) addasiad golygfaol o'r nofel gan Nicolas Gogol
  • Le Printemps 71 (1961) (Gwanwyn 71)
  • La Politique des restes (1962) (Gwleidyddiaeth yr olion)
  • Le Temps Vivant (1963), (Yr Amser Byw) drama radio
  • Finita la comedia (1964), (Diwedd Comedi) drama radio
  • La Sainte Europe (1965) (Ewrop Bendigaid)
  • M. le Modéré (1967) (Mr Cymedrol)
  • Off Limits (1968)
  • Si l'été revenait (1970) (Os daw'r haf yn ôl)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. A Dictionary of Twentieth Century Biography, gol. Asa Briggs (Rhydychen, 1993)
  2. "Arthur Adamov: Encyclopædia Britannica". Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 5 Medi 2018.
  3. "Absurdism". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-08. Cyrchwyd 5 Medi 2018.
  4. Albee, Edward, The American Dream, Coward, 1961.
  5. Oberon Books - Arthur Adamov Archifwyd 2019-07-07 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 5 Medi 2018
  6. Banarjee, R. B., "The Theatre of the Absurd," in Literary Criterion, Vol. 7, No. 1, 1965, pp. 59-62.