Neidio i'r cynnwys

Antonin Artaud

Oddi ar Wicipedia
Antonin Artaud
GanwydAntoine Marie Joseph Paul Artaud Edit this on Wikidata
4 Medi 1896 Edit this on Wikidata
Marseille Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 1948 Edit this on Wikidata
Paris, Ivry-sur-Seine Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, actor, bardd, beirniad ffilm, llenor, awdur ysgrifau, sgriptiwr, arlunydd, actor llwyfan, actor ffilm, rhyddieithwr, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr, awdur comedi, artist sy'n perfformio Edit this on Wikidata
Arddulldrama fiction, traethawd Edit this on Wikidata
PartnerGénica Athanasiou Edit this on Wikidata
PerthnasauLouis Nalpas Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrix Sainte-Beuve Edit this on Wikidata

Dramodydd, actor, cyfarwyddwr theatr a bardd o Ffrainc oedd Antoine Marie Joseph Artaud neu Antonin Artaud (4 Medi 1896, Marseille4 Mawrth 1948, Paris). Mae'n cael ei gydnabod heddiw fel ffigwr amlwg ym myd theatr yr abswrd.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Artaud ym Marseille, Ffrainc, yn fab i Euphrasie Alpas a Antoine-roi Artaud. Roedd ei rieni ill dau yn frodorion o Smyrna, Twrci sef Izmir fodern. Ganwyd naw o blant i'w rieni, ond dim ond Antonin ac un o'i chwiorydd lwyddodd i oroesi ei plentyndod. Fe effeithwyd Artaud gan feningitis difrifol pan oedd ond yn bedair mlwydd oed. Canlyniad hyn oedd bod ganddo natur nerfus a phiwis trwy gydol ei arddegau. Roedd hefyd yn dioddef o niwralgia, atal-dweud ac iselder ysbryd difrifol. Fe drinwyd y cyflwr yma efo defnydd o opiwm - canlyniad hyn oedd bod Artaud yn gaeth iddo trwy weddill ei fywyd.

Fe benderfynnodd ei rieni i yrru ei mab trallodus i iechydfa am gyfnodau hir yn ystod ei ieuenctid. Darllennodd yr Artaud ifanc waith sawl awdur, megis Arthur Rimbaud, Charles Baudelaire ac Edgar Allan Poe. Ym mis Mai 1919, fe rhagnodwyd lawdanwm iddo gan gyfarwyddwr yr iechydfa, ag arweiniodd Artaud i fod yn gaeth i'r cyffur hwnnw hefyd, ynghyd â sawl cyffur arall.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]