Charles Baudelaire
Charles Baudelaire | |
---|---|
![]() | |
Ynganiad |
Fr-Charles Baudelaire.oga ![]() |
Ganwyd |
Charles-Pierre Baudelaire ![]() 9 Ebrill 1821 ![]() Paris ![]() |
Bu farw |
31 Awst 1867 ![]() Achos: Syffilis ![]() Paris ![]() |
Man preswyl |
rue d'Amsterdam ![]() |
Dinasyddiaeth |
Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
bardd, beirniad celf, awdur ysgrifau, cyfieithydd, ysgrifennwr, awdur, beirniad llenyddol ![]() |
Adnabyddus am |
Les Fleurs du mal, Les Paradis artificiels, Le Peintre de la vie moderne, Réflexions sur quelques-uns de mes contemporains, La Fanfarlo, Le Spleen de Paris ![]() |
Arddull |
elegy ![]() |
Prif ddylanwad |
Edgar Allan Poe, Emanuel Swedenborg, Joseph de Maistre, Thomas De Quincey, Gustave Flaubert, Victor Hugo, Ofydd, Théophile Gautier ![]() |
Tad |
Joseph-François Baudelaire ![]() |
Mam |
Caroline Aupick ![]() |
Partner |
Jeanne Duval ![]() |
Gwobr/au |
Cystadleuthau Cyffredinol ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Bardd yn yr iaith Ffrangeg oedd Charles Pierre Baudelaire (9 Ebrill 1821 - 31 Awst 1867). Cafodd ei eni ym Mharis.
Er ei fod yn adnabyddus yn bennaf am ei gerddi synhwyrus fe'i cofir yn Ffrainc am ei gyfieithiad dylanwadol o Tales of Mystery and Imagination gan Edgar Allan Poe, Histoires extraordinaires (1848-1853), yn ogystal.
Dylanwadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd y cyfansoddwr Claude Debussy ei ysbrydoli i seilo caneuon ar bum cerdd o gampwaith y bardd Les Fleurs du Mal (yn eu plith Harmonie du Soir, Jet d'Eau a Recueillemment).
Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]
- Salon de 1845
- Salon de 1846
- La Fanfario (1847)
- Les Fleurs du mal (1857)
- Les Paradis artificiels (1860)
- Réflexions sur Quelques-uns de mes Contemporains (1861)
- Le Peintre de la Vie Moderne (1863)
- Curiosités Esthétiques (1868)
- L'art romantique (1868)
- Le Spleen de Paris/Petits Poémes en Prose (1869)
Yn ei gerdd L'Albatros fe greodd Baudelaire fetaffor o'r albatros fel aderyn gosgeiddig a ostyngwyd i lefel rhywbeth digri gan rai anwybodus:
- Lui, naguère si beau, qu'il est comique et laid!
- [Yntau, unwaith mor osgeiddig, ond mor chwerthinllyd a thrwsgl erbyn hyn....]
Cerdd yw hwn am forwyr yn dal albatros am hwyl, ac yn ei brocio a gwneud hwyl am ei ben. Mae Baudelaire yn y diwedd yn cyffelybu’r bardd i’r truan diymadferth ar fwrdd y llong.[1]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]