Dolbelydr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dolbelydr, o'r tu blaen.

Maenordy carreg o'r 16g yw Dolbelydr, a chartref Harri Salbri (hefyd Henry Salesbury; 1561- c.1605) awdur Grammatica Britannica. Mae'r adeilad yn gorwedd yn nyffryn bychan arger Afon Elwy, wedi'i amgylchynu gan gaeau gwyrdd tua 2 km i'r gorllewin o Drefnant, Sir Ddinbych yng nghymuned Cefnmeiriadog. Yn wreiddiol roedd yn dŷ o gryn statws wedi'i godi o galchfaen trwsiadus, gyda simneiau tal a solad, ei risiau sbeiral a'i simneiau tal ar y talcenni. Ar wahân i bolyn trydan neu ddau, nid yw'r olygfa i lawr y dyffryn wedi newid dim, ers y pum can mlynedd diwethaf.

Dadansoddwyd pren mewnol y tŷ gyda dulliau 'dendro-cronoleg' a dulliau eraill i 1578. Gorffenwyd y gwaith adfer yn 2003.

Mae cynllun y tŷ'n arloesol gyda'i gyntedd petryal a'i sgrin estyll a mwntin. Dirywiodd statws Dolbelydr yn ystod y canrifoedd dilynol, o bosib oherwydd ei leoliad diarffordd, y ffordd gul a throellog ato a'i faint ac erbyn 1912 roedd yn wag. Fe'i prynnwyd yn 1982 gan y Landmark Trust a sylweddolodd arwyddocad fel un o 'dai coll Cymru'. Erbyn hynny roedd y to wedi dymchwel a'r sgrin solar wedi'i symud i Gaer, lle mae hyd heddiw.[1][2][3]

Mae'r llawr llechen yn cynnwys llawer o'r llechi gwreiddol a cheir waliau mwnol o blethwaith a chlai yn hytrach na phlastr calch mwy arferol, a dyna a ddefnyddiwyd pan adferwyd y ty yn y 1990au a blynyddoedd cynnar y 2000au.

Henry Salesbury[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychydyg iawn a wyddom am Henry Salesbury, ar wahân i'r ffaith ei fod yn aelod o deulu pwerus y Salesbriaid, tirfeddianwyr cyfoethog yn ardal Dyffryn Clwyd.

Argraffwyd y Grammatica Britannica yn Llundain yn 1593.

Prif gartre'r Salbriaid oedd Lleweni ac roedd ganddynt gysylltiad agos gyda Galltfaenan.

Oriel luniau[golygu | golygu cod y dudalen]

Y tu allan[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Taflenni gan y Landmark Tryst; 2017.
  2. Gwefan coflein.gov.uk; adalwyd 17 Medi 2017.
  3. gwefan britishlistedbuildings.co.uk; gyda hen luniau cyn y gwaith adfer. Adalwyd 17 Medi 2017.