Dinas Kingston upon Hull
Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, ardal gyda statws dinas, bwrdeisdref, ardal ddi-blwyf, bwrdeistref sirol, Bwrdeistref Ddinesig |
---|---|
Prifddinas | Kingston upon Hull |
Poblogaeth | 260,645 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Steve Brady |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dwyrain Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 71.4498 km² |
Cyfesurynnau | 53.75°N 0.33333°W |
Cod SYG | E06000010, E43000010 |
GB-KHL | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | executive of Hull City Council |
Corff deddfwriaethol | council of Hull City Council |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | leader of Hull City Council |
Pennaeth y Llywodraeth | Steve Brady |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Dwyrain Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Dinas Kingston upon Hull (Saesneg: City of Kingston upon Hull).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 71.4 km², gyda 259,778 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ag awdurdod unedol Riding Dwyreiniol Swydd Efrog i'r gorllewin, i'r gogledd ac i'r dwyrain; hefyd mae'n sefyll gyferbyn â Swydd Lincoln ar lan ddeheuol Afon Humber.
Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1996, pan ddiddymwyd sir an-fetropolitan Humberside a oedd wedi'i chreu yn 1974 dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Ar ôl i Humberside gael ei datgymalu, rhannwyd ei rhannau cyfansoddol rhwng Dwyrain Swydd Efrog a Swydd Lincoln. Daeth yr hen ardal an-fetropolitan Kingston upon Hull yn awdurdod unedol annibynnol (yn sir Dwyrain Swydd Efrog at ddibenion seremonïol).
Mae'r awdurdod yn hollol ddi-blwyf. Mae'n cynnwys dim ond dinas Kingston upon Hull ei hun.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 6 Tachwedd 2020