Dic Jones
Dic Jones | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mawrth 1934 Tre'r-ddôl |
Bu farw | 18 Awst 2009 Blaenannerch |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffermwr, bardd |
Plant | Brychan Llŷr |
Bardd Cymraeg nodedig a ffermwr o Geredigion oedd Dic Jones (30 Mawrth 1934[1] – 18 Awst 2009[2]). Roedd nid yn unig yn fardd dwys, athronyddol ("Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth") ond roedd ganddo hefyd hiwmor arbennig ac iach, ac roedd ei englynion digri ymhlith goreuon ein llenyddiaeth. Oherwydd y ddwy ochr hyn, gallwn ddweud fod y Prifardd Dic Jones yn fardd crwn, cyflawn a'i draed yn soled yn y pridd. Roedd hefyd yn agos at ei filltir sgwâr ond yn fardd cenedlaethol hefyd. Cyfrannodd golofn i'r cylchgrawn Golwg am dros ddeunaw mlynedd, gyda cherdd wythnosol am faterion y dydd.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Richard Lewis Jones yn Nhre'r-ddôl yng ngogledd Ceredigion, a threuliodd ran helaeth o'i oes yng ngodre Ceredigion, yn ffermio'r Hendre, Blaenannerch, 5 milltir i'r gogledd o Aberteifi.[2] Dysgodd ei grefft fel bardd gwlad gan Alun Cilie.[1]
Daeth Dic Jones yn adnabyddus y tro cyntaf pan enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith yn olynol yn ystod yr 1950au. Yn wahanol i nifer sy'n ennill cadair Eisteddfod yr Urdd, ni ddiflannodd Jones o'r golwg; yn hytrach cyhoeddodd ei gyfrol cyntaf, "Agor Grwn" ym 1960.[1]
Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1966 yn Aberafan gyda'i awdl Cynhaeaf.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976, ym mlwyddyn wythcanmlwyddiant yr Eisteddfod, dyfarnodd y beirniaid mai awdl Dic Jones, a oedd wedi ei hysgrifennu dan ffugenw fel sy'n arferol, ar y testun "Gwanwyn" oedd yr orau. Ond gan fod Jones yn aelod o'r Panel Llenyddiaeth, ac felly yn gwybod beth fyddai'r pynciau ymlaen llaw, cafodd ei ddiarddel ar y funud olaf ac nis cadeiriwyd. Cadeiriwyd yr ail orau yn y gystadleuaeth, sef y Prifardd Alan Llwyd a oedd yn anfodlon. Cyhoeddwyd awdlau'r ddau fardd yn y Cyfansoddiau.
Cyhoeddodd hanes ei fywyd hyd 1973 yn ei gyfrol Os Hoffech Wybod ym 1989.[1]
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007, cyhoeddwyd y byddai Dic Jones (Dic yr Hendre) yn olynu Selwyn Iolen fel Archdderwydd Cymru y flwyddyn ddilynol. Oherwydd ei salwch, dim ond mewn un eisteddfod y cafodd weinyddu.[3]
Bu farw ei ferch Esyllt, plentyn Syndrom Down, yn ddim ond tri mis oed.[1] Roedd yn dad i'r cerddor a chyflwynydd Brychan Llŷr, yr actores a'r gantores Delyth Wyn.[4]
Bu farw Dic Jones, yn 75 mlwydd oed, ar 18 Awst 2009 yn ei gartref ym Mlaenannerch, Ceredigion. Goroeswyd ef gan ei dri mab, dwy ferch a'i wraig Siân.[1] Cynhaliwyd angladd breifat ddydd Sadwrn yng Nghapel Blaenannerch. Cynhaliwyd Oedfa Goffa yng Nghapel Tabernacl, Aberteifi ar ddydd Sadwrn, 5 Medi 2009 am 2 o'r gloch.[5]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cerddi
[golygu | golygu cod]- Agor Grwn (1960)
- Caneuon Cynhaeaf (1969)
- Storom Awst (1978)
- Sgubo'r Storws (1986)
- Golwg ar Gân (2002)
- Cadw Golwg (2005)
Hunangofiant
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth amdano
[golygu | golygu cod]- Idris Reynolds, Cofio Dic: Darn o'r Haul Draw yn Rhywle (Gwasg Gomer, 2017)
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Dic Jones: Archdruid of Wales and master poet in the strict metres of Welsh prosody. The Independent (21 Awst 2009).
- ↑ 2.0 2.1 Archdderwydd Cymru wedi marw. BBC Cymru (18 Awst 2009).
- ↑ "Dic Jones wedi marw". Golwg360. 2009-08-18. Cyrchwyd 2024-08-15.
- ↑ Angladd breifat i'r Archdderwydd , BBC Cymru, 22 Awst 2009. Cyrchwyd ar 22 Mai 2016.
- ↑ "Click here to view the tribute page for RICHARD JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-15.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- BBC Cymry ar yr awyr, recordiad o Dic Jones yn siarad yn 1973