Defnyddiwr:Llywelyn2000/Bywgraffiadau'r Orsedd

Oddi ar Wicipedia

Derbyniwyd y canlynol ar drwydded agored, gan Swyddfa'r Eisteddfod, yn dilyn partneriaeth Wici Môn a'r Eisteddfod genedlaethol. Dyma ddatblygiad bendigedig! Mae 7 blynedd arall ar y ffordd atom!

Ar ôl creu'r erthygl, rhowch {{cwbwlhau}} (sef  Cwblhawyd ) yn syth ar ol enw'r person, er mwyn monitro beth sydd wedi ei wneud, a beth sydd heb ei wneud. Unrhyw syniadau eraill, plis? Gellir copio / pastio (gludo) os carech, ond byddai angen cynnwys cyfeiriad neu ddau a'i ehangu, wrth gwrs! Cofiwch hefyd fod gennym reol anysgrifenedig, mai lleiafswm erthygl, bellach, ydy 2 baragraff!

Mwynhewch!

2018[golygu | golygu cod]

CYHOEDDI URDDAU’R ORSEDD EISTEDDFOD CAERDYDD

Heddiw (3 Mai), cyhoeddir enwau'r rheiny a fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd eleni, fore Gwener 10 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad neu sydd sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn Cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc a astudiwyd yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Ymysg yr enwau cyfarwydd a fydd yn cael eu hurddo gan yr Orsedd eleni mae’r chwaraewr rygbi, Jamie Huw Roberts, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, y darlledwyr John Hardy a Vaughan Roderick a’r Barnwr Eleri Rees.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ym Mae Caerdydd o 3-11 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

-diwedd-

Dylid cyfeirio pob ymholiad gan y wasg a’r cyfryngau i Christine James, Cofiadur Gorsedd y Beirdd ar 029 2062 8754 / christine@eisteddfod.org.uk

GWISG WERDD[golygu | golygu cod]

Marie-Thérèse Castay

Marie-Thérèse Castay, Larressingle, Ffrainc sydd wedi cyfieithu’r mwyaf o lenyddiaeth Gymraeg gyfoes i iaith ac eithrio’r Saesneg, a’i llafur cariad dros flynyddoedd lawer fu sicrhau bod gweithiau Cymraeg yn cael eu trosi i’r Ffrangeg a’u cyhoeddi dramor. Bu’n lladmerydd pwysig ac angerddol dros Gymru a’n diwylliant dramor, a thrwyddi hi mae llenorion Cymru wedi llwyddo i gyrraedd cynulleidfaoedd ymhell y tu hwnt i Gymru.


Terry Dyddgen-Jones

Yn wreiddiol o Sir Gâr, roedd Terry Dyddgen-Jones, Caerdydd yn fwyaf adnabyddus fel un o gyfarwyddwyr drama blaenaf teledu rhwydwaith, ac am gynhyrchu ffilmiau ar gyfer BBC ac ITV. Bu’n gyfrifol am gyfarwyddo dros 200 o benodau o’r opera sebon Coronation Street, ac roedd hefyd yn adnabyddus yng Nghymru am gyfarwyddo cyfresi Parch a Byw Celwydd, ynghyd â’i waith fel uwch-gynhyrchydd Pobol y Cwm. Bu farw Terry Dyddgen Jones ddiwedd Mehefin eleni.  Cwblhawyd



Manon Eames

Mae Manon Eames, Abertawe, a ddaw’n wreiddiol o Fangor, yn adnabyddus fel dramodydd, sgriptwraig ac actores. Mae ei gwaith sgriptio’n cynnwys cyfieithu Shirley Valentine, ysgrifennu’r ffilm Eldra, a enillodd nifer o wobrau yng Nghymru a thramor, y gyfres deledu epig, Treflan, a nifer o addasiadau ar gyfer y llwyfan. Mae’n parhau i storïo ac ysgrifennu ar gyfer Pobol y Cwm a Gwaith Cartref, ac mae newydd gyhoeddi’i nofel gyntaf, Porth y Byddar.


Dylan Foster Evans

Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yw Dylan Foster Evans, Caerdydd, ac mae ei gyfraniad at yr iaith ym myd addysg yn helaeth, yn lleol a chenedlaethol. Yn aelod o Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, chwaraeodd rôl flaenllaw yn nifer o ddatblygiadau’r sefydliad, gan gynnwys y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg. Mae’n arbenigwr ar hanes yr iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant yng Nghaerdydd, ac fe gydnabyddir ei rôl amlwg wrth ffurfio hunaniaeth gymysg ac amlhiliol y brifddinas.


Gwyn Griffiths

Anrhydeddir Gwyn Griffiths, Pontypridd gan Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad unigryw fel hanesydd, newyddiadurwr ac fel un o‘r dolenni pwysicaf yn y berthynas rhwng Cymru a Llydaw. Roedd hefyd yn adnabyddus fel awdur, golygydd, cyd-olygydd neu gyfieithydd o leiaf 25 o gyfrolau. Un o’i nodweddion amlwg oedd ei barodrwydd i gynorthwyo myrdd o unigolion a mudiadau, a hynny’n gwbl wirfoddol ar hyd y blynyddoedd. Bu farw Gwyn Griffiths ddiwedd Ebrill eleni.


Ifan Gruffydd

Fel un o ddiddanwyr enwocaf Cymru, mae Ifan Gruffydd, Tregaron yn adnabyddus drwy Gymru gyfan am ei waith ar gyfresi fel Ma’ Ifan ‘Ma!, Noson Lawen a Nyth Cacwn, ynghyd â’i waith ar raglenni radio fel Dros Ben Llestri. Mae hefyd wedi ysgrifennu deg drama fer ynghyd â dwy gyfrol, gyda un arall ar y gweill. Yn ogystal â’i waith cyhoeddus, mae hefyd wedi gwasanaethu bro ei febyd, yn dawel, wirfoddol, heb chwennych unrhyw glod ar hyd y blynyddoedd.


Eiddwen Jones

Ym myd addysg mae cefndir Eiddwen Jones, Abergele, gyda’i chyfraniad yn helaeth ac yn eang dros y blynyddoedd. Mae ganddi ddiddordeb ac arbenigedd ym maes dysgu Cymraeg, a chyflwynodd y Gymraeg fel ail iaith ar batrwm Cynllun Canada, cyn mynd ati i hyfforddi athrawon yn y maes. Bu galw mawr ar ei harbenigedd yn rhyngwladol, ac fe gyflwynodd bapurau ar dechnegau dysgu ail iaith mewn amryw o gynadleddau. Mae hefyd yn awdur pum nofel hanesyddol wedi’u gosod yn Sir y Fflint a Threfaldwyn.


Michael Lloyd Jones

Mae Michael Lloyd Jones, Pwllheli yn llawer mwy adnabyddus fel Mici Plwm neu Plwmsan – sef un hanner y ddeuawd gomedi eiconig, Syr Wynff a Plwmsan, sêr rhaglen gomedi unigryw i blant, sy’n parhau’n glasur Cymraeg hyd heddiw. Ef oedd un o’r troellwyr disgiau proffesiynol cynharaf yng Nghymru gyda Disgo Teithiol Mici Plwm, ac mae hefyd wedi gweithio fel cyflwynydd ac fel actor ar lwyfan, radio, teledu a ffilm dros y blynyddoedd. Yn fwyaf diweddar, bu’n gweithio yng Nghanolfan Heneiddio’n Dda Gwynedd a Môn.


Cynfael Lake

Mae Cynfael Lake, Aberaeron yn un o brif ysgolheigion llenyddiaeth Gymraeg, gan weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth ac Abertawe. Cyhoeddodd lu o astudiaethau pwysig ym maes y Cywyddwyr, ac fe gyfrannodd yn sylweddol i’r golygiad electronig newydd o waith Dafydd ap Gwilym. Mae hefyd yn arbenigwr ar faes llenyddiaeth yn y ddeunawfed ganrif, ac ym myd y faled a’r anterliwt. Bu’n gweithredu’n wirfoddol fel Ysgrifennydd Adran Diwylliant y 18fed a’r 19eg Ganrif Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, gan drefnu cynhadledd flynyddol yn y maes.


Don Llewellyn

Bu Don Llewellyn, Pentyrch, Caerdydd yn gweithio i gwmni HTV am flynyddoedd, gan ennill mwy nag un BAFTA am ei waith. Ond, fe’i hanrhydeddir gan Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad i’w gymuned. Mae’n lladmerydd pwysig dros y Gymraeg yn lleol, ac yn arbenigwr ar dafodiaith Y Wenhwyseg ac ar hanes ei ardal. Fe’i gwahoddir yn gyson i siarad gyda chymdeithasau lu am ei wybodaeth drylwyr. Bu hefyd yn gapten a llywydd y clwb rygbi lleol ym Mhentyrch, ac yn arwain yr ymgyrch i godi neuadd bentref, sydd bellach yn adnodd gwerthfawr yn lleol.


Dafydd Parri

Yn wreiddiol o Benrhyn Llŷn, mae Dafydd Parri, Caerdydd yn derbyn yr anrhydedd am ei waith fel cynhyrchydd teledu ynghyd â’i waith gwirfoddol ym maes cerddoriaeth a bandiau pres am flynyddoedd lawer. Bu hefyd yn gwirfoddoli’n gyson gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, ac ef yw Cadeirydd Pwyllgor Technegol yr Eisteddfod eleni. Mae’n rhan o dîm sydd wedi sefydlu band pres newydd yn y brifddinas – Band Pres Taf – sy’n gobeithio cystadlu am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd eleni.


Ifan Alun Puw

Bu Alun Puw, Llanuwchllyn yn weithgar yn ei fro am gyfnod maith, gan roi blynyddoedd o wasanaeth diflino i’r Urdd, yn arwain adrannau ac yn hyfforddi plant mewn sawl maes. Ers ei ymddeoliad, bu hefyd yn un o gefnogwyr mwyaf brwd Mudiad y Ffermwyr Ifanc, gan gymryd pob cyfle i gynnig cymorth ar lawr gwlad. Bu’n Brif Stiward pan ddaeth y Brifwyl i Feirion yn 2009, a rhoddodd flynyddoedd o wasanaeth i’r Eisteddfod Genedlaethol fel un o gydlynwyr y Babell Lên, gan ymddeol yn dilyn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn y llynedd.


Ned Thomas

Mae cyfraniad Ned Thomas, Aberystwyth i fywyd cenedlaethol a rhyngwladol Cymru yn unigryw, hirhoedlog a sylweddol. Fe’i cydnabyddir fel un o brif ddeallusion Cymru a’r Gymraeg ac yn un sydd bob amser yn barod i dorchi llewys ac i weithredu’n ymarferol. Yn amlieithog, mae Ned yn rhugl ei Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a Rwsieg, ac mae ei waith gyda chyfryngau ieithoedd llai yn Ewrop a thu hwnt yn hynod bwysig. Bu’n gweithredu am flynyddoedd ar fyrddau cenedlaethol Cymreig, bob amser yn barod i wthio’r ffiniau a rhannu’i arbenigedd.


GWISG LAS[golygu | golygu cod]

John Davies, Crymych

Mae John Davies, Crymych wedi rhoi oes o wasanaeth i bob math o sefydliadau cenedlaethol yn ogystal â’r rheini yn ei filltir sgwâr. Yn ffermwr wrth ei alwedigaeth, mae’n gyn-Arweinydd Cyngor Sir Benfro, yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’n Gadeirydd Bwrdd Rheoli Sioe Frenhinol Cymru ac yn aelod o Awdurdod S4C. Bu’n gefn mawr i Glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro, gan hyfforddi ac ysbrydoli’r aelodau mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus, ac yn dysgu aelodau lleol. Dyma ddyn sydd wedi cyfrannu cymaint mewn cynifer o feysydd amrywiol, a braf yw ei anrhydeddu am hynny.


Elaine Edwards

Eleni, bydd Elaine Edwards, Caerfyrddin yn ymddeol o’i gwaith fel Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC ar ôl deng mlynedd o waith blaengar ac arloesol. Yn dilyn gyrfa lwyddiannus fel athrawes, cafodd flas ar waith undebol fel ysgrifennydd sir i UCAC, cyn ei hethol yn Llywydd Cenedlaethol. Erbyn hyn, mae’n trafod materion addysg a chyflogaeth ar y lefelau uchaf gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a llu o gyrff eraill. Mae lles athrawon, o ran iechyd corfforol a meddyliol, wedi bod yn agos iawn at ei chalon, ac wedi cael blaenoriaeth ganddi yn ystod y blynyddoedd y bu’n arwain yr Undeb.


Haydn Edwards Cyn ymddeol, bu Haydn Edwards, Llangefni yn Bennaeth Coleg Menai am flynyddoedd. Mae hefyd wedi rhoi gwasanaeth clodwiw i nifer o sefydliadau yng Nghymru, ac ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Cyllid Eisteddfod Ynys Môn y llynedd, a’i weledigaeth a’i arweiniad ef fu’n gyfrifol am sicrhau Cronfa Leol mor llewyrchus. Mae’n ddyn o ddiddordebau amlochrog, o hanes rheilffyrdd i rygbi, ac yn ŵr bonheddig a chydwybodol dros ben.


Huw Edwards (i’w urddo yn 2019)

Yn wreiddiol o Langennech, mae Huw Edwards, Llundain yn newyddiadurwr a chyflwynydd teledu amlwg. Mae’n gyfrifol am amryw o gyfresi dogfen pwysig sy’n ymwneud â hanes Cymru, gan gynnwys Owain Glyndŵr a Chymru’r Oesoedd Canol, gwleidyddiaeth Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn fwy diweddar, ei gyfres ar hanes Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Mae’n parhau i gefnogi nifer o sefydliadau a chyrff yng Nghymru, gan gynnwys yr Academi a enwyd ar ôl ei dad ym Mhrifysgol Abertawe, Academi Hywel Teifi. Mae hefyd yn brif gyflwynydd rhaglen News at Ten i’r BBC ac yn rheolaidd yn llywio’r darlledu o nifer o ddigwyddiadau mawr.


Gwyn Ellis Griffiths

Gwyn Ellis Griffiths, Bangor oedd y parafeddyg gweithredol cyntaf yng Ngwynedd, a chyda Heddlu Gogledd Cymru bu’n gyfrifol am ddatblygu’r gwasanaeth parafeddygon i wasanaeth yr Ambiwlans Awyr. Mae wedi rhoi oes o wasanaeth i’r gwasanaeth ambiwlans, ac mae’n parhau i gefnogi a mentora parafeddygon sy’n awyddus i symud ymlaen i lefel uwch. Bu’n aelod o Dîm Achub Mynydd Llanberis am flynyddoedd lawer, ac mae’n weithgar iawn gydag amryw o elusennau gan gynnwys ymchwil canser, Tîm Irfon a Hawl i Fyw.


John Hardy

Yn wreiddiol o Fangor, mae John Hardy, Caerdydd yn llais ac wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau yng Nghymru. Bu’n darlledu am bron i ddeugain mlynedd, ac ar hyn o bryd mae’n gwmni i fore-godwyr y genedl ar Radio Cymru yn ystod yr wythnos. Mae’n adnabyddus iawn am ei waith yn y byd chwaraeon, gan sylwebu ar dros ddau gant o gemau rhyngwladol ar Radio Cymru, ond mae hefyd wedi gweithio mewn nifer o feysydd eraill gan gynnwys pob math o adloniant. Mae ei gyfraniad i fyd darlledu yng Nghymru yn sylweddol, a braf yw ei anrhydeddu am hynny eleni.


Paul Hopkins

Mae Paul Hopkins, Llanilltud Fawr ar frig ei alwedigaeth fel bargyfreithiwr. Fel Arweinydd Cylchdaith Cymru, sy’n swydd etholedig a di-dâl, mae ei gyfrifoldebau a’i gyfraniad i fyd y gyfraith yng Nghymru yn enfawr. Mae’n cynrychioli’r proffesiwn mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Prif Ustus, yr Arglwydd Ganghellor, Cwnsleriaid Cyffredinol Cymru a Lloegr a Gwasanaeth yr Erlyniaeth Cymru. Mae hefyd yn cynrychioli bargyfreithwyr Cymru ar Gyngor y Bar.


Margarette Hughes

Mae Margarette Hughes, Hendy-gwyn ar Daf wedi gwneud cyfraniad diflino at hybu iaith a diwylliant Cymru yn ei hardal a thu hwnt ers dros ddeugain mlynedd. Bu’n gweithio’n ddiwyd dros addysg feithrin yn lleol, a phan ddaeth yr Eisteddfod i’r ardal yn 1974 trefnodd bod meithrinfa ar y Maes, gan weithio gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Ar ôl gweld bod bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer gwersi Cymraeg i oedolion, dechreuodd fel tiwtor Cymraeg gyda’r nos, ac mae’n parhau i gynnal tri dosbarth yn wythnosol yn yr ardal hyd heddiw. Bu Merched y Wawr yn rhan annatod o’i bywyd am flynyddoedd, a bu’n Llywydd Cenedlaethol y mudiad rhwng 1988 a 1990.


Anne Innes

Llwyddodd Anne Innes, Caerdydd i godi dros £100,000 tuag at Ymchwil y Galon, ac fe’i hanrhydeddir gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaeth gwirfoddol cwbl nodedig dros achosion da. Yn dilyn salwch ei gŵr yn 1982, pan dderbyniodd galon newydd yn Ysbyty Harefield, penderfynodd fynd ati o ddifri i godi arian a chefnogi achosion da. Ei nodweddion yw argyhoeddiad, brwdfrydedd a’r penderfyniad i ddal ati, a thrwy hyn mae achosion da yng Nghymru a thu hwnt wedi elwa’n sylweddol iawn o’i chymorth a’i chefnogaeth dros y blynyddoedd.


Elin Jones

Mae Elin Jones, Aberaeron yn Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru er Mai 2016. Mae wedi gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn fwy atebol i bobl Cymru a bod urddas a pharch yn perthyn i weithdrefnau a thrafodaethau’r Cynulliad. Bu’n cynrychioli Ceredigion yn y Cynulliad er 1999, pan agorwyd y sefydliad, ac heb unrhyw amheuaeth, mae’r fraint o gynrychioli’r ardal honno wedi bod yn flaenoriaeth iddi ers dechrau ei gyrfa fel AC. Hyd yn hyn, mae wedi rhoi dros bum mlynedd ar hugain o wasanaeth i’w bro, ac mae ei chyfraniad ar draws Ceredigion a Chymru gyfan yn un nodedig.


Eric Jones

Mae Eric Jones, Pencader wedi rhoi oes o waith yn lleol ac yn genedlaethol. Bu’n stiward ac arolygydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd yn ddi-dor er 1984, gan weithio’n dawel yn y cefndir gyda gwên ar ei wyneb bob amser. Mae ei gyfraniad i’w filltir sgwâr hefyd yn helaeth: mae’n ddiacon yn y capel ac yn aelod brwd o bwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Llanfihangel-ar-Arth, ac mae bob amser yn fwy na pharod i helpu pawb a phob achos da.


Gwyneth Briwnant Jones

Mae cyfraniad Gwyneth Briwnant Jones, Caerdydd i’w weld mewn dau faes gwahanol – y byd addysg drwy’i gyrfa broffesiynol, a’r byd iechyd drwy’i gwaith gyda Chyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a’r Fro, ynghyd â llu o gyrff iechyd eraill. Bu’n ymwneud gyda datblygu safle Ysbyty Brenhinol Caerdydd, ailwampio’r gwasanaethau i famau a babanod ac ailwampio’r gwasanaethau iechyd meddwl, yn ogystal â nifer o wasanaethau a phynciau eraill. Yn wreiddiol o Ddyffryn Aman, mae wedi gwasanaethu’i chymuned a Chymru yn wirfoddol a phroffesiynol am flynyddoedd lawer.


Alaw le Bon

Yn wreiddiol o Gaernarfon, mae Alaw Le Bon, Y Barri yn gweithio fel athrawes gynradd mewn ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd, gan gymryd pob cyfle i rannu’i diddordeb yn y ‘Pethe’ gyda’r disgyblion ifanc. Bu’n gweithio fel arweinydd Cylchoedd Chwarae'r Haf dros Fenter Caerdydd, ac mae hefyd yn groesawydd cyfrwng Cymraeg yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod â Chaerdydd, gan ymgyrchu’n frwdfrydig a dygn am fisoedd lawer yng ngorllewin y ddinas.


Helen Middleton

Bu Helen Middleton, Y Fenni yn aelod blaenllaw o’r tîm a sicrhaodd Eisteddfod lwyddiannus yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn 2016. Yn wir, mae’n anodd meddwl am unrhyw un sydd wedi cyfrannu mwy i ardal Y Fenni o ran Cymreictod ar hyd y blynyddoedd. Yn enedigol o Aberangell, mae Helen yn rhan allweddol o’r gymuned Gymraeg yn ei hardal. Gan weithio’n dawel a chadarn, mae’n rhoi’n hael o’i hegni a’i hamser i gefnogi a hybu gweithgareddau Cymraeg y fro.


Eleri Rees

Yn wreiddiol o Landre, Ceredigion, mae Eleri Rees, Caerdydd erbyn hyn yn Uwch Farnwr Cylchdaith ac yn Farnwr Preswyl Llys y Goron, Caerdydd. Bu’n Farnwr Cylchdaith er 2002, a hi hefyd yw’r Barnwr Cyswllt dros yr Iaith Gymraeg, gan gadeirio’r gweithgor a sefydlodd y drefn sy’n adlewyrchu’n ymarferol yr egwyddor o gydraddoldeb ar gyfer y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn unol â Deddf Iaith 1993. Mae’n Gofiadur Caerdydd er 2012, a hi yw’r ferch gyntaf i’w phenodi i’r swydd ddylanwadol hon.


Jamie Huw Roberts

Mae Jamie Huw Roberts, Caerdydd yn un o sêr mwyaf y byd rygbi yng Nghymru ers degawd a mwy. Enillodd 94 o gapiau dros Gymru ac mae wedi chwarae ar ddwy daith gyda’r Llewod. Mae’n arddel ei Gymreictod yn llawn ble bynnag y bo, a gwnaeth gyfraniad helaeth at godi proffil yr iaith ymysg y to ifanc yn y byd rygbi. Yn un o fechgyn y brifddinas, braf yw cael ei anrhydeddu yma yn ardal ei febyd.


Vaughan Roderick

Mae Vaughan Roderick, Caerdydd yn un o leisiau ac wynebau amlycaf y cyfryngau yng Nghymru yn sgîl ei waith fel Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru. Gyda diddordeb amlwg mewn gwleidyddiaeth a gwleidydda, mae wedi treulio’i yrfa’n dilyn y byd democratiaeth yma yng Nghymru ac yn San Steffan. Mae’n cyflwyno rhaglenni rheolaidd ar Radio Cymru a Radio Wales, ac mae hefyd yn un o hoelion wyth rhaglenni canlyniadau etholiadau yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.


Jonathan Simcock

Mae Jonathan Simcock, Derby wedi gwneud gwaith gwerthfawr i hybu’r iaith yn yr ardal hon o Loegr. Mae’n trefnu gweithgareddau lu ar gyfer dysgwyr Cymraeg o ardal eang o ganolbarth Lloegr, gan gyfuno gweithgareddau addysgu ffurfiol a digwyddiadau cymdeithasol a hwyliog, er mwyn i ddysgwyr yr ardal gael blas ar holl gwmpas y Gymraeg. Yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod, mae’n cynrychioli dysgwyr yn Lloegr ar bwyllgor dysgwyr y sefydliad.


Linda Tomos

Bu Linda Tomos, Dolgellau ar flaen y gad ym maes diwylliant er lles Cymru a’i phobl ers nifer o flynyddoedd, gyda’i phrofiad a’i brwdfrydedd dros hybu treftadaeth yn gaffaeliad i Gymru gyfan. Hi yw’r ferch gyntaf i arwain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda’i hymrwymiad i ymgysylltu â chymunedau difreintiedig ar draws Cymru’n arwydd pendant o’i hawydd personol i sicrhau bod pobl ym mhob rhan o’r wlad yn ymwybodol a gwerthfawrogol o’n diwylliant. Bu’n gweithio i Lywodraeth Cymru fel Cyfarwyddwr yr Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd, cyn ymuno â’r Llyfrgell.


Rhys Owen Thomas

Er iddo weithio ym mhob rhan o’r byd, mae Dr Rhys Thomas, New Inn, Llandeilo wedi dychwelyd i fro ei febyd, lle mae’n gwneud cyfraniad enfawr yn ei gymuned. Ar ôl graddio mewn Meddygaeth, ymunodd â Chatrawd y Parasiwt a bu’n gweithio yn Sierra Leone, Irac ac Afghanistan cyn dychwelyd i Gymru. Defnyddiodd y sgiliau a ddysgodd ar faes y gad i ddatblygu’r system gofal argyfwng cyn-ysbyty mwyaf datblygedig yn y byd ar y cyd gyda’i gydweithiwr Dr Dindi Gill. Erbyn hyn, mae’n gweithio fel anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.


Andrew White

Mae Andrew White, Llanharan yn Gyfarwyddwr elusen Stonewall Cymru er bron i ddegawd, gan arwain y gwaith i gael cydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yma yng Nghymru. Wedi dysgu Cymraeg yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol uwchradd, bu’n gweithio am gyfnod gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn bennaeth y Tîm Iechyd a Sector Gwirfoddol. Mae’n arweinydd naturiol, a’i waith lobïo wedi llwyddo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi diwygio Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru i fod yn fwy cynhwysol o gyfeiriadedd rhywiol.


Rosemary Williams

Anrhydeddir Rosemary Williams, Crug Hywel am ei chyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymraeg a Chymreig yn ardal Y Fenni, Crug Hywel ac ardal Pen y Cymoedd. Yn Bennaeth Ysgol Gymraeg Brynmawr, Blaenau Gwent am flynyddoedd, bu’n gyfrifol am godi ymwybyddiaeth am yr iaith a hyrwyddo buddiannau addysg Gymraeg i genedlaethau o drigolion lleol. Mae’n un o hoelion wyth y gymuned Gymraeg, a’i chyfraniad i Eisteddfod y Fenni a’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2016, fel rhan o’r tîm bychan ac ymroddgar a greodd waddol i’r Gymraeg a’n diwylliant yn yr ardal, yn un helaeth.


Carole Willis Mae Carole Willis, Y Groesfaen, Pontyclun yn rhan hollbwysig o fywyd Cymraeg ei hardal. Ar ôl dysgu Cymraeg a graddio yn yr iaith, treuliodd ddegawdau’n gweithio gydag eraill i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r iaith yn lleol gydag amrywiaeth eang o grwpiau a sefydliadau – yn eu plith, Côr Godre’r Garth, Cyngor Cymuned Pontyclun ac fel Cadeirydd cyfredol Bwrdd Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant. Mae hi hefyd wedi gweithio’n agos gyda’r Urdd, y Mudiad Meithrin a’r capel lleol dros y blynyddoedd.


Eraill[golygu | golygu cod]

Derbyniwyd yr unigolion isod y llynedd, a bydd y pedwar yn ymuno â’r Orsedd eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

GWISG WERDD


Geraint Jarman Mae cyfraniad Geraint Jarman, Caerdydd, fel cyfansoddwr a bardd wedi bod o ddylanwad parhaol a phellgyrhaeddol ar ddiwylliant Cymru. Mae’n rhan allweddol o’r sîn Gymraeg ers dros ddeugain mlynedd, gan gyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth ynghyd â deunaw o recordiau hir rhwng 1976 a 2016. Yn ddi-os, mae’n un sydd wedi cyfrannu cymaint i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru, gyda chenedlaethau o unigolion a bandiau wedi’u dylanwadu ganddo ac wedi mwynhau’i gerddoriaeth drwy’r blynyddoedd.


GWISG LAS

Ronald Dennis

Er ei fod yn dod o ddinas Provo yn Utah, daeth cyndeidiau Ronald Dennis o ardal Helygain, Sir y Fflint. Aeth ati i ddysgu Cymraeg er mwyn gallu darllen gwaith ei hen hen daid, Capten Dan Jones, prif genhadwr y Mormoniaid yng Nghymru, a dysgu mwy am gyfraniad y Cymry i dwf y ffydd unigryw. Bu ei gyngor a’i gymorth parod ar gael am ddegawdau i bawb sy’n ymddiddori yn y maes, yn arbennig y wefan a ddatblygwyd ganddo yn olrhain hanes y Mormoniaid. Llwyddodd i ail-ddarganfod darn pwysig ac anghofiedig o hanes, gan drawsnewid ein gwybodaeth a’n hymwybyddiaeth am gyfraniad Mormoniaid Cymru i hanes talaith Utah.


Robert Evans Mae Robert Evans, Rhydychen, wedi arwain gweithgareddau Cymraeg yn ninas a Phrifysgol Rhydychen ers blynyddoedd. Bu’n Llywydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, ac mae’n dal i groesawu a chefnogi myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Mae’n awdurdod rhyngwladol ar hanes ac wedi llenwi Cadair Hanes fwyaf blaenllaw'r brifysgol, sef y Gadair Frenhinol (Regiws). Erbyn hyn mae’n Gymrawd Emeritws yng Ngholeg Oriel, a chyn hynny bu’n Gymrawd yng Ngholeg y Trwyn Pres (Brasenose College). Roedd yn un o Gymrodyr Sylfaenol Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac mae’n parhau i gefnogi gwaith y Gymdeithas.


Jeremy Randles Bu Jeremy Randles, Y Fenni, yn allweddol yn y gwaith o ddenu’r Eisteddfod i’r ardal yn 2016. Sefydlodd bwyllgor lleol i hybu’r achos ac annog cynghorwyr a phobl busnes i gefnogi’r achos. Unwaith y daeth y newyddion bod yr Eisteddfod i’w chynnal yn lleol, bu Jeremy’n hynod weithgar, yn aelod ymroddedig o’r Pwyllgor Gwaith, Pwyllgor Apêl y Fenni a chôr yr Eisteddfod. Bu’n Gadeirydd yr Is-bwyllgor Technegol, ac yn Brif Stiward yn ystod yr wythnos. Erbyn hyn, mae’n gweithio’n ddiwyd i sicrhau gwaddol teilwng i’r Eisteddfod yn Sir Fynwy. Yn wreiddiol o Wrecsam ac yn fab i deulu di-gymraeg, mae wedi dysgu’r iaith yn rhugl ac mae ef a’i deulu’n chwarae rhan flaenllaw ym mywyd Cymraeg y Fenni.

2017[golygu | golygu cod]

CYHOEDDI URDDAU’R ORSEDD EISTEDDFOD YNYS MÔN

Heddiw (4 Mai), cyhoeddir enwau'r rheiny a fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Ynys Môn eleni, fore Llun 7 Awst a bore Gwener 11 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheiny sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern o 4-12 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

-diwedd-

Dylid cyfeirio pob ymholiad gan y wasg a’r cyfryngau i Penri Roberts, Cofiadur Gorsedd y Beirdd ar 01686 413 480.

Y Wisg Las[golygu | golygu cod]

Bob Daimond

Yn wreiddiol o Swydd Stafford, daeth Bob Daimond, Porthaethwy, i weithio i Gyngor Sir Gwynedd ar ddechrau’r 80au, lle dysgodd Gymraeg, a daeth yn Gyfarwyddwr Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd. Ers ei ymddeoliad, bu’n weithgar iawn gydag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Menai, sy’n gyfrifol am Ganolfan Thomas Telford ym Mhorthaethwy. Yn gynrychiolydd gogledd ar banel y Sefydliad Peirianwyr Sifil, mae’n gyfrannwr rheolaidd ar radio ar beirianneg. Mae hefyd yn frwd o blaid sicrhau bod gweithgareddau o faes peirianneg i’w gweld ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod yn flynyddol, ac yn aelod o Bwyllgor Gwyddoniaeth Eisteddfod Môn eleni.

Richard Crowe

Urddir Richard Crowe, Caerdydd, am ei arbenigedd ym myd y gyfraith i’r broses o greu deddfwriaeth i’r Gymraeg yng nghyd-destun datganoli, ynghyd â’i feistrolaeth o’r Gymraeg. Yn wreiddiol o Sir Dorset, dysgodd y Gymraeg ar ei liwt ei hun cyn mynd i’r brifysgol yn Aberystwyth. Bu’n Olygydd Cynorthwyol gyda Geiriadur Prifysgol Cymru am flynyddoedd, cyn derbyn swydd fel cyfieithydd cyfreithiol yn y Cynulliad Cenedlaethol. Bu’n drafftio deddfwriaeth yn y Gymraeg, ac aeth ati i astudio er mwyn ennill cymwysterau yn y gyfraith. Ers 2005, ef yw Prif Ieithydd Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru, ac mae wedi llywio datblygiad y Gymraeg fel iaith ddeddfu ers bron i ugain mlynedd bellach.


Tony Davies

Er bod ei wreiddiau’n ddwfn yn ardal Sir Benfro, De Affrica yw cartref Tony Davies ers blynyddoedd bellach. Bu’n Llywydd y ‘Welsh Cambrian Society’ ac mae’n Gadeirydd y Gymdeithas Gymraeg yn Ne Affrica ers deng mlynedd ar hugain. Ef yw Cadeirydd Côr Cymry De Affrica ers ugain mlynedd, ac mae ganddo gysylltiadau lu gyda chymdeithasau Cymraeg ar draws y byd. Bu’n Arweinydd Cymru a’r Byd yn Eisteddfod Casnewydd, 2004, ac mae wedi dychwelyd i Gymru er mwyn ymweld â phob Eisteddfod ers deng mlynedd ar hugain.


Ronald Dennis

Er ei fod yn dod o ddinas Provo yn Utah, daeth cyndeidiau Ronald Dennis o ardal Helygain, Sir y Fflint. Aeth ati i ddysgu Cymraeg er mwyn gallu darllen gwaith ei hen hen daid, Capten Dan Jones, prif genhadwr y Mormoniaid yng Nghymru, a dysgu mwy am gyfraniad y Cymry i dwf y ffydd unigryw. Bu ei gyngor a’i gymorth parod ar gael am ddegawdau i bawb sy’n ymddiddori yn y maes, yn arbennig y wefan a ddatblygwyd ganddo yn olrhain hanes y Mormoniaid. Llwyddodd i ail-ddarganfod darn pwysig ac anghofiedig o hanes, gan drawsnewid ein gwybodaeth a’n hymwybyddiaeth am gyfraniad Mormoniaid Cymru i hanes talaith Utah.


David Ellis

Mae David Ellis, Y Dref Wen, Sir Amwythig, yn rhan allweddol o fywyd Cymraeg yr ardal. Ef yw Llywydd Clwb Cymraeg Croesoswallt, ac mae hefyd wedi gwasanaethu fel aelod ar bwyllgorau Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, gan weithredu fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn 2016. Mae’n aelod o Orsedd y Beirdd Eisteddfod Powys ers blynyddoedd, ac mae’n cyflawni swydd banerwr. Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Apêl Croesoswallt, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yn 2015. Yn ddi-os, mae’n un o gefnogwyr mwyaf brwd y Gymraeg a’n diwylliant yn yr ardal.


Phyllis Ellis

Mae Phyllis Ellis, Penisarwaun, yn un o arweinwyr ei chymuned leol yn ardal Caernarfon. Mae’n Gynghorydd Cymuned, llywodraethwr ysgol, Cadeirydd Pwyllgor y neuadd gymuned a Chadeirydd Pwyllgor Eisteddfod y pentref. Yn gyn-bennaeth ysgol, bu’n Gadeirydd mudiad Cefn ac mae’n Ymddiriedolwr ac Ysgrifennydd y Bwrdd yn Nant Gwrtheyrn. Bu’n gefnogwr brwd o’r Eisteddfod ers blynyddoedd lawer, yn rhan o’r Pwyllgor Gwaith pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn ei hardal yn 1979 a 2005, aelod o Lys a Chyngor yr Eisteddfod, a bu hefyd yn gweithio ym Maes D ers 1997. Mae’n barod ei chymwynas bob tro, ac mae parhad a datblygiad ei chymuned yn ardal y chwareli’n agos at ei chalon.


Gwynfryn Evans

Mae Gwynfryn Evans, Rhydypennau, yn arweinydd cymdeithasol ac yn uchel ei barch ym mhob cylch, gan fod yn hynod weithgar yn ei gymuned a’i gapel. Bu’n gweithio yn y sector llaeth drwy gydol ei yrfa, gan gychwyn yn Llangefni a Maldwyn cyn dod yn rheolwr Ffatri Laeth Felin-fach ac yna’n rheolwr De Cymru a Chanolbarth Lloegr i’r Bwrdd Marchnata Llaeth. Mae’n ymwneud yn wirfoddol gyda llu o wahanol sefydliadau lleol a chenedlaethol, ac yn Gadeirydd Bwrdd Golwg 360 ar hyn o bryd.


Robert Evans

Mae Robert Evans, Rhydychen, wedi arwain gweithgareddau Cymraeg yn ninas a Phrifysgol Rhydychen ers blynyddoedd. Bu’n Llywydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, ac mae’n dal i groesawu a chefnogi myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Mae’n awdurdod rhyngwladol ar hanes ac wedi llenwi Cadair Hanes fwyaf blaenllaw'r brifysgol, sef y Gadair Frenhinol (Regiws). Erbyn hyn mae’n Gymrawd Emeritws yng Ngholeg Oriel, a chyn hynny bu’n Gymrawd yng Ngholeg y Trwyn Pres (Brasenose College). Roedd yn un o Gymrodyr Sylfaenol Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac mae’n parhau i gefnogi gwaith y Gymdeithas.


Elwyn Hughes Bu Elwyn Hughes, Llanfairpwll, yn arwain maes dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru am dros 30 mlynedd. Datblygodd y gwasanaeth i godi safonau ac ysbrydoli tiwtoriaid a dysgwyr gan arwain drwy esiampl. Derbyniodd Dlws Elvet a Mair Elvet Thomas am ei gyfraniad i’r maes yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri. Er ei fod wedi ymddeol, mae’n parhau i weithio fel tiwtor, ac ef yw cadeirydd Pwyllgor Dysgwyr yr Eisteddfod eleni. Mae hefyd yn arweinydd Côr Dros y Bont, sy’n cyfuno dysgwyr a siaradwyr iaith gyntaf, ynghyd â Chriw Bangor, sydd wedi ennill cystadleuaeth Côr y Dysgwyr chwe gwaith yn yr Eisteddfod.


Hugh Price Hughes

Pysgota yw prif ddiddordeb Hugh Price Hughes, Bethel, Caernarfon, ac mae’n ysgrifennydd Cymdeithas Bysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni ers blynyddoedd. Yn ogystal, mae’n un o’r prif ymgyrchwyr dros gadwraeth a gwarchod y torgoch, pysgodyn prin sy’n byw yn rhai o lynnoedd Eryri. Mae ganddo golofn yn ei bapur bro lleol, Eco’r Wyddfa, yn ysgrifennu’n rheolaidd yn Yr Herald, ac ef yw gohebydd lleol y cylchgrawn ‘Trout and Salmon’. Mae’n siaradwr rheolaidd mewn cymdeithasau a grwpiau ar draws y gogledd. Mae’n un o brif ladmerwyr cadwraeth y Fro Gymraeg a’i diwylliant.


Hugh John Hughes

Bydd rhai pobl yn adnabod Huw John Hughes, Porthaethwy, fel gweinidog rhan amser, eraill yn ymwybodol o’i waith fel darlithydd addysg, ac eraill yn cysylltu’i enw gydag atyniad Pili Palas ar gyrion Porthaethwy. Bu hefyd yn ddyfarnwr pêl droed gan godi i wasanaethu yng nghynghrair Cenedlaethol Cymru. Ychydig iawn o bobl sydd â chefndir mor ddiddorol, ac ychydig hefyd sydd wedi gwneud cymaint yn ei gymuned a’i ardal leol. Mae’n awdur toreithiog, yn awdurdod ar fyd natur ac yn ymgyrchydd brwd dros ddatblygu defnydd o’r Gymraeg ym maes twristiaeth. Mae’n ysgolhaig disglair ac egnïol a’i gyfraniadau i fywyd ei fro a’i genedl yn eang eithriadol.


Ian Gwyn Hughes

Bu Ian Gwyn Hughes, Caerdydd, yn ohebydd chwaraeon gyda’r BBC yng Nghymru am flynyddoedd. Ond daeth i sylw’r rhan fwyaf o bobl y llynedd yn rhinwedd ei waith fel Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Pêl Droed Cymru yn ystod pencampwriaeth yr Ewros. Mae wedi sicrhau lle canolog i’r Gymraeg yng ngwaith y Gymdeithas, gan ddangos balchder y tîm a’r swyddogion yn yr iaith. Rhoddodd hyn lwyfan rhyngwladol i’r iaith yn ystod y gystadleuaeth, a thrwy hynny crëwyd teimlad o berchnogaeth o’r iaith yn ogystal â’r tîm. Yn ogystal, bu’n flaengar yn hyrwyddo pêl droed mewn cymunedau Cymreig a Chymraeg ar draws y wlad.


Arwel Lloyd Jones

Mae’n debyg bod gan bob bro a chymuned ei harweinyddion, ac mae Arwel Lloyd Jones, Llanuwchllyn, yn bendant yn un o’r rhain yn lleol. Mae’n aelod ffyddlon a gweithgar iawn o’i gymuned, yn drefnydd greddfol ac wedi treulio degawdau’n gwasanaethu a chynorthwyo unigolion ar adegau o angen, yn ogystal â chynnig cymorth i nifer o sefydliadau a chymdeithasau’r plwyf. Os oes unrhyw ymgyrch neu achos lleol ar y gweill, does dim dwywaith y bydd yn rhan o’r trefniadau gan roi o’i orau bob amser. Yn Gymro balch i’r carn, mae wedi cyfrannu’n helaeth i ddiwylliant Cymraeg a Chymreig ardal Penllyn, a hynny drwy gydol ei oes. Mae’n un o gymwynaswyr mawr ei ardal, yn gymeriad cwbl ddibynadwy a’i gyfraniad gwirfoddol yn y gymuned yn dysteb i’w gymeriad hawddgar.


Geraint Lloyd Jones

Mae Geraint, Penrhyndeudraeth, wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd Cymreig ei fro a thu hwnt dros y blynyddoedd. Bu ef a'i wraig Meinir Lloyd Jones yn gweithio ym myd addysg, cafodd cenedlaethau o blant eu hysbrydoli gan eu hymroddiad i’r iaith a’n diwylliant. Bu’r ddau’n gefn i bopeth Cymreig a Chymraeg yn lleol. Mae’r ddau’n weithgar yn y capel, a Meinir yn Ysgrifennydd Adran Chwiorydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac roedd Geraint yn Ysgrifennydd Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd yn 2017 a chyn hynny. Mae Geraint yn aelod blaenllaw o nifer o gymdeithasau diwylliannol, ac yn amlwg ei gefnogaeth i gorau lleol, gan gynnwys Côr Meibion Dwyfor. Yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, mae wedi gwasanaethu ar bwyllgorau lleol dros y blynyddoedd, ac mae hefyd yn feirniad llefaru uchel ei barch.


Meinir Lloyd Jones

Mae Meinir Lloyd Jones, Penrhyndeudraeth, wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd Cymreig ei bro a thu hwnt dros y blynyddoedd. Gweithiodd Meinir a'i gwr, Geraint Lloyd Jones, yn y byd addysg a chafodd cenedlaethau o blant eu hysbrydoli gan eu hymroddiad i’r iaith a’n diwylliant, gyda Meinir yn hyfforddi disgyblion Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd i ganu fel unigolion, mewn partïon a chorau mewn eisteddfodau lleol a’r Urdd. Bu’r ddau’n gefn i bopeth Cymreig a Chymraeg yn lleol. Mae’r ddau’n weithgar yn y capel, a Meinir yn Ysgrifennydd Adran Chwiorydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru tra roedd Geraint yn Ysgrifennydd Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd (yn 2017). Mae Meinir hefyd yn Gadeirydd Ffederasiwn Gwynedd-Meirionnydd o Sefydliad y Merched ac yn gweithredu’n genedlaethol i’r mudiad yn ogystal.


Helena Jones

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cofio un o sêr Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau'r llynedd, Helena Jones, Aberhonddu, a oedd fisoedd yn unig yn fyr o’i phen blwydd yn gant oed, pan fu’n cystadlu ar lwyfan y Pafiliwn. Cafodd ymateb gwresog bryd hynny, ac yn sicr bydd y gymuned leol yn ymfalchïo yn yr anrhydedd hwn hefyd, gan iddi fod yn ymroddedig a hynod weithgar yn ei hardal leol am flynyddoedd lawer. Dysgodd Gymraeg yn eithaf hwyr yn ei hoes, ac mae wedi ymroi’n gyfan gwbl i gefnogi’r iaith a’r Eisteddfod. Mae’n fardd a llenor dawnus, a dengys y gwobrau niferus mae wedi’u hennill hynny’n glir. Mae wedi gweithio’n ddiflino dros nifer fawr o elusennau a sefydliadau dros y blynyddoedd gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru, Tenovus ac Ambiwlans Sant Ioan.


Huw Ceiriog Jones Un a roddodd oes o wasanaeth i Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yw Huw Ceiriog Jones, Llandre, Rhydypennau. Ar hyn o bryd, mae’n Dderwydd Gweinyddol yr Eisteddfod, ac mae hefyd wrthi’n brysur yn cofnodi hanes Eisteddfod Powys o’i dyddiau cynnar hyd heddiw. Gyda chefndir oes o weithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dyma ddyn sy’n fwy na chymwys i ymgymryd ag unrhyw brosiect ymchwil. Mae hefyd yn berchen ar wasg fach hynafol, ac argraffodd ‘Y Gwir Degwch’, casgliad o gywyddau serch Iolo Morganwg, cyfrol a olygwyd gan Tegwyn Jones. Mae’n Gyn-lywydd Cymdeithas Carafanwyr Cymru ac yn gyn-olygydd eu cylchgrawn, ‘Y Nomad’.


Lisa Lewis Jones Mae Lisa Lewis Jones, Brynaman, wedi bod yn weithgar yn lleol ar hyd y blynyddoedd. Bu’n aelod ffyddlon o Gymdeithas Ddrama’r Gwter Fawr, cymdeithas sydd wedi cefnogi’r Eisteddfod ers blynyddol drwy gystadlu yn y cystadlaethau actio drama. Mae wedi bod yn diddanu cymdeithasau lleol drwy gyflwyniadau, adrodd ac actio. Mae bob amser yn barod i gefnogi elusennau gan godi arian i Gymorth Cristnogol a chymryd rhan mewn teithiau cerdded i godi arian i’r RNIB. Mae hefyd wedi cydweithio gydag elusennau i godi ymwybyddiaeth trafferthion byd gwaith. Hi oedd Mam y Fro yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 2006.


Mari Jones

Bu Mari Jones, Llanfaethlu, yn fawr ei chymwynas i’r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd, gan weithio’n wirfoddol i’r ŵyl am chwarter canrif, gyda’i chwaer, Dwynwen Hawkins. Byddai’r ddwy i’w gweld yn gwerthu tocynnau yn y Swyddfa wrth y brif fynedfa, ac yn wynebau cyfarwydd i filoedd o eisteddfodwyr. Byddent hefyd yn stiwardio’n rheolaidd yn y Pafiliwn ac yn Theatr y Maes. Bydd yn ‘ymddeol’ o’r gwaith hwn eleni, gyda’r Eisteddfod yn ei chynefin ym Môn. Roedd yn fwriad enwebu Dwynwen i’r Orsedd hefyd eleni, ond bu farw ddechrau’r flwyddyn, felly anrhydeddir Mari am ei holl waith ac er cof annwyl am Dwynwen.


Mary Jones, Trefor

Mae Mary Jones, Trefor, yn derbyn yr anrhydedd oherwydd ei gwaith yn trefnu Eisteddfod Aelhaearn dros y blynyddoedd, gan gadw’r Eisteddfod yn hyfyw a llwyddiannus. Yn ddi-os, byddai dyfodol yr eisteddfod leol hon wedi bod mewn perygl heb gefnogaeth a gwaith gwirfoddol Mary Jones. Mae eisoes wedi’i anrhydeddu gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am ei chyfraniad, ac mae’n briodol ei bod hi’n cael ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd am ei gwaith hefyd. Bu hefyd yn weithgar gydag Antur Aelhaearn ers blynyddoedd, ac mae hefyd wedi gweithredu fel Clerc Cyngor Cymuned Llanaelhaearn ers ugain mlynedd, gan weithio’n ddiwyd a chaled er budd y gymuned.


Michael Jones, Caerdydd Un sydd wedi gweithio’n ddiflino dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ac yn genedlaethol yw Michael Jones, Caerdydd, gan ymgyrchu’n hir a llwyddiannus i ehangu addysg Gymraeg yn y brifddinas ac ymladd dros ymgyrchoedd tebyg mewn rhannau eraill o Gymru dros y blynyddoedd. Mae’n adnabyddus iawn ym myd y gyfraith yma yng Nghymru, ac wedi gweithio ar nifer o achosion llys sy’n ymwneud â’r iaith yn ystod ei yrfa. Mae’n parhau’n aelod o fudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg, ar ôl cyfnod hir ar y Pwyllgor Gwaith a Chadeirydd, ac yn llywodraethwr amlwg yn rhai o ysgolion Cymraeg y ddinas. Bu’n Llywydd ac Ysgrifennydd Cylch Cinio Cymraeg Caerdydd, ac mae wedi gweithio’n galed i hybu’r Gymraeg ym myd busnes yng Nghaerdydd a thu hwnt.


Siân Merlys

Mae Siân Merlys, Pontiets, Llanelli, wedi cyfrannu llawer iawn i fyd Cymraeg i Oedolion ers blynyddoedd, gan drefnu a hyrwyddo cyrsiau dysgu Cymraeg yn ardal Sir Gâr. Mae’n aelod o Banel Canolog Dysgwyr yr Eisteddfod, a bu’n Gadeirydd am nifer o flynyddoedd, gan arwain y gwaith a’r agenda dysgu Cymraeg o fewn yr Eisteddfod yn ddyheuig. Hi hefyd fu’n gyfrifol am ofalu am enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn ystod yr oriau hollbwysig ar ôl iddynt ennill y wobr, gan eu cynghori a’u helpu a’u paratoi i fynd ar lwyfan y Pafiliwn. Mae llawer enillydd wedi cael budd o’i chyngor dros y blynyddoedd ar Faes yr Eisteddfod.


June Moseley

Yn un o athrawon cyntaf Ysgol Bodedern, efallai bod June Moseley, New Plymouth, Seland Newydd, wedi symud yn bell erbyn hyn, ond mae Cymru a’r Gymraeg yn parhau’n rhan bwysig o’i bywyd. Yn wreiddiol o ardal Mostyn, Sir y Fflint, mae’n gweithio’n ddyfal i sicrhau bod Cymry yn ei rhanbarth yn dod i adnabod ei gilydd, a drws ei chartref, ‘Plas Mawr’, bob amser ar agor i groesawu ymwelwyr o Gymru. Mae’n weithgar yn y Gymdeithas Gymraeg, a llwyddodd i ennyn digon o gefnogaeth i wahodd Cymanfa Ganu Cymry Seland Newydd i New Plymouth. Ond nid y Gymraeg yn unig sy’n mynd â’i bryd. Mae hefyd yn ymddiddori yng Ngŵyl Genedlaethol y Maori, y Geidhealtacht, gan eu hysgogi i arddel eu hiaith a’u diwylliant.


Phil Mostert

Er mai o Fôn y daw Phil Mostert, Harlech, yn wreiddiol, yn Nyffryn Ardudwy mae’i gartref ers blynyddoedd, a’r gymdeithas yno sydd wedi elwa o’i gyfraniad sylweddol mewn nifer o feysydd. Yn gyn Uwch-ymgynghorydd Addysg ac Arolygydd Ysgolion, mae’n ddarlithydd dawnus sy’n llwyddo i swyno’i gynulleidfa. Roedd yn un o sefydlwyr y papur bro ‘Llais Ardudwy’, ac mae’n un o’r golygyddion ers bron i ddeugain mlynedd ac ef hefyd sy’n cysodi’r papur. Mae’n aelod o Gôr Meibion Ardudwy a Chôr Meibion Prysor, ac ef yw cyflwynydd llwyfan y ddau gôr. Roedd yn un o sylfaenwyr Eisteddfod Harlech, ac mae’n Gadeirydd Cymdeithas Cwm Nantcol. Yn fathwr geiriau heb ei ail, ef roddodd yr enw ar ‘Hafod Eryri’ ar ben Yr Wyddfa.


Alun Mummery Dyn ei filltir sgwâr yw Alun Mummery, Llanfairpwll, a’i gyfraniad i’r filltir honno’n sylweddol dros y blynyddoedd. Yn gynghorydd ar Gyngor Cymuned Llanfairpwll ers hanner canrif eleni, bu hefyd yn gynghorydd sir dros ei ardal leol yn Llanfairpwll, Porthaethwy, Star a Phenmynydd, ac yn llywodraethwr yn yr ysgol gynradd leol. Ond, ym myd pêl droed mae’r gŵr hwn hapusaf, ac mae’n ymwneud gyda chlwb a thîm Clwb Pêl Droed Llanfairpwll ers 45 o flynyddoedd, ac yn 2012, derbyniodd Wobr Cyfraniad Oes am ei waith gyda’r clwb yng Ngwobrau Pêl Droed Cymunedol Cymru.


George North

Efallai iddo gael ei eni yn King’s Lynn, ond magwyd George North, Northampton, yng ngogledd Môn gan dderbyn ei addysg yn Ysgol Bodedern, dafliad carreg o Faes yr Eisteddfod eleni. Mae’n un o chwaraewyr rygbi mwyaf disglair ei genhedlaeth, gan gychwyn ar ei daith i garfan y Llewod yng Nghlwb Rygbi Llangefni, cyn symud i Goleg Llanymddyfri ac yna’r Scarlets, cyn ennill ei gap cyntaf dros Gymru pan yn ddim ond deunaw oed. Mae’n un o asgellwyr mwyaf rhagorol rygbi rhyngwladol, yn arwr i filoedd, ac er ei fod yn chwarae yn Northampton, mae’n parhau’n ffyddlon i’w hen sir ac i’r Gymraeg.


Jean Parri-Roberts

Efallai mai fel cyn-bostfeistres Tegryn, Crymych a HendyGwyn-ar-Daf mae Jean Parri-Roberts, HendyGwyn-ar-Daf, yn fwyaf adnabyddus, gan iddi hi roi 55 mlynedd o wasanaeth i’r gymuned leol yn gosod ei stamp drwy’i chyfraniad diymhongar gan drin pawb â pharch a gofal. Ond, mae’i chyfraniad i’r iaith, diwylliant a’i milltir sgwâr yn llawer ehangach na hyn. Yn Ynad Heddwch am 30 mlynedd yn Sir Gaerfyrddin, bu hefyd yn drefnydd a thrysorydd pwyllgor Pryd ar Glud HendyGwyn-ar-Daf am flynyddoedd, gan sicrhau gofal a chymorth i bobl mewn angen. Mae’n flaenllaw yng Nghapel y Bedyddwyr Nazareth, ac yn aelod ffyddlon a diwyd o Ferched y Wawr, ac wedi gweithredu fel Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd ei changen, ynghyd â thrysorydd Rhanbarth Caerfyrddin.


Donald Glyn Pritchard

Un o feibion Môn yw Donald Glyn Pritchard, Llannerchymedd, a’i gyfraniad i fywyd yr ynys yn sylweddol. Yn athro a phennaeth cynradd cyn ei ymddeoliad, bu’n weithgar gyda’r Urdd am flynyddoedd, yn gyfrifol am amryw o ganghennau. Treuliodd gyfnod hirfaith – o 1965 tan 2003 – yn weithgar gyda Chlwb Ieuenctid ac Aelwyd y Gaerwen, gan ddylanwadu ar genedlaethau o bobl ifanc Môn. Yn gefnogwr brwd o Eisteddfod Môn ac arweinydd cyson yn Eisteddfod enwog Marianglas, roedd hefyd yn aelod o’r pwyllgor a sefydlodd bapur bro Yr Arwydd, gan chwarae rhan bwysig ym mywyd diwylliannol ei fro. Mae hefyd yn athro Ysgol Sul yng Nghapel Ifan, Llannerchymedd ers deugain mlynedd ac yn sylfaenydd Clwb yr Ifanc.


Jeremy Randles

Bu Jeremy Randles, Y Fenni, yn allweddol yn y gwaith o ddenu’r Eisteddfod i’r ardal yn 2016. Sefydlodd bwyllgor lleol i hybu’r achos ac annog cynghorwyr a phobl busnes i gefnogi’r achos. Unwaith y daeth y newyddion bod yr Eisteddfod i’w chynnal yn lleol, bu Jeremy’n hynod weithgar, yn aelod ymroddedig o’r Pwyllgor Gwaith, Pwyllgor Apêl y Fenni a chôr yr Eisteddfod. Bu’n Gadeirydd yr Is-bwyllgor Technegol, ac yn Brif Stiward yn ystod yr wythnos. Erbyn hyn, mae’n gweithio’n ddiwyd i sicrhau gwaddol teilwng i’r Eisteddfod yn Sir Fynwy. Yn wreiddiol o Wrecsam ac yn fab i deulu di-gymraeg, mae wedi dysgu’r iaith yn rhugl ac mae ef a’i deulu’n chwarae rhan flaenllaw ym mywyd Cymraeg y Fenni.


Gwerfyl Roberts

Mae Gwerfyl Roberts, Groeslon, Caernarfon, wedi gweithio’n ddiflino i wella ansawdd darpariaeth y gwasanaeth iechyd yn y cyd-destun dwyieithog ers blynyddoedd. Mae ganddi gyhoeddiadau arloesol sy’n canolbwyntio ar bynciau amrywiol, gan osod y sefyllfa yng Nghymru mewn cyd-destun rhyngwladol. Yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor, mae’n cynrychioli’r disgyblaethau iechyd ar Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac wedi chwarae rhan flaenllaw iawn yn datblygu cynlluniau pynciol cenedlaethol. Mae hefyd wedi cyfrannu at waith byrddau a thasgluoedd amrywiol, yn aml yn cynghori Llywodraeth Cymru, lle mae’i harbenigedd wedi dylanwadu’n bositif ar bolisi cyhoeddus yng Nghymru.


Nia Roberts

Fel merch o Fôn yr adnabyddir y cyflwynydd Nia Roberts, Y Bontfaen, a hithau’n ferch i’r diweddar actor ac athro, JO Roberts. Mae’n un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C ac yn un o leisiau poblogaidd Radio Cymru, gyda phrofiad helaeth o gyflwyno digwyddiadau byw a chelfyddydol o bob math, gan gynnwys y darlledu o’r Eisteddfod Genedlaethol, yr Urdd a Chôr Cymru. Hi hefyd yw cyflwynydd rhaglen gelfyddydol wythnosol Radio Cymru, Stiwdio. Derbyniodd Gymrodoriaeth er anrhydedd am ei chyfraniad i faes darlledu gan Brifysgol Bangor llynedd.


Osian Roberts

Gyda’i wreiddiau’n ddwfn ym Modffordd, Ynys Môn, pêl droed fu bywyd Osian Roberts ers pan yn fachgen ysgol, gan lwyddo ar y lefel uchaf o’r cychwyn. Yn dilyn cyfnod yn UDA, dychwelodd i Gymru i weithio ym myd pêl droed, ac ers rhai blynyddoedd bellach, mae’n rhan greiddiol o dîm hyfforddi Cymru. Roedd ei brofiad a’i arbenigedd yn ganolog i lwyddiant mawr y tîm yng nghystadleuaeth yr Ewros y llynedd, pan lwyddodd y bechgyn i gyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth. Bu’n rhan allweddol o’r gwaith o sicrhau bod y Gymraeg i’w gweld a’i chlywed yn ystod y gystadleuaeth, gan godi proffil yr iaith yn rhyngwladol ar draws y byd. Yn ogystal â’r anrhydedd hwn, Osian Roberts yw Llywydd yr Ŵyl yn yr Eisteddfod eleni.


David a Ruth Roberts

Bu David a Ruth Roberts, Llanelen, Y Fenni, yn gwbl allweddol i lwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau'r llynedd. Roedd y ddau’n gyd-gadeiryddion Pwyllgor Apêl y Fenni, gan weithio’n ddi-ffael am gyfnod o ddwy flynedd i godi arian at yr Eisteddfod. Gyda tharged o £100,000 mewn ardal sydd ar y cyfan yn ddi-gymraeg, a chyda chriw bychan a gweithgar, bu’r ddau’n gweithio ar lefel ymarferol a strategol, gan chwalu’r targed a chyrraedd bron i £120,000. Mae’r ddau hefyd yn rhan ganolog o weithgareddau Cymraeg a Chymreig yr ardal, gyda David yn Is-gadeirydd y Fenter Iaith leol, Ruth yn Ysgrifennydd Merched y Wawr, a’r ddau’n hynod weithgar gyda Chymreigyddion y Fenni.


Carol Sharp

Efallai mai ardal Winnipeg, Manitoba, Canada yw cyfeiriad Carol Sharp ers dros ddeugain blynedd bellach, ond un o ferched Môn ydyw mewn gwirionedd, ac mae dylanwad yr ynys a Chymru’n gryf arni hyd heddiw. Cafodd yrfa lwyddiannus ym myd y gyfraith yng Nghanada, yn Farnwr a fu’n flaenllaw ei gwaith yn cynrychioli hawliau lleiafrifoedd ac ieithyddol, gan arbenigo mewn cyfraith sifil. Bu’n allweddol i fywyd Cymraeg a Chymreig yr ardal drwy gydol y cyfnod, gan sicrhau bod y Gymdeithas Gymraeg yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru heddiw. Daw’n ôl yn rheolaidd i Gymru, yn arbennig i’r Eisteddfod, gan ddychwelyd i Ganada yn llawn syniadau am sut i ddatblygu’r Gymdeithas yn Winnipeg ymhellach.


Wyn Thomas, Caerfyrddin

Mae Caerfyrddin yn ddyledus iawn i Wyn Thomas, am ei ymroddiad i’r Gymraeg a byd busnes yn y dref dros y blynyddoedd. Mentrodd yn ifanc drwy agor Siop y Pentan, siop a ddaeth yn Ganolfan Gymraeg i’r dref, gan werthu llyfrau, recordiau, cardiau, posteri, tocynnau – popeth a oedd yn ymwneud gyda’r iaith yn lleol a chenedlaethol. Bu hyn yn hollbwysig i fywyd diwylliannol Cymraeg y dref am gyfnod o bron i hanner canrif. Roedd Wyn a Siop y Pentan hefyd yn ganolog i lwyddiant y papur bro lleol, Cwlwm, gan mai’r siop fyddai’n derbyn a chasglu’r newyddion cymunedol yn rheolaidd. Mae hefyd wedi gweithredu fel Maer Tref Caerfyrddin, gyda’i Gymreictod ar y Cyngor ac fel Maer yn gosod statws i’r iaith bob amser yn ei gymuned.


Derek Meredith Williams

Er ei fod yn byw yn Seland Newydd ers 32 o flynyddoedd, mae’n amlwg fod Derek Williams, Auckland, yn Gymro i’r carn. Bu’n hyrwyddo Cymru a’i diwylliant yng nghymuned Auckland ers blynyddoedd lawer, ac mae’i gyfraniad i lu o gymdeithasau, gan gynnwys Clwb Cymraeg Auckland, Cymdeithas Gymraeg Auckland a Chymdeithas Dawnsio Gwerin Cymreig Auckland, yn enfawr. Yn athro wrth ei alwedigaeth cyn iddo ymddeol, mae hefyd wedi cael llawer o foddhad wrth fynd ati i weithio fel tiwtor a chynnal gwersi Cymraeg mewn amryw o gymdeithasau a chlybiau yn yr ardal. Dyma ddyn sy’n parhau’n falch o’i wreiddiau ac yn cymryd pob cyfle i ddathlu’i Gymreictod ym mhen pellaf y byd.


Ifor Williams, Llanfaglan

Mae cyfraniad Ifor Williams, Llanfaglan, Caernarfon, i’w filltir sgwâr yn arbennig ar nifer o lefelau. Yn uchel ei barch fel cynghorydd ar Gyngor Cymuned Bontnewydd, ef hefyd oedd yn gyfrifol am sefydlu Canolfan Bro Llanwnda, sy’n parhau’n ganolfan fyrlymus a diwylliannol bwysig yn yr ardal. Mae’n rhan allweddol o’r prosiect cenedlaethol digidol, Llên Natur ac yn un o sefydlwyr, aelod gweithgar a thrysorydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Mae’n trefnu gweithdai lleol ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi enwau lleoedd lleol a’u gosod ar fap digidol i’w gwarchod. Mae’n byw'r hyn mae’n ei gredu, yn gwasanaethu ei fro a Chymru yn ei ffordd dawel, a hwythau’n elwa’n sylweddol o’i gyfraniadau.


Irfon Williams

Yn ystod ei gyfnod yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd, dangosodd Irfon Williams, Bangor, ymroddiad ac angerdd yn ei waith, gan dderbyn Gwobr Nyrs Plant y Flwyddyn yng Nghymru yn 2012. Yn 2014 cafodd wybod ei fod yn dioddef o gancr, a chan weld effaith cemotherapi ar rai merched, aeth ati i sefydlu elusen ‘Tîm Irfon’ i godi arian i Apêl Awyr Las er mwyn talu am wigiau, triniaethau amgen a chefnogaeth iechyd meddwl i gleifion a’u teuluoedd. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch Hawl i Fyw a sicrhaodd fod unigolion sydd yn dioddef o gancr yn cael yr un cyfleoedd am driniaeth yng Nghymru â chleifion mewn rhannau eraill o’r DU. Dyma ddyn mewn miliwn, ac mae’i ymgyrchu wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ac urddas cleifion yng Nghymru.


Robyn Williams

Mae Robyn Williams, Y Fali, wedi cyfrannu’n helaeth at fywyd cymunedol ei dref enedigol, Caergybi. Yn bartner mewn cwmni o gyfreithwyr sydd â swyddfa yn y dref, ef yw cyfreithiwr mygedol yr Eisteddfod eleni, ac wedi gwneud llawer ym myd y gyfraith i gefnogi a chynorthwyo mudiadau a sefydliadau lleol. Bu’n rhan allweddol o’r gwaith o gael capeli anghydffurfiol y dref i gyfarfod ar y cyd, ac mae’i gyfraniad gwerthfawr mewn capeli ar draws yr ynys yn cael ei werthfawrogi gan drigolion ardaloedd niferus. Mae wedi cyfrannu’n helaeth yn wirfoddol ac yn gymunedol ac mae’i frwdfrydedd dros yr iaith a’n diwylliant heb ei ail.

Y Wisg Werdd[golygu | golygu cod]

Linda Brown

Gellid dadlau bod enw Linda Brown, Gerlan, Bethesda, yn gyfystyr â byd y ddrama yng Nghymru gan iddi fod yn ganolog i fyd y theatr Gymraeg ers dros ddeugain mlynedd. Yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda Theatr Bara Caws o’r cychwyn, mae wedi llwyddo i greu perthynas cwbl unigryw gyda chymunedau ym mhob rhan o’r wlad, gan ddenu llu o bobl i brofi theatr Gymraeg ar lawr gwlad. Yn ddi-os, mae Linda’n un o gonglfeini ei chymuned leol yng Ngerlan a Bethesda, gan eistedd ar fyrddau niferus a llu o bwyllgorau. Mae ei chyfraniad cymunedol a chenedlaethol wedi bod yn amhrisiadwy a theg yw dweud ei bod hi’n sefydliad yn ei hun!


Elonwy Davies

Mae cyfraniad Elonwy Davies, Llanybydder, i ddiwylliant a Chymreictod ei hardal yn amhrisiadwy. Mae’n gweithio’n ddygn gyda CFFI a’r Urdd yn lleol a sirol, a phob amser yn fwy na pharod i gyfeilio a hyfforddi unigolion a phartïon i gystadlu mewn eisteddfodau a chystadlaethau lu, gan gredu bod trosglwyddo’i doniau cerddorol i’r genhedlaeth nesaf yn bwysig tu hwnt. Mae’n un o hoelion wyth Capel Rhyd y Bont, Llanybydder, yn ddiacon, ysgrifennydd, athrawes Ysgol Sul a’r organydd. Mae’n gysylltiedig gyda Chôr Meibion Cwmann a’r Cylch ers blynyddoedd, ac yn arweinydd Lleisiau’r Werin ers pymtheng mlynedd, dau gôr sy’n perfformio’n rheolaidd ar Lwyfan Maes yr Eisteddfod.


Pamela Davies

O Gasnewydd y daw Pamela Davies, Acton, Wrecsam, yn wreiddiol, ond mae’n byw yn y gogledd ddwyrain ers pan oedd yn blentyn. Yn gantores arbennig, enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1958 a 1970, ynghyd ag ennill amryw o gystadlaethau canu eraill. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel athrawes a dirprwy bennaeth cynradd, aeth ati i ddysgu Cymraeg, a mynychu cyrsiau ysgrifennu creadigol. Unwaith eto, llwyddodd i gyrraedd y brig yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ennill nifer fawr o wobrau am ei gwaith, gan gynnwys Tlws y Dysgwyr yn 1998 a Chadair y Dysgwyr yn yr Eisteddfod yn ei dinas enedigol, Casnewydd, yn 2004.


Siân Wyn Gibson

Yn wreiddiol o Ddeiniolen, mae Siân Wyn Gibson, Llanwnda, Caernarfon, yn adnabyddus i gynulleidfa’r Eisteddfod fel cantores yn ogystal â hyfforddwr rhai o’n cantorion ifanc mwyaf disglair. Yn dilyn gyrfa lwyddiannus yn canu’n broffesiynol gyda nifer o gwmnïau, dychwelodd Siân i ogledd Cymru lle mae’n canolbwyntio ar waith oratorio, cyngherddau a chynnig gwersi canu yn ei chartref ac i blant yn ardal Conwy drwy’i gwaith. Yn ddi-os, mae Siân yn un o’r bobl sydd wedi ysbrydoli nifer o gantorion ifanc i fynd ati i astudio a dilyn gyrfa broffesiynol ym maes cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt.


Iwan Guy

Mae Iwan Guy, Y Bontfaen, yn adnabyddus fel canwr, arweinydd ac athro. Yn gyn-enillydd cenedlaethol, bu’n gweithio fel canwr opera proffesiynol am flynyddoedd, gan berfformio gydag amryw o gwmnïau opera. Yn dilyn damwain, aeth ati i hyfforddi fel athro cynradd, a bu’n ddylanwadol iawn fel athro ac yna bennaeth yn y sector gynradd yn ardal y de ddwyrain cyn mynd i weithio fel cyfarwyddwr undeb penaethiaid NAHT Cymru. Parhaodd ei ddiddordeb ym myd cerddoriaeth a bu’n gyfrifol am sefydlu ac arwain nifer o gorau ynghyd â Chymdeithas Gorawl Y Bontfaen.


Geraint Jarman

Mae cyfraniad Geraint Jarman, Caerdydd, fel cyfansoddwr a bardd wedi bod o ddylanwad parhaol a phellgyrhaeddol ar ddiwylliant Cymru. Mae’n rhan allweddol o’r sîn Gymraeg ers dros ddeugain mlynedd, gan gyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth ynghyd â deunaw o recordiau hir rhwng 1976 a 2016. Yn ddi-os, mae’n un sydd wedi cyfrannu cymaint i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru, gyda chenedlaethau o unigolion a bandiau wedi’u dylanwadu ganddo ac wedi mwynhau’i gerddoriaeth drwy’r blynyddoedd.


Glesni Jones

Un sydd wedi cyfrannu’n werthfawr i’n diwylliant cerddorol ers blynyddoedd, ac yn arbennig i’r byd cerdd dant, yw Glesni Jones, Llandwrog, Caernarfon. Bu’n arwain Parti Lleu, yn hyfforddi, gosod a threfnu cerddoriaeth i’r parti am dros ugain mlynedd gan ennill llu o wobrau. Datblygodd Parti Lleu yn Gôr Arianrhod, a bu’r côr yn cefnogi’r Eisteddfod a’r Ŵyl Gerdd Dant am flynyddoedd dan ei harweinyddiaeth. Mae’n feirniad uchel ei pharch mewn eisteddfodau lleol, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Gerdd Dant, a bu’n Llywydd y Gymdeithas Gerdd Dant yn 2013. Mae ei chyfraniad cerddorol yn lleol a chenedlaethol yn amhrisiadwy dros gyfnod maith.


Emyr a Trefor Wyn Jones

Dau efaill yw Emyr Wyn Jones, Gwalchmai, a Trefor Wyn Jones, Pentre Berw, sydd yn adnabyddus am eu gwasanaeth i gerddoriaeth ym Môn am flynyddoedd. Maent wedi diddanu cynulleidfaoedd mewn cannoedd o gyngherddau a chymanfaoedd canu, ac wedi bod yn aelodau o nifer o gorau, gan gynnwys Cantorion Colin Jones, dros y blynyddoedd.


Ieuan Jones

Yn wreiddiol o Feifod, mae’r telynor amlwg, Ieuan Jones, Llundain, yn enw adnabyddus mewn nifer fawr o wledydd ar draws y byd, gyda chynulleidfaoedd yn Sbaen yn ei adnabod fel ‘Esplendoroso Jones’ oherwydd ei ddawn arbennig. Yn Athro Telyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ac yn aelod rheolaidd o banelau cystadlaethau rhyngwladol ym mhob rhan o’r byd, mae’n llysgennad ardderchog i Gymru. Mae wedi glynu’n dynn wrth ei wreiddiau gan ddychwelyd i fro ei febyd yn rheolaidd i hyfforddi a chefnogi ieuenctid yr ardal.


Rhodri Jones

Rhoddodd Rhodri Jones, Penarth, oes o wasanaeth i addysg Cymraeg ail iaith yn ne ddwyrain Cymru, gan dreulio ugain mlynedd fel Pennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Fechgyn y Barri, fel athro ymgynghorol gyda chyfrifoldeb am ail iaith yn ysgolion uwchradd Caerdydd a’r Fro ac fel Arolygwr gydag Estyn. Ond mae’i gyfraniad yn llawer ehangach na hyn, gyda’i ddiddordeb yn nhraddodiadau Cymru, yn arbennig dawnsio gwerin. Mae’n aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru ers degawdau ac yn un o sylfaenwyr Cwmni Dawns Caerdydd. Mae hefyd yn trefnu cyrsiau hyfforddi cenedlaethol, ac yn syml, yn gweithio’n ddiwyd i gadw un o’n traddodiadau cynhenid yn fyw.


Richard ac Wyn Jones

Mae Richard ac Wyn Jones, Aberteifi, yn adnabyddus fel sylfaenwyr label annibynnol Fflach, sydd wedi bod yn rhan allweddol o’r sîn gerddorol Gymraeg ers degawdau erbyn hyn. Gyda’r sîn yn datblygu, sefydlwyd is-labeli er mwyn canolbwyntio ar gynnwys mwy arbenigol, Rasp, yn gyfrwng i annog a chyhoeddi artistiaid newydd arbrofol a Fflach:tradd yn adlewyrchu deunydd gan gorau, bandiau pres yn ogystal ag artistiaid gwerin. Mae ganddynt stiwdio recordio bwrpasol yn Aberteifi, sy’n cyfrannu at economi, diwylliant ac achosion da yn eu cymuned a thu hwnt. Yn aelodau o’r band ‘Ail Symudiad’ eu hunain, mae’r brodyr hefyd yn gerddorion llwyddiannus a phoblogaidd, gyda’u caneuon yn parhau i gael eu clywed ar y radio’n rheolaidd.


Elen Wyn Keen

O Rosygwaliau ger Y Bala’n wreiddiol, mae Elen Wyn Keen, Llangristiolus, yn byw ym Môn ers blynyddoedd bellach ac yn cyfrannu i fywyd cerddorol yr ynys. Mae’n delynores a phianydd fedrus, sy’n rhoi o’i hamser i nifer o eisteddfodau, cyngherddau, sefydliadau ac ysgolion yn lleol ac yn ehangach. Hi yw cyfeilydd swyddogol Ysgol Glanaethwy ers 1997, ac mae wedi cyfeilio’n genedlaethol i’r Urdd ac Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc. Mae hefyd yn gweithio’n rhan amser fel athrawes biano deithiol i Wasanaeth Ysgolion William Mathias, ynghyd â dysgu piano i’w disgyblion ei hun. Mae bob amser yn barod iawn ei gwasanaeth yn yr ysgol gynradd leol, yn arwain yr Urdd, hyfforddi partïon ac unigolion sy’n cystadlu ar ran yr ysgol.


Jeanette Massocchi

Mae Jeanette Massocchi, Y Fenni, yn rhan o fyd cerddorol Cymru ers blynyddoedd ac wedi cyfrannu’n sylweddol i’r maes, fel cyfeilydd, beirniad a hyfforddwraig. Bu’n gyfeilydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 30 mlynedd tan 2004, ond gyda’r Eisteddfod yn Y Fenni'r llynedd, penderfynodd ail-gydio yn ei gwaith a chyfeilio a hyfforddi Côr yr Eisteddfod, ynghyd â chyfeilio’n ystod yr wythnos ei hun. Dros y blynyddoedd mae wedi annog a meithrin talentau cannoedd o bobl, nifer ohonynt yn enillwyr y Rhuban Glas ac wedi mynd ymlaen i yrfaoedd cerddorol llwyddiannus. Mae hefyd yn cyfeilio neu’n beirniadu mewn nifer o eisteddfodau ar draws Cymru, gan gynnwys yr eisteddfod leol yn Y Fenni, lle mae’n aelod o’r pwyllgor ers i’r digwyddiad gael ei adfywio yn 2002.


Derec Owen

Fel ‘Derec Teiars’ mae pawb yn adnabod Derec Owen, Llanfairpwll, gan iddo weithio fel rheolwr siop deiars yn Llangefni am flynyddoedd. Yn 1982, sefydlodd Gymdeithas Hogia Paradwys, sy’n codi arian i elusennau ym Môn a Gwynedd, gan weithredu fel Ysgrifennydd, Cadeirydd a Llywydd, a chan godi degau o filoedd o bunnau. Bu’n cyflwyno rhaglenni i Radio Ysbyty Gwynedd am bron i 30 mlynedd, ac yn tynnu lluniau i bapurau bro Ynys Môn ers canol y 70au. Erbyn hyn mae ganddo archif anferth o ffotograffau ardderchog mae’n fodlon eu rhannu â phawb. Mae’n gymwynaswr heb ei ail, yn boblogaidd gan bawb ac yn Gymro gwylaidd tra gwerthfawr i’w gymdeithas.


Mari Rhian Owen

Actores, awdures ac addysgwraig yw Mari Rhian Owen, Aberystwyth, sydd â thros 30 mlynedd o brofiad o weithio ym myd y theatr broffesiynol. Mae ganddi arbenigedd ym maes theatr ysgolion a theatr gymunedol, ac yn gweithio i Gwmni Theatr Arad Goch fel Actores Rheoli, sy’n arwain gweithdai drwy ddrama. Mae’n arwain cyrsiau ysgrifennu creadigol i fyfyrwyr israddedig a dysgwyr mewn ysgolion, ynghyd â chynnal cyrsiau hyfforddi penodol i athrawon. Mae’n diwtor cwrs TAR Drama Uwchradd ym Mhrifysgol Aberystwyth ers deng mlynedd. Yn ogystal, bu’n gyfrifol am ddyfeisio a hwyluso gweithgareddau iaith trwy ddrama ers pymtheng mlynedd yng Ngheredigion a Phowys.


Wynford Ellis Owen

I genedlaethau o Gymry, mae Wynford Ellis Owen, Creigiau, Caerdydd, yn adnabyddus fel Syr Wynff o’r gyfres enwog ‘Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan’, ac i eraill, Donald, y gweinidog o gyfres ‘Porc Peis’ ydyw. Ond i gannoedd o unigolion sy’n ddibynnol ar gyffuriau neu ddiod yn ardal Caerdydd, ef yw’r gŵr sy’n gyfrifol eu triniaeth, fel Prif Weithredwr yr elusen ‘Stafell Fyw’. Aeth ati i ennill cymhwysedd academaidd yn y maes cyn sefydlu ac agor y ganolfan, sy’n ffynnu, ac mae’n fwriad ehangu’r prosiect ymhellach a sefydlu ‘Stafelloedd Byw’ eraill yng ngorllewin a gogledd Cymru. Mae’r ganolfan yng Nghaerdydd wedi trawsnewid bywydau, a dyma oedd ei bwriad, yn dilyn ei brofiad ef ei hun.


Huw Roberts (canu gwerin)

Y byd gwerin sy’n mynd â bryd Huw Roberts, Llangefni, ac mae’i gyfraniad i’r maes, yn gerddorol ac ym maes ymchwil, yn sylweddol ers degawdau. Yn aelod o’r grŵp Cilmeri ac yna 4 yn y Bar, mae Huw yn ffidlwr o fri sydd wedi’i drwytho mewn alawon a hanes cerddoriaeth gwerin yng Nghymru ac wedi ysbrydoli llawer o ieuenctid trwy hyfforddi ar gyrsiau ffidil dros y blynyddoedd. Mae ef a’i wraig, Bethan, hefyd wedi chwarae rhan allweddol ym myd dawnsio gwerin Môn, gyda llwyddiant Ffidl Ffadl, ac yn ddiweddarach, Dawnswyr Bro Cefni, mewn cystadlaethau a gwyliau dawns yng Nghymru a thramor. Mae hefyd yn un o brif wybodusion maes y wisg genedlaethol Gymreig.


Rhian Roberts (Ysgol Glanaethwy)

Mae Rhian Roberts, Bangor, wedi addysgu ac ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc ers blynyddoedd yn sgil ei gweledigaeth hi a’i gŵr, Cefin Roberts, wrth sefydlu Ysgol Glanaethwy dros chwarter canrif yn ôl. Fel cyfarwyddwr cerdd côr iau’r ysgol, mae Rhian wedi creu profiadau ac atgofion arbennig ar gyfer llu o bobl ifanc, gan eu harwain i fuddugoliaethau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd â rhoi cyfle i’r criw ifanc deithio’r byd yn perfformio. Erbyn heddiw, mae’r ysgol yn uchel ei pharch ar draws y byd, gyda’r enw’n gyfystyr â safon a dawn. Yn ogystal â hyfforddi a chyfarwyddo, Rhian hefyd sy’n bennaf gyfrifol am weinyddu a threfnu pob elfen o waith yr ysgol brysur ym Mangor.


Jeremy Turner

Mae Jeremy Turner, Aberystwyth, yn fwyaf adnabyddus fel Cyfarwyddwr Cwmni Theatr Arad Goch, gyda thros 20,000 o blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru yn mwynhau perfformiadau’r cwmni’n flynyddol ym mhob rhan o Gymru. Yn ogystal â hyn, mae’n ddarlithydd gwadd mewn prifysgolion yng Nghymru, a’i arbenigedd ym maes y theatr wedi’i gydnabod ar lefel ryngwladol, gyda chyfleoedd i ddarlithio a chyflwyno mewn seminarau dros y byd yn flynyddol. Mae’i waith wedi’i berfformio mewn gwledydd ym mhob rhan o’r byd dros y blynyddoedd. Mae hefyd yn gyflenwr hyfforddiant proffesiynol ar gyfer awdurdodau addysg a mudiadau cenedlaethol.


Anwen Williams

Enw sy’n adnabyddus tu hwnt i unrhyw un sy’n dilyn y byd cerdd dant ac alawon gwerin yng Nghymru yw Anwen Williams, Dinbych. Dyma wraig sydd wedi gwneud cyfraniad oes i wasanaethu ei hardal ei hiaith a’i chenedl. Yn feirniad cenedlaethol, gwirfoddolwr gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Nantglyn a’r Eisteddfod Genedlaethol pan yn lleol, mae nifer fawr o bobl wedi elwa o’i hymroddiad di-flino’n hyfforddi llu o unigolion a phartïon canu a cherdd dant. Yn weithgar yn y capel am flynyddoedd, mae hefyd yn aelod prysur o Ferched y Wawr, yn Swyddog Datblygu Gogledd Ddwyrain Cymru, yn aelod o Is-bwyllgor Cenedlaethol Iaith a Gofal y mudiad ac yn gyfrifol am drefnu rhoi Y Wawr ar dâp ar gyfer y deillion yn rhanbarthau Cymru.

2016[golygu | golygu cod]

CYHOEDDI URDDAU’R ORSEDD EISTEDDFOD SIR FYNWY A’R CYFFINIAU

Heddiw (5 Mai), cyhoeddir enwau'r rheini a fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni, fore Gwener 5 Awst.

Yn unol â threfniadau Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd, mae pob aelod newydd yn dod yn aelod ar yr un gwastad, sef fel Derwydd. Mae pob person sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd, neu'r Wisg Las, yn ddibynnol ar faes eu harbenigedd.

Mae’r rheini sydd yn amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro / neu cenedl yn derbyn Urdd Derwydd – Y Wisg Las am eu gwasanaeth i’r genedl.

Mae’r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i’r Wisg Wen.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar Ddolydd y Castell, Y Fenni, o 29 Gorffennaf – 6 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.

-diwedd-

Dylid cyfeirio pob ymholiad gan y wasg a’r cyfryngau i Penri Roberts, Cofiadur Gorsedd y Beirdd ar 01686 413 480.


Manylion yr anrhydeddau eleni:

Cyhoeddir y rhestr hon ar wefan yr Eisteddfod.

Gwisg Las[golygu | golygu cod]

Roger Boore

Caerdydd yw cartref Roger Boore, a dyma le y magodd ei deulu. Pan oedd y plant yn ifanc ar ddiwedd y 1960au, sylweddolodd cyn lleied o lyfrau Cymraeg oedd ar gael ar gyfer plant a pha mor llwm oedd eu diwyg. Felly, aeth ati i sefydlu Gwasg y Dref Wen, gan gydweithio gyda gweisg tramor er mwyn creu cynnwys apelgar, dylunio lliwgar a diwyg safonol, gan gychwyn cyfnod newydd yn hanes cyhoeddi plant yng Nghymru.


Rhiannon Davies

Mae Rhiannon Davies, Llanelen, Y Fenni, wedi cyfrannu at fywiogrwydd y Gymraeg yn Sir Fynwy. Mae wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr o safbwynt cryfhau gwasanaethau Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd yn lleol yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hi hefyd wedi llwyddo i bontio’r gwaith mae wedi’i wneud i hyrwyddo’r Gymraeg ar lawr gwlad â’i gwaith yn y Bwrdd Iechyd, drwy amryw o ffyrdd, gan gynnwys meithrin cysylltiadau gydag ysgolion Cymraeg lleol er mwyn annog disgyblion Cymraeg eu hiaith i ddilyn gyrfa yn y GIG.


Robin Harries Aled Davies Bu Robin Davies, Coleford, Swydd Gaerloyw, yn weithgar dros y Gymraeg yn ardal Trefynwy am flynyddoedd lawer. Yn ogystal ag arwain y gwaith codi arian yn lleol ar gyfer yr Eisteddfod eleni, bu Robin yn olygydd y papur bro, Newyddion Gwent, am ddegawd, ac roedd hefyd yn aelod o’r grŵp a sefydlodd Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy yn 2008. Roedd yn gyfrifol am sefydlu Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a’r Cylch, ac yn chwarae rhan flaenllaw a phwysig yng Nghymdeithas Gwenynen Gwent, gan wasanaethu fel ysgrifennydd ers 2008.


H. Ellis Griffiths

Mae Hywel Ellis Griffiths, Dinas Powys, yn bennaeth Ysgol Gyfun Gwynllyw ers 2006, a’i weledigaeth yw creu unigolion cwbl ddwyieithog sy’n ymfalchïo yn eu hunaniaeth a’u treftadaeth, gyda’r weledigaeth hon yn cael ei throsglwyddo i ddisgyblion a’u rhieni. Mae gwaith Hywel Ellis Griffiths yn hyrwyddo’r Gymraeg a’r cysyniad o siarad yr iaith fel braint a chyfle wedi ysbrydoli cenhedlaeth o bobl ifanc, ac erbyn hyn mae bron i 1,000 o ddisgyblion yn yr ysgol sydd ei hun yn gymuned Gymraeg bywiog a llwyddiannus, ac yn cyfrannu’n sylweddol at agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith.


Brian Jones

Brian Jones, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin yw pennaeth Cwmni Bwydydd Castell Howell, darparwr bwydydd mwyaf Cymru erbyn hyn, sydd hefyd yn gweithredu mewn rhannau o Loegr. Sefydlodd y cwmni wrth arallgyfeirio ar ôl cyfnod yn amaethu ar y fferm deuluol, Castell Howell. Mae’r cwmni’n enwog am hyrwyddo bwydydd o Gymru, ac mae Brian a’r cwmni hefyd yn adnabyddus am gefnogi pob math o gymdeithasau a sefydliadau Cymreig, yn enwedig y rheiny sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Bydd Brian Jones hefyd yn Llywydd y Sioe Frenhinol y flwyddyn nesaf, wrth i Sir Gaerfyrddin noddi’r Sioe'r flwyddyn honno.


Emyr Wyn Jones, y Bala

Mae Emyr Wyn Jones, Rhos y Gwaliau, y Bala, yn adnabyddus fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru o 2011-15. Gwasanaethodd yr Undeb yn gwbl ddiflino, gan roi arweiniad clir a chadarn yn ystod ei gyfnod wrth y llyw. Roedd yn gydwybodol ac yn ymroddedig dros yr egwyddorion y seiliwyd yr Undeb arni. Mae’n weithgar gyda nifer o fudiadau a chymdeithasau amaethyddol ers blynyddoedd, ac mae wedi ennill amryw o wobrau ac wedi’i anrhydeddu gan wahanol gyrff a chymdeithasau yn y byd ffermio yng Nghymru.


Richard Jones, Wrecsam

Mae Richard Jones, Wrecsam, yn cael ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol fel pencampwr a llais plant ac ieuenctid sydd ag anghenion addysgol ychwanegol, yn benodol ym maes Syndrom Down. Bu’n ddylanwadol iawn wrth gydweithio gyda phlant, eu rhieni a Mencap i sicrhau cynhwysedd i blant gyda Syndrom Down, gan gynnwys ymgyrchu er mwyn eu galluogi i fynychu cylchoedd meithrin, ysgolion cynradd ac uwchradd prif-lif. Yn bennaeth cyntaf Ysgol Gymraeg Hooson, Rhosllannerchrugog, mae hefyd yn gerddor talentog ac yn gyfeilydd amlwg, ac yn cefnogi pob elfen o’r Pethe yn y dref ac ar draws y fro.


Elin Maher

Mae Elin Maher, Casnewydd, yn un o gefnogwyr mwyaf y Pethe a'r Gymraeg yn y de ddwyrain. Trwy ei hymroddiad, dycnwch a’i gweledigaeth, mae Elin wedi sefydlu a llywio Menter Casnewydd, gan ennyn brwdfrydedd ynghylch y Gymraeg yn barhaus. Mae’n drefnydd gweithgareddau Cymraeg yn y ddinas, yn gyfrannwr pwysig i Gapel Mynydd Seion, yn athrawes ac wedi bod yn amlwg ei chyfraniad a’i chefnogaeth i addysg Gymraeg ar draws yr ardal. Bu’n ymgyrchu’n galed dros sefydlu Ysgol Gyfun Gymraeg Is Gwent a hi yw Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol a fydd yn agor ei drysau fis Medi nesaf.


Aled Wyn Phillips Bu disgos Aled Wyn yn rhan o’r sin Gymraeg ers diwedd y 70au, gydag Aled Wyn Phillips, Caerdydd, wrth y llyw. Ers iddo symud o’r Rhos yn yr 80au i weithio fel pennaeth trêls S4C; ei angerdd y tu allan i’r gwaith yw hyrwyddo’r Gymraeg, gan gadeirio amryw o bwyllgorau, trefnu, cynhyrchu, bod yn DJ neu ddarparu adnoddau goleuo a sain mewn amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol a chenedlaethol. Bu hefyd yn gadeirydd Clwb y Diwc, criw cymdeithasol a fu’n hyrwyddo a chynnal digwyddiadau Cymraeg yn y brifddinas, ac a sefydlwyd yn dilyn ymweliad yr Eisteddfod â’r ardal yn 2008.


Ken Rees

Anrhydeddir Ken Rees, Hendygwyn-ar-Daf am ei gyfraniad arbennig dros Gymdeithas Genedlaethol Hywel Dda, ac yn arbennig i Ganolfan Hywel Dda dros gyfnod o flynyddoedd lawer. Yn gyn-athro yn Ysgol Dyffryn Taf, mae Ken Rees yn rhan annatod o’i gymuned leol a’i ymroddiad i’r Ganolfan fel garddwr, gofalwr, saer, tywysydd, gohebydd a’r trefnydd cyrsiau, yn amhrisiadwy. Yn lladmerydd cryf dros dwristiaeth a thros ei ardal, mae Ken wedi trefnu amryw o arddangosfeydd dros y blynyddoedd, gan godi statws a phroffil Cyfreithiau Hywel a sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn ymwybodol o’u pwysigrwydd yn hanes Cymru.


Philip Brian Richards

Mae Ei Anrhydedd y Barnwr Philip Brian Richards, Aberpennar, yn cael ei anrhydeddu am ei wasanaeth ym maes y Gyfraith, a hyn ym mlwyddyn ei ymddeoliad. Dysgodd y Gymraeg fel ail iaith, ac mae nid yn unig yn llywyddu dros achosion yn y Gymraeg, ond hefyd wedi gweithredu fel Cadeirydd is-bwyllgor Pwyllgor Sefydlog yr Arglwydd Ganghellor ar yr Iaith Gymraeg ar ddau achlysur. Bu hefyd yn weithgar ym mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg ac wedi gwasanaethu fel llywodraethwr mewn amryw o ysgolion Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf dros y blynyddoedd.


Elizabeth Saville Roberts

Roedd 2015 yn flwyddyn arwyddocaol i Liz Saville Roberts, Morfa Nefyn, wrth iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd. Hi yw aelod benywaidd cyntaf y Blaid yn San Steffan. Yn wreiddiol o Lundain, dysgodd Liz Saville Roberts Gymraeg yn y brifysgol yn Aberystwyth, ac ar ôl cyfnod yn gweithio yn Llundain, dychwelodd i Gymru fel gohebydd newyddion gyda chwmni’r Herald. Bu’n gweithio yng Ngholeg Meirion Dwyfor am flynyddoedd, yn cefnogi a hyrwyddo datblygu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ymhlith oed ôl-16, a than ei hethol yn AS, roedd yn Gyfarwyddwr Dwyieithrwydd yng Ngrŵp Llandrillo Menai.


Sue Roberts, Pwllheli

Magwyd Sue Roberts, Pwllheli, ar aelwyd ddi-gymraeg yng Nghaerdydd, ac ychydig iawn o Gymraeg oedd yn ysgolion Catholig Caerdydd yn ystod ei dyddiau ysgol. Aeth ati i ddysgu Cymraeg ar ei liwt ei hun gyda chefnogaeth dosbarthiadau yn Aelwyd yr Urdd a chymydog yn lleol. Bu’n gydlynydd y Cylch Catholig ers 20 mlynedd, gan weithio’n galed i ddod â’r Gymraeg yn rhan naturiol o’r Eglwys a’r Eglwys yn rhan o’r bywyd Cymraeg. Mae’i chyfraniad yn cynnwys cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yng ngweithgareddau’r Eglwys, yn ogystal â threfnu llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau o bob math dros y blynyddoedd.


Ceri Thomas

Bu Ceri Thomas, Y Fenni, yn weithgar ym mywyd Cymraeg ardal Y Fenni ers blynyddoedd. Yn Gadeirydd Eisteddfod y Fenni am bron i ddegawd hyd at 2011, mae’n parhau yn weithgar ac wedi defnyddio technoleg a ffyrdd newydd o gyfathrebu er mwyn cyrraedd cystadleuwyr o bob oedran. Yn wreiddiol o Abergele, mae Ceri’n rhan allweddol o’r gymuned Gymraeg yn Y Fenni, ac mae hybu defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned ac yn y gweithle’n greiddiol i fywyd Ceri., Mae hi wedi gweithio’n ddiflino trwy adegau anodd er mwyn cryfhau Cymreictod y Fenni a dylanwad Cymreig a Chymraeg ei gweithleoedd.


Gwenda Thomas

Bu Gwenda Thomas yn Aelod Cynulliad ers y cychwyn, gan gynrychioli etholaeth Castell-nedd am ddwy flynedd ar bymtheg. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Tai, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, a chadeiriodd adolygiad o Ddiogelu Plant sy’n Agored i Niwed yng Nghymru. Yn ogystal, bu’n Ddirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol. Yn ystod ei chyfnod, bu’n gweithio’n ddiwyd er mwyn gwella darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Drwy gydol ei chyfnod fel rhan o’r Cynulliad bu Gwenda Thomas yn ymroddedig i wella pethau er mwyn y bobl sydd yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.


John Gordon Williams Mae John Gordon Williams yn rhan allweddol o’r gymuned Gymraeg yn Lerpwl ers blynyddoedd. Bu’n Feddyg Ymgynghorol mewn Resbiradaeth yn ysbytai’r ardal tan ei ymddeoliad, a bu’n Llywydd y Gymdeithas Feddygol Gymraeg, gan ddarlithio yn ei chynadleddau amryw o weithiau. Dros y blynyddoedd, cyfrannodd i weithgareddau a chymdeithasau Cymreig Lerpwl, a bu’n weithgar ym mharatoadau Gŵyl y Mimosa yn y ddinas y llynedd. Yn ogystal, cyfrannodd yn gyson i bapur bro Glannau Mersi a Manceinion, Yr Angor. Yn wreiddiol o Gaergybi, cafodd yr anrhydedd o fod yn Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Môn yn ddiweddar.


Gwyneth Williams

Bu Gwyneth Williams, Pontsenni, yn eithriadol o gefnogol i iaith a diwylliant Cymru drwy’i hoes ac yn weithgar iawn yn y maes eisteddfodol. Llefaru yw ei maes hyfforddi, ac mae wedi treulio blynyddoedd yn hyfforddi ac yn cefnogi cenedlaethau o blant a phobl ifanc yn y grefft. Braf yw gweld cynifer o ieuenctid yr ardal yn llwyddo ar lwyfannau eisteddfodau lleol yn ogystal â chenedlaethol. Bu Gwyneth Williams yn ohebydd i’r papur bro lleol, Y Fan a’r Lle ers ugain mlynedd ac mae’n weithgar iawn gyda nifer o fudiadau ar draws y fro.


Dafydd Wyn, Glanaman Mae’r gymuned a’r gymdeithas mae’n rhan ohoni’n rhan bwysig o fywyd Dafydd Wyn, Glanaman, a bu ei gyfraniad i’r gymuned honno’n fawr dros y blynyddoedd. Yn un o sylfaenwyr y papur bro Glo Mân bron i ddeugain mlynedd yn ôl, bu’n golofnydd cyson yn y papur hwnnw dros y blynyddoedd. Ef oedd yn gyfrifol am gychwyn Cylch Darllen Llyfrau Cymraeg Llyfrgell Rhydaman, ac mae’n parhau i gyd-redeg y cynllun hwn hyd heddiw. Mae’n gynghorydd cymuned, a bu’n Faer Cwmaman ddwywaith dros y blynyddoedd. Mae’n fardd ac yn enillydd nifer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol.


Gwisg Werdd[golygu | golygu cod]

Carole Collins

Aeth Carole Collins, Prion, Dinbych, ati i ddysgu Cymraeg iddi’i hun a’i gŵr, magu ei phlant yn Gymraeg a rhoi oes o wasanaeth yn hybu ac addysgu’r Gymraeg i genedlaethau o blant y gogledd ddwyrain. Yn frwdfrydig dros yr iaith a diwylliant Cymru ers yn ifanc, llwyddodd Carole i sicrhau lle i’r Gymraeg, eisteddfodau ysgol a’r Urdd yn rhai o ysgolion Seisnig yr ardal, ac mae’n gweithio fel athrawes fro yn Sir y Fflint, yn gyfrifol am gynlluniau addysgu’r Gymraeg mewn 16 o ysgolion cynradd a 3 ysgol uwchradd. Dyma wraig sy’n hybu’r Gymraeg pob cyfle posibl drwy’i gwaith ac yn ei bywyd personol.


Martha Davies

Brodor o UDA yw Martha Davies, Lincoln, Nebraska, ond mae ei Chymreictod yn gryf, a bu’n weithgar yng nghymuned Gymreig Gogledd America ers bron i hanner canrif. Daeth i fyw i Gymru am bedair blynedd, a dysgodd Gymraeg yn Aberystwyth cyn dychwelyd i’r UDA lle bu’n gweithio fel archifydd, llyfrgellydd a chyfieithydd nifer o lyfrau a dogfennau Cymreig. Gyda’i gŵr, Berwyn Jones, mae’n rhedeg Prosiect Canolfan Gymreig y Gwastadedd Mawr yn Nebraska, sy’n derbyn pob math o ddogfennau, llyfrau ac arteffactau o gartrefi a chapeli Cymreig dros y wlad. Mae hefyd yn gyfrifol am ddigideiddio dau o bapurau newydd Cymreig Gogledd America sef Y Drych a Ninnau.


Jennifer Eynon

Yn wreiddiol o Gricieth, mae Jennifer Eynon yn byw yn Wrecsam ers hanner canrif, ac mae’n un o hoelion wyth yr iaith a diwylliant yn yr ardal ers blynyddoedd. Mae’n hyfforddi plant a phobl ifanc i lefaru ar gyfer cyngherddau, gwasanaethau ac eisteddfodau, ac yn cael pleser mawr o wneud hynny, a bu’n Gadeirydd Pwyllgor Llefaru’r Eisteddfod yn Wrecsam a’r Fro yn 2011. Mae hefyd yn codi arian i Hosbis Tŷ’r Eos ers blynyddoedd lawer, ac yn trefnu gweithgareddau a digwyddiadau Cymraeg yn yr ardal er mwyn gwneud hynny, gan roi llwyfan newydd i’r rheiny sydd am berfformio yn y Gymraeg yn lleol.


Gruffydd John Harries

Cerddor sydd wedi gweithio gydag ystod eang o ensembles yw Gruffydd John Harries (Griff), Mwmbwls, Abertawe. Mae ganddo brofiad gydag amryw o gerddorfeydd amlwg ac mae hefyd wedi gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar nifer o gyngherddau dros y blynyddoedd. Mae llawer o’i waith yn ymwneud gyda’r byd teledu, gyda’r mwyafrif o’i waith ar gynyrchiadau Cymraeg. Roedd yn gerddor cysylltiol i’r ffilm lwyddiannus ‘Dan yr Wenallt’ yn ddiweddar. Mae’n gerddor heb ei ail ac yn un sydd bob amser yn barod ei gymwynas i hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymru.


Anne Hughes

Y ddawns werin Gymreig yw maes diddordeb Anne Hughes, Tongwynlais, Caerdydd, a bu’n gweithio’n ddiwyd er ei budd am flynyddoedd lawer. Yn un o sefydlwyr dawnswyr Gwerinwyr Gwent, roedd hi hefyd yn un o’r rhai a sefydlodd Dawnswyr Gwerin Penyfai, ac mae’n parhau’n aelod o’r grŵp. Yn 2012, roedd hi’n gyd-gyfrifol am ddethol a dysgu’r Ddawns Flodau yn Eisteddfod Bro Morgannwg, ac ers hynny, mae Anne wedi parhau mewn rôl ymgynghorol i’r hyfforddwyr. Mae’n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Ddawns Werin Cymru a phaneli dawns yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd ac yn ysgrifennydd Gŵyl y Cwlwm Celtaidd, Porthcawl.


Ken Hughes

Byddai gwaith yr Urdd yn ardal Rhanbarth Eryri wedi bod yn llawer anoddach heb bresenoldeb a chefnogaeth Ken Hughes, Cricieth, dros y blynyddoedd. Yn athro a phennaeth cynradd am dros 40 mlynedd, cafodd cenedlaethau o blant gyfle i berfformio dan ei ofal. Bu’n gyfrifol am sgriptio a chyfarwyddo sioe gynradd yr Urdd yn 2012, a bu hefyd yn ysgrifennydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd yn 1990. Ar hyn o bryd, mae’n gadeirydd pwyllgor gwaith Gŵyl Cerdd Dant Llŷn ac Eifionydd eleni. Mae’n feirniad eisteddfodol ac yn un sydd wedi cyfrannu llawer i i ddiwylliant ei ardal dros y blynyddoedd.


Gwyn Elfyn Lloyd Jones Mae Gwyn Elfyn Lloyd Jones, Pontyberem, Llanelli, yn adnabyddus i wylwyr S4C fel y cymeriad Denzil yng nghyfres Pobol y Cwm. Er ei fod yn gweithio yng Nghaerdydd, Cwm Gwendraeth oedd ei gartref drwy’r blynyddoedd. Mae’n Gadeirydd Pwyllgor Rheoli a Chadeirydd menter Iaith Cwm Gwendraeth Elli, ac yn weithgar gyda’r clwb rygbi lleol, gan hyfforddi timau ieuenctid am flynyddoedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn hyn mae’n Weinidog ar Gapel Seion Drefach, gyda’r Ysgol Sul a’r oedfaon yn ffynnu unwaith eto dan ei ofal. Actor, gweinidog, Cymro gwladgarol a dyn ei filltir sgwâr sydd wedi cyfrannu’n helaeth i fywyd a diwylliant Cymru.


Megan Jones

Bu Megan Jones, Penparcau, Aberystwyth, yn ddiwyd iawn ei chefnogaeth i nifer fawr o fudiadau dyngarol yng Ngheredigion, gan godi miloedd i elusennau ac achosion da. Mae’n cefnogi digwyddiadau diwylliannol yn ardal Aberystwyth, yn gadeirydd pwyllgor y papur bro lleol, Yr Angor, ac yn gyfrwng i ail-gychwyn yr Eisteddfod yn Aberystwyth. Mae hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Mae’n aelod ffyddlon a gweithgar o’i changen leol o Ferched y Wawr ac wedi bod yn llywydd droeon. Bu hefyd yn Llywydd Rhanbarth Ceredigion y mudiad o 2013-15.


Siân Lewis

Un o bobl Caerdydd yw Siân Lewis, ac wedi gweithio’n galed dros ei dinas drwy’r blynyddoedd. Ymunodd â Menter Iaith Caerdydd bron i bymtheng mlynedd yn ôl, ac mae’r Fenter wedi datblygu a ffynnu dan ei gofal, gyda gweithgareddau Cymraeg wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y cyfnod. Mae gŵyl flynyddol Tafwyl yng Nghastell Caerdydd wedi bod yn llwyddiant mawr gan roi cyfle i ddegau o filoedd o bobl i fwynhau ystod eang o ddigwyddiadau, a datblygiad diweddar Yr Hen Lyfrgell yng nghanol y ddinas yn ychwanegiad cyffrous i fywyd Cymraeg y brifddinas. Mae egni, gweledigaeth a dyfalbarhad Siân wedi bod yn rhan hollbwysig o’r llwyddiant hwn.


Wyn Lodwick

Mae Wyn Lodwick, Pwll, Llanelli, yn adnabyddus i bawb fel ‘Y Dyn Jazz’. Cafodd yrfa eithriadol lwyddiannus yn y byd jazz,a chyfle i deithio’r byd yn perfformio, a bu hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y teledu dros y blynyddoedd. Y clarinet yw offeryn Wyn, ac mae’n gerddor amryddawn, sydd wedi gosod tonau a chaneuon Cymraeg a Chymreig i steil jazz. Mae hefyd wedi darlithio’n helaeth ar hanes ac ystyr jazz, ac wedi gweithio’n ddi-flino er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a’n diwylliant, drwy gyfrwng jazz ac yn gyffredinol yma yng Nghymru a thu hwnt.


Ruth Lloyd Owen Mae Ruth Lloyd Owen, Llanddoged, Llanrwst, yn berson gweithgar a brwdfrydig sydd wedi cyfrannu llawer dros yr iaith a diwylliant yn ei hardal. Mae’n athrawes wrth ei galwedigaeth ac wedi hyfforddi a chyfeilio i nifer fawr o blant a phobl ifanc yn yr ardal dros y blynyddoedd. Bu’n cyfeilio i Gôr Merched Carmel am flynyddoedd ac mae’n parhau i gyfeilio i Gôr Genod y Gân. Mae hi hefyd yn gyfansoddwraig ddawnus, a hi sy’n gyfrifol am anthem Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Gobaith yn y Tir.


Dafydd Meirion Roberts

Mae Dafydd Meirion Roberts, Cwm-y-Glo, Caernarfon, yn brif weithredwr cwmni recordio Sain, ac yn aelod o’r grŵp poblogaidd Ar Log. Mae cyfraniad Dafydd i fyd cerddorol Cymraeg yn adnabyddus, ac mae wedi gweithio’n galed dros hawliau a thelerau teg i gerddorion o Gymru drwy gwmni Eos. Bu hefyd yn rhan o fwrdd y Welsh Music Foundation, yn cefnogi cerddorion Cymru ac yn llwyddo i ddenu WOMEX i Gaerdydd ddwy flynedd yn ôl. Mae Dafydd hefyd wedi gweithio’n ddiflino dros ddiwylliant a’r iaith yn ei gymuned gan sicrhau bod cannoedd o blant a phobl ifanc yn elwa o gyfleoedd i berfformio.


Godfrey Wyn Williams Mae Godfrey Williams, Trefor, Llangollen, yn fwyaf adnabyddus fel cyn-berchennog yr orsaf radio Marcher Sound a wasanaethai ardal Wrecsam a gogledd ddwyrain Cymru. O dan ei arweiniad ef, trowyd Marcher Sound yn Sain y Gororau, gan roi lle amlwg a theilwng i’r Gymraeg a rhaglenni Cymraeg ar ei thonfeddi. Ar ôl gwerthu’r orsaf, cafodd gyfle i chwarae rhan fwy blaenllaw yn y gymuned, gan weithredu fel aelod gweithgar ac egnïol o nifer o bwyllgorau a byrddau cenedlaethol a lleol dros y blynyddoedd. Mae’n enwog yn yr ardal fel cymwynaswr heb ei ail sy’n adnabod pawb ac yn fwy na pharod i helpu unrhyw un.