Terry Dyddgen-Jones
| Terry Dyddgen-Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | Terry Jones 3 Gorffennaf 1950 Crwbin |
| Bu farw | 27 Mehefin 2018 Caerdydd |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | cyfarwyddwr teledu |
| Plant | Siôn Russell Jones |
Cyfarwyddwr a cynhyrchydd teledu o Gymro oedd Terry Dyddgen-Jones (3 Gorffennaf 1950 – 27 Mehefin 2018).[1]
Yn wreiddiol o Sir gaerfyrddin, roedd Terry'n fwyaf adnabyddus fel un o gyfarwyddwyr drama teledu rhwydwaith, ac am gynhyrchu ffilmiau ar gyfer BBC ac ITV. Bu’n gyfrifol am gyfarwyddo dros 200 o benodau o'r opera sebon Coronation Street, ac roedd hefyd yn adnabyddus yng Nghymru am gyfarwyddo cyfresi Parch a Byw Celwydd, ynghyd â’i waith fel uwch-gynhyrchydd Pobol y Cwm. Bu farw Terry Dyddgen Jones ddiwedd Mehefin yn Ysbyty Felindre, Caerdydd wedi salwch byr.[2] Ei fab yw'r canwr a cyfansoddwr Sion Russell Jones.[3]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd ym mhentref Crwbin, Sir Gaerfyrddin. Aeth i Ysgol Ramadeg Cwm Gwendraeth.[4] Ei enw bedydd oedd Terry Jones ond pan ymunodd ag Equity yn 1974 roedd rhaid iddo ddewis enw newydd er mwyn osgoi dryswch gyda'r digrifwr Terry Jones o Monty Python. Dewisodd yr enw Dyddgen am fod ei hen-ddad-cu wedi ei ddefnyddio fel enw barddol. Mae yna hefyd Gapel Dyddgen ger Crwbin.[3]
Cychwynnodd ei yrfa fel athro drama yn Ysgol Glan Clwyd a bu'n gweithio gyda Clwyd Theatr Cymru yn y cyfnod hwn.[5]
Gyrfa teledu
[golygu | golygu cod]Yn y 1970au roedd yn gyflwynydd a chynhyrchydd rhaglenni Cymraeg gyda HTV Cymru. Bu hefyd yn actor, cynhyrchydd a chyfarwyddwr ar Pobol y Cwm. Bu'n cyfarwyddo penodau o'r gyfres ddrama Pam Fi Duw? yn y 1990au. Gweithiodd fel cyfarwyddwr ar rai o operâu sebon mwyaf y BBC ac ITV, yn bennaf ar dros 200 benodau ar Coronation Street rhwng 1997 a 2014. Gweithiodd am gyfnodau ar Hollyoaks, Eastenders ac Emmerdale hefyd.
Yn fwy diweddar, bu'n cyfarwyddo ar y cyfresi drama Cymraeg Byw Celwydd a Parch.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn briod a Judith ac yn dad i Leah, Jack, Sion, Eilir a Becky. Bu farw yn 67 mlwydd oed yn diyn salwch byr. Cynhaliwyd ei angladd ar 16 Gorffennaf am 2pm yng Nghadeirlan Llandaf ac yna yng Ngapel y Wenallt yn Ymlosgfa Draenen Pen-y-graig [6].
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Enillodd sawl wobr BAFTA am ei waith ar operâu sebon a dramâu.
Anrhydeddwyd ef, wedi'i farwolaeth, gyda gwisg werdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "TELMEDIA LTD overview - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-02-15.
- ↑ Y cyfarwyddwr teledu Terry Dyddgen-Jones wedi marw , BBC Cymru Fyw, 28 Mehefin 2018.
- 1 2 (Saesneg) Coronation Street Blog interviews Corrie director Terry Dyddgen-Jones. Coronation Street Blog (12 Mawrth 2015). Adalwyd ar 28 Mehefin 2018.
- ↑ Ddysgu rhywbeth newydd bob dydd , Pembrokeshire Herald, 14 Hydref 2016. Cyrchwyd ar 28 Mehefin 2018.
- ↑ Street wise; Gareth Bicknell on how Terry Dyddgen-Jones went from drama teacher to The Street director. (en) , Daily Post, 19 Mehefin 2004. Cyrchwyd ar 28 Mehefin 2018.
- ↑ "Click here to view the tribute page for Terry DYDDGEN-JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-01-25.