Roger Boore

Oddi ar Wicipedia
Roger Boore
Ganwyd28 Medi 1938 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw30 Gorffennaf 2021 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, person busnes Edit this on Wikidata

Cyhoeddwr llyfrau ac awdur oedd Roger Pryse Boore (28 Medi 193830 Gorffennaf 2021). Mae'n fwyaf adnabyddus am sefydlu Gwasg y Dref Wen gyda'i wraig Anne yn 1969, gyda'r nod yn bennaf o gyhoeddi llyfrau Cymraeg o safon uchel i blant. Roedd hefyd yn awdur llyfrau teithio Cymraeg.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed yng Nghaerdydd yn 1938, ond magwyd yn Leamington Spa, Warwickshire, Lloegr. Addysgwyd yn Ysgol Warwick a Choleg Iesu, Rhydychen. Enillodd radd yn y Clasuron ("Literae Humaniores") yn Rhydychen yn 1961 a PhD mewn Hanes ym Mhrifysgol Cymru Abertawe yn 2005. Aeth ymlaen i fod yn gyfrifydd siartredig. Dysgodd Gymraeg ar ôl i’w deulu golli’r iaith.[2][3][4]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ef a’i wraig Anne a sefydlodd Wasg y Dref Wen, Caerdydd, yn 1969-70, gyda phwyslais ar lyfrau Cymraeg i blant, gan ddechrau â rhai lliwgar storïol ac ehangu i lyfrau addysgol, llyfrau dwyieithog ac eraill.[2][5] Ymhlith y llaweroedd o gyhoeddiadau’r wasg dan ei reolaeth roedd Llyfr Hwiangerddi y Dref Wen, Y Geiriadur Lliwgar, a'r cyfresi "Storïau Hanes Cymru" ac "O’r Dechrau i’r Diwedd" (am grefyddau). Trosodd Roger Boore nifer o lyfrau plant i’r Gymraeg o amryw ieithoedd, yn cynnwys cyfrolau gwreiddiol Asterix a Tintin a'r clasur Y Teigr a Ddaeth i De.

Yn 1997 dyfarnwyd iddo Dlws Mary Vaughan Jones am ei “gyfraniad nodedig i faes llyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd”[4][6] ac yn 2016 derbyniwyd yn aelod o Orsedd y Beirdd, Wisg Las, am ei “wasanaeth i’r genedl”.[7][8]

Enillodd Roger Boore gystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor a'r cylch 1971 a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Pantyfedwen 1972. Yn ogystal â’i drosiadau, cyhoeddodd un casgliad o straeon byrion, un nofel i blant a chyfres arloesol o bum llyfr taith.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod ag Anne a cawsant tri mab, Gwilym, Rhys ag Alun. Yn dilyn ei ymddeoliad yn 1999, ei blant oedd yn rhedeg y wasg.

Llyfryddiaeth i blant[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth i oedolion[golygu | golygu cod]

Gwobrau ac Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Adnabod Awdur: Roger Boore". Llais Llên, BBC Cymru. 2008-12-11. Cyrchwyd 2008-12-11.
  2. 2.0 2.1 "Cyhoeddwr sydd am addasu'r llyfrau gorau ar gyfer plant Cymru". Y Cymro. 1970-09-30.
  3. Creber, Paul (1973-11-22). "One-man band with a critic. aged five". The Western Mail.
  4. 4.0 4.1 Griffiths, Gwyn (1997-07-02). "Dod â goreuon byd i blant Cymru". Y Cymro.
  5. Shankland, Liz (1993-03-24). "Family affairs". Family Life, The Western Mail.
  6. Basini, Mario (1997-10-04). "Hard going in the tough world of publishing". The Western Mail.
  7. "Cymru "yn dod yn fyw"". Golwg. 4-8-2016.
  8. "Anrhydeddau'r Orsedd 2016 / Gorsedd Honours for 2016". Anrhydeddau'r Orsedd 2016 / Gorsedd Honours for 2016. 2016-05-06. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]