David Elis
Gwedd
David Elis | |
---|---|
Ganwyd | 31 Awst 1736 Dolgellau |
Bu farw | 1795 Cricieth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, offeiriad |
Ysgolhaig a chyfieithydd o Gymru oedd David Elis (31 Awst 1736 – Mai 1795). Roedd yn frodor o blwyf Dolgellau ym Meirionnydd, Gwynedd.
Bywgrafiad
[golygu | golygu cod]Offeiriad Anglicanaidd oedd David Elis wrth ei alwedigaeth. Cafodd ei addysg brifysgol yn Rhydychen. Gwasanaethodd fel curad mewn sawl plwyf ar draws gogledd Cymru a dim ond ym mlwyddyn olaf ei oes y cafodd ei ordeinio'n Berson, a hynny yn Llanberis, lle bu farw yn 1795.[1]
Cyfieithodd sawl llyfr ar bynciau crefyddol o'r Saesneg i'r Gymraeg, ond fe'i cofir yn bennaf am ei waith fel copïwr llawysgrifau Cymreig. Mae llawer o'r rhain ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac maent yn cynnwys rhai testunau na fyddent ar gael heddiw heb lafur David Elis.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyfieithiadau:
- Gwybodaeth ac Ymarfer o'r Grefydd Gristionogol gan Thomas Wilson (1774)
- Llawlyfr o weddïau ar achosion cyffredin gan James Merrick (1774)
- Histori yr Iesu Sanctaidd gan William Smith (1776)