Neidio i'r cynnwys

D. Jacob Davies

Oddi ar Wicipedia
D. Jacob Davies
Ganwyd5 Medi 1916 Edit this on Wikidata
Tre-groes Edit this on Wikidata
Bu farw11 Chwefror 1974 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyflwynydd radio, sgriptiwr, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
Cofeb i Jacob Davies ar Penlôn, y ty y cafodd ei eni a'i fagu ynddo yn Nhregroes, ger Llandysul.

Gweinidog Undodaidd oedd D. Jacob Davies (5 Medi 191611 Chwefror 1974) a ddaeth hefyd yn adnabyddus trwy Gymru fel darlledwr, llenor a newyddiadurwr.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd ef ar 5 Medi 1916[1] ym Mhenlôn, Tregroes, ger Llandysul, yn un o bump o blant David a Mary Davies. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Tregroes ac ennill ysgoloriaeth 1929 i fynychu Ysgol Ramadeg Llandysul. Aeth yn ei flaen wedi hynny i astudio yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin ac, ar ôl cwblhau'r cwrs, cafodd ei ordeinio'n weinidog yn Capel Bach, y capel Undodaidd yn Aberystwyth. Ymrestrodd bryd hynny hefyd fel myfyriwr yn y Brifysgol a graddiodd yn 1945.

Gweinidogaeth

[golygu | golygu cod]

Roedd wedi bwriadu mynd yn ei flaen i astudio ar gyfer gradd MA, ond derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar yr eglwysi Undodaidd yn Highland Place, Aberdâr, a Hen-Dy-Cwrdd, Trecynon. Yn ogystal â chyflawni ei ddyletswyddau fel gweinidog, cyfrannodd yn fawr i fywyd y gymdeithas yn Aberdar, a chymrodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch i sefydlu'r ysgol gynradd Gymraeg yn y dref, Ysgol Gymraeg Aberdar.

Dychwelodd i fro ei febyd yn 1957, fel gweinidog ar y tair eglwys Undodaidd yn Alltyblacca; Capel y Bryn, Cwrtnewydd; a Cwmsychbant. Arhosodd yno tan ei farwolaeth yn 1974.

Bu Davies yn ddarlledwr, yn llenor a newyddiadurwr. Bu'n olygydd ar y cylchgrawn Undodaidd, Yr Ymofynnydd. Ymgyrchodd dros hawliau pensiynwyr a Phensiynwr Cymru rhwng 1955 a 1973. Byddai'n cael ei alw i lywyddu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Roedd yn gefnogwr i Blaid Cymru, a safodd fel ymgeisydd dros y blaid yn etholiad Cyngor Sir Dyfed 1973. Daeth yn bedwerydd gyda 21 y cant o'r bleidlais.[2]

Ynghyd a'r amrywiol weithgareddau hyn, roedd Davies yn amlwg o fewn i'w enwad y tu hwnt i Gymru ac ef oedd Llywydd Cynulliad Cyffredinol yr Undodiaid ar adeg ei farwolaeth.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw Jacob Davies yn sydyn ar 11 Chwefror 1974. Claddwyd ef bedwar diwrnod yn ddiweddarach ym Mynwent Bwlchyfadfa Cemetery, Talgarreg.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "DAVIES, DAVID JACOB (1916 - 1974), gweinidog, llenor a darlledwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-07-27.
  2. "Dyfed County Council Election Results 1973-1993" (PDF). The Elections Centre, Plymouth University. Cyrchwyd 8 May 2016.
  3. Evans, D.J. Goronwy (25 March 1983). "Cofio Jacob Davies". Cambrian News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-18. Cyrchwyd 10 June 2016.CS1 maint: ref=harv (link)