Corhedydd y graig
| Corhedydd y graig Anthus petrosus | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Motacillidae |
| Genws: | pipit[*] |
| Rhywogaeth: | Anthus petrosus |
| Enw deuenwol | |
| Anthus petrosus | |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Corhedydd y graig (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: corhedyddion y graig) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Anthus petrosus; yr enw Saesneg arno yw Rock pipit. Mae'n perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Mae'r teulu'n cynnwys y siglennod yn ogystal a'r corhedyddion.[1] Mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas y traethau yng Nghymru.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar hyd traethau creigiog yn Ewrop o Lydaw hyd Rwsia. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae'r adar sy'n nythu yng ngweldydd Llychlyn a Rwsia yn symud tua'r de yn y gaeaf.
Fel y rhan fwyaf o'r corhedyddion mae'n aderyn brown ar y cefn a brown golau gyda marciau duon ar y fron a'r bol. Gall fod yn anodd ei wahaniaethu oddi wrth gorhedyddion eraill, megis Gorhedydd y Waun, ond mae coesau twyll yn nodwedd i sylwi arni. Pryfed yw'r prif fwyd.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. petrosus, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r corhedydd y graig yn perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Aderyn hirewin Abysinia | Macronyx flavicollis | |
| Aderyn hirewin Fülleborn | Macronyx fuelleborni | |
| Aderyn hirewin Grimwood | Macronyx grimwoodi | |
| Aderyn hirewin gwridog | Macronyx ameliae | |
| Aderyn hirewin gyddf-felyn | Macronyx croceus | |
| Aderyn hirewin Pangani | Macronyx aurantiigula | |
| Aderyn hirewin y Penrhyn | Macronyx capensis | |
| Corhedydd euraid | Tmetothylacus tenellus | |
| Macronyx sharpei | Macronyx sharpei | |
| Siglen goedwig | Dendronanthus indicus |
Bwyd
[golygu | golygu cod]Pryfed mân o’r traeth yn arferol, ond cofnodwyd y canlynol pan fuont o dan bwysau:
- 16 Rhagfyr 2010: Bore 14 Rhag 2010 corhedydd y graig yn pigo am sbarion yn y lôn ym mhen uchaf Stryd Llyn, Caernarfon. Eira mawr ar ei ffordd - eto![3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ Tywyddiadur Llên Natur trwy Fwletin Llên Natur Archifwyd 2020-01-16 yn y Peiriant Wayback








